Mae Capel Sant Padrig mewn twmpath tywodlyd, glaswelltog rhwng Llwybr Arfordir Sir Benfro a thraeth sy’n union i’r gogledd o faes parcio ym Morth Mawr, Tyddewi. Yn rhyfeddol o ychydig a wyddir am y capel cyn y cloddio diweddar.
Ym mis Ionawr 2014 cafodd y safle ei ddifrodi pan darodd cyfres o stormydd arfordir gorllewinol Prydain. Cloddiodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Phrifysgol Sheffield, gyda chefnogaeth ariannol gan Cadw a sefydliadau eraill, y rhan o’r safle a ddifrodwyd waethaf dros gyfanswm o wyth wythnos yn 2014, 2015 a 2016. Dengys y cloddiadau bod mynwent wedi bod yno ers diwedd yr wythfed ganrif OC a’i bod wedi dal i gael ei defnyddio tan yr unfed ganrif ar ddeg o leiaf. Codwyd capel o gerrig ar y safle yn y ddeuddegfed neu’r drydedd ganrif ar ddeg – a oedd yn adfail erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg.