“Darganfyddais yn ddiweddar fod fy hen fam-gu wedi’i geni ym 1874, dim ond 3.5 milltir o Ferns yn Camolin. Roedd hi’n un o ddeg o blant; wn i ddim byd arall amdani hi na’i theulu. Yn yr oes sydd ohoni, lle mae aflonyddwch a gwleidyddiaeth hunaniaeth ffyrnig yn corddi’r dyfroedd, mae’n teimlo’n briodol ystyried o ble y daethon ni er mwyn myfyrio ar ble rydyn ni am fynd. Mae fy ngwreiddiau Gwyddelig i’w gweld yn fy enw, ac eto dydw i erioed wir wedi cydnabod y rhan honno ohonof. Hoffwn i ddod i ddeall y grymoedd a arweiniodd ata’ i’n byw yma draw dros y dŵr o gartref fy hen fam-gu. Drwy fynd ati i gloddio drwy fy ngorffennol fy hun, fe fydda i’n cychwyn proses sy’n adlewyrchu’r gwaith ymchwil archaeolegol a hanesyddol sy’n mynd ymlaen yn y ddwy gymuned.
Fe fydda i’n edrych ar wahanol ymatebion personol i le a thirwedd, lle maen nhw’n gorgyffwrdd, a sut y gallai cynrychiolaeth artistig eu hagor nhw er mwyn i bobl eraill gael eu deall. Dwi’n arbennig o gyffrous am y defnydd o geoffiseg ar gyfer datgelu strwythurau/olion cudd yn y dirwedd ac fe fydda i’n archwilio sut y gellir trin y data a gynhyrchir gan y technegau geoffiseg (gradiometreg magnetig, dargludedd electromagnetig a radar sy’n treiddio’r ddaear) i lunio canlyniad artistig.