Comisiwn Celf

John Sunderland

“Dros y tair degawd diwethaf, rwyf wedi dilyn gyrfaoedd ochr yn ochr ac wedi’u cydblethu ym mydoedd celf weledol ac archeoleg. Trwy hyn, rwyf wedi datblygu ymarfer trawsddisgyblaethol sydd wedi’i lywio gan ymchwil ym meysydd daearyddiaeth, archeoleg gyfoes a chelf. Rwy’n un o sefydlwyr The Praxis Collective, sy’n grŵp rhyngwladol o artistiaid ac ymarferwyr trawsddisgyblaethol sy’n chwilio am ffyrdd newydd o fynd i’r afael â materion cyfoes trwy theori gadarn ei sail a chydweithio rhwng celf a gwyddoniaeth.Ar hyn o bryd, mae fy ngwaith yn ymwneud â mapio dwfn ac amser dwfn yr Anthroposen er mwyn tyrchu i’r gorffennol, a hynny yn y presennol a gyda golwg i’r dyfodol.” John Sunderland

Cwestiynau ynghylch y Da a’r Drwg

'The Shooting Hut' (Site 1, Visit 9) o brosiect 'Touching Darkness' (2019)

“Yn fy nhyb i, cynnyrch yr Oes Oleuedig, gyda’i holl gymhlethdodau o ran gwladychiaeth a meddiannu diwylliannol, yw archeoleg, sef y ddisgyblaeth o astudio’r gorffennol materol. Mae wedi datblygu yn ymchwiliad ar sail tystiolaeth fanwl i fateroldeb mewn amryfal ffurfiau (ecolegol a diwylliannol) ac yn amrywio o’r microsgopig i’r dirwedd fyd-eang sydd mor newidiol.

Yng nghyd-destun y prosiect hwn, rwy’n fy nghael fy hun yn ystyried fod yr athroniaethau a’r methodolegau fel petaent yn groes i’r hyn a fyddai wedi bod yn athroniaethau neu’n ddiwinyddiaeth gyffredinol y cyfnod y mae archeolegwyr ac ymchwilwyr Cysylltiadau Hynafol yn ymchwilio iddynt. Mae’r gwahaniaeth hwn yn ddifyr pan fyddwn yn ystyried symudiad, yn ogystal â’r hyn sy’n gysegredig, o ran y modd y gallai rhywun yn y cyfnod canoloesol fod wedi ymateb i rywbeth hen neu anarferol o fewn y dirwedd. Does dim modd i ni wybod beth oedd ar feddyliau ein cyndeidiau mewn gwirionedd, ond yn hytrach na dehongli deunyddiau a lleoedd o ran dosbarthiadau ac arwyddocâd tystiolaeth, mae’n bosib iawn y byddai naratifau wedi troi i gyfeiriad y goruwchnaturiol neu’r cysegredig; at gwestiynau ynghylch y da a’r drwg, arwyddion neu argoelion. Gallai eitemau neu ddeunyddiau fod wedi ennyn ofn neu barch oedd yn ymylu ar yr ecstatig.

Ar Drywydd yr Annaearol

“Gan ystyried hyn oll, byddaf yn mynd ar bererindod gyfoes rhwng cloddfeydd archeolegol Tyddewi a Ferns. Er mwyn dynwared y profiad canoloesol o deithio ar y tir, byddaf yn beicio ac yn cerdded, gan fod beicio yn golygu teithio ar gyflymder tebyg i geffyl neu geffyl a chert. Diben y daith yw ymdrwytho yn y dirwedd wrth chwilio am yr annaearol, y goruwchnaturiol a’r cysegredig. Bydd yn cychwyn ac yn gorffen wrth i mi gloddio’n ffisegol ar y ddau safle (fel archeolegydd). 

Gan ddefnyddio meddylfryd canoloesol dychmygol fel byd mewnol, byddaf wedyn yn taflunio hyn ar y dirwedd allanol trwy ffotograffau, mapio, darlunio ac ysgrifennu. Byddaf hefyd yn casglu eitemau diddorol o’r cloddfeydd ac yn ystod y daith. Bydd rhai o’r rhain yn cael eu haddasu a’u gosod mewn creirfa o waith llaw. Bydd darn canolog yr ymarfer hwn yn ffotograffig. Er mwyn dwyn awyrgylchoedd y meddylfryd canoloesol i gof, byddaf yn defnyddio camera twll pin mawr gyda negatifau du a gwyn 5”x4”.

Y bwriad yw creu naratif gweledol ac ysgrifenedig ar gyfer y daith hon; nid ymgymryd â’r daith fel perfformiad, ond defnyddio egwyddorion mapio dwfn i archwilio llwybr, yn hytrach na lle.” – John Sunderland

Dyddiad: Medi 2020 – Rhagfyr 2022

Allbwn y Prosiect: Ffotograffau a chreirfa o waith llaw

Dysgwch fwy: www.johnsunderland.com