Mae Tyddewi wedi bod yn gyrchfan i bererinion ers yr oesoedd canol ac mae’n dal i fod felly heddiw. Mae pobl yn cael eu denu i’r ardal am lawer o resymau, er mwyn adfywio’r corff, y meddwl a’r enaid. Fe’i cydnabyddir fel lle arbennig, lle ‘tenau’ i’r Celtiaid: man lle mae calonnau’n cael eu hagor ac emosiynau’n cael eu cyffwrdd.
Nid yw pererindod fodern o reidrwydd yn grefyddol na hyd yn oed yn ysbrydol; yn hytrach, mae’n gyfle i fyfyrio, cysylltu a darganfod, gan efallai ddod o hyd i ymdeimlad newydd o bwrpas, cyfeiriad a llesiant. Mae pererindota’n dod yn fwyfwy poblogaidd heddiw gyda rhaglenni teledu fel Pilgrimage; The Road to Rome a The Road to Santiago. Mae llwybr pererinion Santiago de Compostella, a gafodd hwb gan gyllid gan yr UE ym 1987, wedi bod yn llwyddiant mawr gyda niferoedd y teithwyr yn cynyddu o lai na 3,000 y flwyddyn i dros 300,000 erbyn hyn.