Llên Gwerin

Cysylltiadau Hynafol: Straeon sy'n Cysylltu ac yn Syfrdanu

Mae mwy i ymchwil hanesyddol na’r hyn sydd i’w ddarganfod ar femrynau a felwm neu rhwng tudalennau llyfrau. Mae llawer ohono’n fyw yn niwylliant, tirwedd ac atgofion lleoedd. Felly, drwy gydol y prosiect hwn, mae’n bwysig ein bod yn gofyn i gymunedau rannu’r chwedlau sydd yng nghilfachau’r cof a adroddwyd wrthynt pan oedden nhw’n blant, i ddweud wrthym yr enwau lleoedd sydd ar lafar, ac i ddod ar daith gyda ni i archwilio darnau o wybodaeth werin leol sydd efallai’n bethau bob dydd iddyn nhw, ond a fydd o bosibl, gyda’n gilydd, yn ein harwain at drysor o wybodaeth a dealltwriaeth o’u bro. Byddwn hefyd yn rhannu rhai o’r rhyfeddodau y byddwn yn eu darganfod drwy ymchwilio mewn archifau a drwy drafod ag aelodau o’r cymunedau.

Felly, beth am ddechrau gyda stori am sant. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac Eglwys Gadeiriol St Eden’s yn Ferns, Iwerddon o fewn ardal y prosiect, felly mae straeon am y saint a’u mynd a dod ar draws Fôr Iwerddon, eu hymwneud â’i gilydd a’u gwyrthiau yn amlwg iawn o fewn ein hymchwil. Mae ceisio gwahaniaethu rhwng hanes a chwedl yn Oes y Saint bron a bod yn amhosib. Doedd ein cyndeidiau ddim yn meddwl am hanes nac yn ei gofnodi fel ag yr ydym ni heddiw. Cafodd y mwyafrif o hanesion y saint eu rhannu ar lafar, gan dyfu o ran lliw a rhyfeddod wrth iddynt gael eu hadrodd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yn Sir Benfro, rydym yn ffodus o waith yr awdur, Brian John, sydd wedi casglu llên gwerin ers blynyddoedd lawer a’u cyhoeddi mewn pedair cyfrol wych: Pembrokeshire Folk Tales, The Last Dragon, Fireside Tales from Pembrokeshire a More Pembrokeshire Folk Tales.

Dewi Sant a'r Penadur Boia

Dyma un o’i hanesion sy’n ymwneud a nawddsant Cymru, Dewi Sant.

Ar ddiwedd ei deithiau cenhadol, tua’r flwyddyn 560, yn ôl y chwedl, cafodd Dewi ei arwain gan angel i sefydlu mynachlog yn ei famwlad. Ac felly fe ddychwelodd i Lyn Rhosyn gyda rhai o’i gymdeithion, gan gynnwys Teilo, Ismael ac Aeddan (a adnabyddir hefyd fel St Edan yn Iwerddon, a aeth ati’n ddiweddarach i sefydlu’r gadeirlan yn Ferns).

Wedi iddynt gyrraedd, taniodd y cymdeithion dân er mwyn cynhesu a pharatoi tamaid i fwyta, ond denodd y mwg sylw’r penadur lleol, Boia, a reolai’r darn yma o dir o’i fryngaer, Clegyr Boia. Roedd y penadur o’i gof bod dieithriaid yn bwriadu ymgartrefu nepell o’i gaer – a hynny heb dalu gwrogaeth iddo, a dangos iddo’r parch yr oedd yn ei haeddu. Ac felly, gydag anogaeth ei wraig, aeth Boia a’i filwyr i lawr tuag at Glyn Rhosyn i yrru Dewi a’i ddilynwyr oddi yno. Ond wrth i Boia a’i ddynion ymosod, cawsant eu taro â thwymyn ofnadwy, a’u gorfodi i ymlusgo oddi yno. Wedi iddynt ddychwelyd i’r gaer, gwelsant fod eu defaid a’u gwartheg wedi marw a bod gwraig Boia’n wyllt gynddeiriog.

Fodd bynnag, gan sylweddoli bod pwerau’r dynion yma y tu hwnt i’w ddeall, a gan deimlo ofn ac arswyd, rhoddodd Boia’r tir yng Nglyn Rhosyn i Dewi ar gyfer ei gymuned. Ac yn wir i chi, cyn gynted ag y gwnaeth Boia hyn, cafodd ei filwyr wellhad o’u salwch a daeth ei dda o farw’n fyw.

Ond doedd gwraig Boia ddim mor hawdd ei thrin. Anfonodd ei morynion i ymdrochi’n noeth yn Afon Alun, er mwyn temptio dilynwyr Dewi i dorri eu llwon, ond aflwyddiannus fu hyn, a drwy ymprydio a gweddïo helpodd Dewi ei gymdeithwyr i wrthsefyll y temtasiynau. O’r diwedd, aeth gwraig Boia â’i llys-ferch Dunawd i lawr i’r afon a’i haberthu i’r hen dduwiau, er mwyn ceisio ymlid y Cristnogion oddi yno. Gwnaeth ei methiant hi’n gwbl wallgof, dihangodd, a gwelwyd byth mohoni hi eto.

Mewn ymateb i’w golled erchyll, ceisio Boia ymosod ar Dewi eto, ond roedd penadur Gwyddelig o’r enw Lysgi newydd lanio gerllaw. Ymosododd Lysgi ar wersyll Boia a’i ladd. Mae enw Lysgi’n dal i’w weld yn yr ardal hyd heddiw, yn yr enw Porthlysgi.

Ac i orffen y chwedl gydag un wyrth olaf, tywalltodd tân mawr i lawr o’r nefoedd mewn storm fawr gan ddinistrio bryngaer Boia’n llwyr. Ac mae’n rhaid bod hyn i gyd yn gwbl wir, oherwydd 1,400 mlynedd yn ddiweddarach, pan gloddiwyd Clegyr Boia gan archeolegwyr, beth feddyliech chi ddaeth i’r golwg? O dan y pridd roedd adfeilion hen gabanau a stordai wedi’u llosgi’n ulw.

Gallwch ymweld â Chlegyr Boia’n hawdd drwy ddilyn lôn fechan allan o ddinas Tyddewi yn Sir Benfro (gweler y map OS uchod). Mae hefyd nifer o ffynhonnau sanctaidd i’w harchwilio gerllaw – mwynhewch, a dewch o hyd i fwy o straeon a chwedlau wrth i chi grwydro.