Llên Gwerin

Taith anturus ar draws Môr Iwerddon yn torri record

Ar 16 Awst, 1960, penderfynodd tri dyn ifanc o Swydd Wexford yn Iwerddon, hwylio am Gymru. Yn hytrach na mynd ar y llong teithwyr arferol o Rosslare i Abergwaun, aethon nhw ar daith ychydig yn fwy anturus a pheryglus. Aeth Seamus Organ (21 oed), Peter Donegan (19 oed) and Peter Sinnott (18 oed) i weld ffrind oedd â chanŵ wedi’i wneud â llaw, gyda dwy sedd, a gofyn am gael ei fenthyg ar gyfer y daith Cytunodd y ffrind gan addo cadw’r gyfrinach, gan y gwyddai’r bechgyn na fyddai eu rhieni o blaid taith mor ryfygus.

Seamus Organ, Peter Donegan a Peter Sinnott

Dechreuodd y tri ar eu taith yn y canŵ pren am 11 y bore o draeth Ardamine, Courtown, Swydd Wexford. I’w helpu ar y daith 85 milltir/140km aeth y bechgyn â chyflenwadau oedd yn cynnwys tair potel o lemonêd, naw potel o ddŵr a phedwar paced o fisgedi! Roedden nhw hefyd wedi prynu radio a chwmpawd, ond fe wlychwyd y canŵ gan don ychydig ar ôl gadael y traeth, gan ddinistrio’r radio, felly doedd dim modd iddyn nhw gysylltu â’r lan na chlywed rhagolygon y tywydd. Cymerodd y daith dros Fôr Iwerddon dros 24 awr. Drwy gydol y daith roedd cefn y canŵ o dan ddŵr gan mai dwy sedd oedd ynddo, ac roedd yn rhaid i un ohonynt eistedd gyda’i goesau o boptu’r canŵ, gan newid seddi pob awr. Daeth y tri morwr hyd yn oed o hyd i dwll yn y canŵ ychydig ar ôl gadael Iwerddon, ond roedden nhw’n benderfynol na fydden nhw’n troi yn eu holau.

Ond nid dyna ddiwedd ar y peryglon. Wrth iddyn nhw agosáu at arfordir Penfro roedd cerrynt cryf, creigiau ac ymchwyddiadau oedd yn bygwth troi eu cwch drosodd, ac o ganlyniad cymrodd chwe awr i’r dynion rwyfo’r ddwy filltir olaf i’r lan. Pan gyrhaeddon nhw fae bychan ym Mhen Strwmbl, treulion nhw dair awr arall yn ceisio dringo craig 150 troedfedd yn y tywyllwch. Pan gyrhaeddon nhw ben y graig, o’r diwedd, aethon nhw i dŷ gwyliwr y glannau cyfagos. Roedd yntau wedi bod allan yn chwilio am y dynion gan fod eu diflaniad wedi achosi chwilio mawr o’r awyr a’r môr ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Fe alwyd yr heddlu a chawsant eu harestio’n ddiymdroi gan eu bod wedi dod i mewn i’r wlad yn anghyfreithlon. Dywedwyd wrthyn nhw mai Ffrancwyr oedd y rhai diwethaf i lanio’n annisgwyl yn y bae, a hynny pan oedden nhw ar fin goresgyn Cymru!

Croeso Arwyr

Aethpwyd â’r tri anturiaethwr i dref Abergwaun, ac yno buon nhw’n adrodd eu hanes wrth newyddiadurwyr. Yn hwyrach, ymddangosodd y stori ar newyddion 6 o’r gloch y BBC i bawb gael ei chlywed. A fel petai hynny ddim yn ddigon, rhoddodd Arglwydd Faer Abergwaun ryddid y dref iddyn nhw cyn iddyn nhw gael eu hanfon yn ôl dros Fôr Iwerddon (ynghyd â’u canŵ) ar gwch bost o Abergwaun i Rosslare!

Wrth agosau at Wexford, gwelodd y bechgyn eu rhieni yn aros amdanyn nhwn Rosslare. Gan boeni am ymateb eu rhieni, gofynon nhw i gapten y cwch ollwng eu canŵ i’r dŵr gyda rhwyd bysgota. Fe gytunodd a rhwyfodd y bechgyn i fyny’r arfordir i Courtown er mwyn osgoi eu rhieni. Roedd band Pibau Gorey yn aros amdanyt a chawsant groeso fel arwyr yn eu tref enedigol. Roedd popeth yn iawn gyda’u rhieni a wnaethon nhw byth wneud dim byd o’r fath eto, gan rybuddio eraill mai “cŵn gwallgof ac ambell i ddyn o Courtown” fyddai’r unig rai fyddai’n gwneud y fath beth.Peter Sinnott, Gorey Guardian, 2005.

Yn 2005, bedwardeg pump o flynyddoedd ar ôl y daith ryfeddol honno, fe gynhaliwyd dathliadau yn Abergwaun i gofio hanes y dynion ifanc o Wexford. Y tri dyn ifanc oedd y rhai cyntaf i groesi Môr Iwerddon mewn canŵ dwy sedd mewn hanes. Mae nifer wedi ceisio torri eu record, ond heb lwyddiant.

Ffynonellau:
Erthygl o The Times Archive (20 Awst 1960):
www.thetimes.co.uk

Erthygl o’r Gorey Guardian (18 Awst 2005):
www.independent.ie