Llên Gwerin

Hediad Shemi Wâd

Roedd James Wade, neu Shemi Wâd, yn dipyn o gymeriad a storïwr lleol, ac mae nifer o straeon gwerin o ogledd Sir Benfro yn arbennig naill ai’n ymwneud â’r gŵr lliwgar hwn, neu’n cael eu priodoli iddo. Roedd yn byw mewn bwthyn bach, gwyngalchog gyferbyn â Chapel Berachah ar Broom Street, Wdig (a ailenwyd yn Duke Street yn ddiweddarach). Roedd Shemi’n ennill ei damaid fel gweithiwr crwydrol: garddio i’r byddigions lleol, teithio o un fferm i’r llall i ladd moch a helpu gyda’r cynhaeaf. Ond roedd hefyd yn berchen ar gwch bach, ac fe dreuliai lawer o’i amser yn pysgota am benwaig Abergwaun i’w gwerthu er mwyn eu halltu a’u ffrïo, a physgod cregyn i’w gwerthu i bobl leol ac ymwelwyr yn ystod y tymor.

Shemi Wâd, Amgueddfa Werin Cymru

Bu farw ar 2 Ionawr 1897, wedi cyrraedd ei bedwar ugain oed. Mae ei garreg fedd yn Rhos-y-Caerau, Pencaer yn wynebu rhai o’i hoff fannau: Garn Fawr, Garn Fechan a Garn Folch. Roedd gan Shemi hefyd dipyn o enw fel poerwr baco gorau’r fro, felly pe bai unrhyw un yn ddigon dewr i amau ei straeon celwydd golau, roedd yn beth call sefyll mwy na chwe throedfedd oddi wrtho! Dyma un o’r hanesion hynny.

Stori Celwydd Golau

Un diwrnod braf o haf, roedd Shemi’n pysgota ar y Parrog gyda dwsin o fachau ac abwyd ar bob un i ddenu pysgod. Ar ôl prynhawn hir yn llygad yr haul yn aros am frathiad, teimlodd Shemi’n gysglyd, felly cymerodd gam neu ddau yn ôl, aeth i orwedd ar fryncyn glaswelltog, clymodd y llinynnau o amgylch ei bigwrn de ac o fewn eiliadau, roedd yn cysgu’n drwm. Roedd Shemi’n cysgu mor drwm fel na sylwodd ar y llanw’n cilio, gan adael yr holl abwyd ar ei linynnau pysgota yn y golwg.

Mewn dim o dro, dyma haid o wylanod yn glanio a llowcio’r abwyd i gyd. Ar ôl ychydig eiliadau dyma chwyrnu Shemi’n tarfu arnynt, ac i fyny i’r awyr â nhw, gan hedfan dros Fae Ceredigion a llusgo Shemi y tu ôl iddynt, ac yntau’n dal mewn trwmgwsg. Hedfanodd y gwylanod yr holl ffordd i Iwerddon, gan lanio o’r diwedd ym Mharc Phoenix, Dulyn. Cafodd Shemi gymaint o ergyd pan darodd y ddaear nes iddo ddeffro o’r diwedd. Wedi dychryn, rhyddhaodd ei hun o’r llinynnau pysgota a baglodd hwnt ac yma yn ceisio deall lle’r oedd y lle dierth yma. Sylweddolodd cyn hir ei fod yn Iwerddon, ond gan ei bod yn nosi ac yntau’n adnabod neb, aeth i chwilio am loches am y nos. Ar gyrion y parc gwelodd res o ganonau. Un bach o gorff oedd Shemi, ac felly dringodd i mewn i faril un o’r gynnau mawr, a chyn pen dim syrthiodd i gysgu.

Ond yn ddiarwybod i Shemi druan, roedd yn arfer gan y fyddin danio salíwt o’r canon bob bore. Ac felly, â Shemi’n dal i gysgu’n drwm, fe’i saethwyd yn ddiseremoni allan o’r baril a thros Fôr Iwerddon. Drwy drugaredd, glaniodd ar laswellt meddal Pencw, yn agos at ei gartref yn Wdig.

Taerai Shemi hyd y diwedd fod holl fanylion y stori’n wir…a thaerai pawb a glywodd y stori eu bod yn ei gredu…oni bai eu bod yn sefyll fwy na chwe throedfedd oddi wrtho!

Ffynonellau:

The Story of the best tobbacco spitter around, County Echo Reporter, 13 Rhagfyr 2017

Tall Tale from Goodwick (8.4), Pembrokeshire Folk Tales gan Brian John