Prosiect Celfyddydau

Ysgolion Animeiddio

Mae Ysgolion Animeiddio yn dod â thair ysgol ynghyd gyda’r nod uchelgeisiol o greu ffilm wedi’i hanimeiddio yn adrodd y straeon sy’n cysylltu’r ddwy ardal. Y tair ysgol fydd yn cymryd rhan yw Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi, Sir Benfro, a Scoil Naomh Maodhog a St Edan’s School yn Ferns, Swydd Wexford.

Ym Mawrth 2020, fe ddechreuodd y prosiect gyda grŵp o ddisgyblion 12-13 oed, a staff, yn teithio o Dyddewi i Ferns, i gwrdd â’u cyfoedion yn ysgolion Ferns. Mae disgyblion y tair ysgol wedi bod yn dysgu am eu treftadaeth eu hunain, yn ogystal â’r straeon sy’n cysylltu’r ddwy ardal drwy weithio gyda’r storïwyr Deb Winter o Abergwaun, a Lorraine O’Dwyer o Wexford. Yn Ferns, perfformiwyd y straeon gan y disgyblion i’w gilydd yn ogystal â rhannu perfformiadau o ddarnau o gerddoriaeth gyfoes a thraddodiadol.

“Mae gen i eisiau diolch yn FAWR IAWN ar ran pawb yn Ysgol Penrhyn Dewi am y daith anhygoel gawsom ni i Iwerddon. Roedd y disgyblion a minnau wedi’n rhyfeddu gan y croeso Gwyddelig cynnes a gawsom ni ac roedd pob rhan o’r daith yn berffaith! Roedd cyrraedd Scoil Maodhog yn emosiynol ac mae ein disgyblion yn tecstio, snapchatio/whatsappio ayyb ac yn edrych ymlaen at groesawu’r disgyblion i Sir Benfro. Roedd y teithiau i gyd yn wych ac yn llawn gwybodaeth, a phan ofynnais i’r disgyblion beth oedd eu hoff ran o’r daith, doedd yr un ohonyn nhw’n gallu dewis gan fod gormod o ddewis.”

Cilla Bramley, Pennaeth y Celfyddydau Mynegiannol, Ysgol Penrhyn Dewi

Mae disgwyl i’r prosiect ailddechrau ym mis Mawrth 2021, gyda stiwdio animeiddio yng Nghaerdydd – Winding Snake – yn helpu’r bobl ifanc adrodd y straeon hyn yn greadigol, gan ddefnyddio technegau animeiddio amrywiol. Caiff y ffilm fer ei harddangos mewn lleoliadau ac ar-lein yn 2021-2022.

“Mae’r tîm yma yn Winding Snake yn falch iawn o gael gweithio gyda’r ysgolion yma fel rhan o’r prosiect cyffrous a hanesyddol yma. Rydyn ni’n ysu i ddechrau arni a chreu! Bydd y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn gweithio gyda ni i greu animeiddiad, dysgu sut i greu cyfansoddiad cerddorol, creu foley ac effeithiau sain, cymryd rhan mewn ysgrifennu sgriptiau a sesiynau adrodd straeon, yn ogystal â gweithio gydag actorion proffesiynol er mwyn dysgu sgiliau actio a pherfformio. A gyda llawer o gelf a chrefft yn rhan ohono hefyd, mae hwn am fod yn brosiect gwefreiddiol!”

Amy Morris, Cyfarwyddwr Winding Snake

Bydd ffilm ddogfen fer am y prosiect hefyd yn cael ei chreu gan y gwneuthurwr ffilmiau o Wexford, Terence White.

Dyddiad: Mawrth 2020 – Ionawr 2022

Allbwn y Prosiect: Ffilm fer wedi’i hanimeiddio

Dysgwch fwy: www.windingsnake.com