Prosiect Cymunedol

Gorymdaith Aberjazz

Hyrwyddwr cerddoriaeth fyw leol yw Aberjazz sydd wedi’i leoli yn nhrefi cyfagos Abergwaun ac Wdig, ac sy’n trefnu digwyddiadau cerddoriaeth yn lleol, yn Abergwaun yn bennaf. Prif ddigwyddiad calendr Aberjazz yw gŵyl Jazz a Blŵs Abergwaun, a gynhelir am bump diwrnod dros benwythnos gŵyl y banc fis Awst. Mae hyn yn cynnwys tua 35 o ddigwyddiadau mewn gwahanol leoliadau, gorymdaith jazz a Ffrinj Aberjazz a gynhelir mewn amryw o dafarndai yn y dref.

Bydd gorymdaith Aberjazz sydd wedi’i threfnu ar gyfer Gŵyl Banc Awst 2021 yn atyniad mawr, gyda thrigolion lleol yn cymryd rhan, gwisg ffansi thematig a gweithdai drwy gydol Awst. Ar ddiwrnod yr orymdaith, bydd y dref yn llawn artistiaid stryd a bydd llwyfan cludadwy yn denu bysgwyr.

Bydd yr orymdaith yn dathlu hanes lleol fel yr hediad cyntaf ar draws Môr Iwerddon, y goresgyniad olaf, môr-ladron lleol a’r Happidrome, sinema gyntaf ac unig sinema Wdig. Bydd yna fwrlwm yn Neuadd y Farchnad gyda stondinau crefft, bwyd stryd, bysgwyr, bwytawyr tân, jyglwyr a wagen jin.

Dyddiad: Gŵyl Banc Awst 2021

Project Outputs: Festival Parade and Workshops

Am fwy o wybodaeth ewch i: www.aberjazz.com