Mae arfordir gogledd Sir Benfro rhwng Tyddewi ac Abergwaun yn hafan i fôr-forynion! Mae’n ymddangos bod gan bob yn ail gildraeth chwedl am môr-forwyn neu am weld fôr-forwyn yn gysylltiedig â hi. Yn ol pob sôn, soniodd y capten Daniel Huws, iddo weld tref fôr-forynion o dan y dŵr ger Trefin pan yn cysgodi yno ym 1858. Ychydig yn nes at Dyddewi mae Porth y Rhaw, lle soniodd chwarelwyr o Benbiri’n gynharach, yn 1780, eu bod hwythau hefyd wedi cwrdd â Môr-forwyn. Dyma’u stori ryfeddol …..
Ar ddiwrnodau braf o haf roedd yn arferiad ganddynt gerdded i lawr at y môr i fwyta’u cinio. Roedd hi’n ddiwrnod arbennig o hyfryd, heb yr un cwmwl yn yr awyr nac awel dros wyneb glas y môr a dim ond tonnau bychain yn torri ar y traeth. Wrth iddynt sgwrsio a bwyta’u cinio, sylwodd un o’r chwarelwyr ar wenhadwy- môr-forwyn yn eistedd ar graig yng nghysgod y clogwyni.
Yn ôl y chwarelwyr, roedd hi wedi llwyr ymgolli yn y gwaith o gribo’i gwallt hir, euraidd. Sylwodd y dynion nad oedd fawr ddim gwahaniaeth rhwng rhan uchaf ei chorff â ‘merched eraill Cymru’, ond bod ei hanner isaf yn amlwg yn gorff pysgodyn. Mentrodd rhai o’r chwarelwyr dewraf yn nes – yn ddigon agos i gyfnewid ambell air â hi. Ceisio’n ofer a wnaethant i gynnal sgwrs â hi, ac er ei bod yn amlwg ei bod yn deall Cymraeg, y cyfan a ddywedai wrthynt oedd “medi yn Sir Benfro a chwynnu yn Sir Gâr”. Yna fe lithrodd oddi ar ei chraig a diflannu i donnau Bae Aberteifi, gan adael y chwarelwyr wedi drysu’n llwyr o ran beth yr oedd hi’n ei olygu … ond gyda stori wych i’w hadrodd!