Prosiect Cymunedol

Cyngerdd Camino Creadigol - Prosiect Treftadaeth Ferns

Mae Prosiect Treftadaeth Ferns yn trefnu cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol St Edan’s fel rhan o brosiect pererindod Camino Creadigol Cysylltiadau Hynafol, sy’n dechrau ei daith o Ferns i Dyddewi ym mis Mai 2021. Bydd y cyngerdd yn cynnwys caneuon gwreiddiol wedi’u hysbrydoli gan gerddoriaeth O’Carolan, a cheir y perfformiad cyntaf o ran gyntaf casgliad tair-rhan wedi’i ysbrydoli gan themâu Cysylltiadau Hynafol wedi’u cyfansoddi gan Melanie O’Reilly. Bydd y digwyddiad yn cynnwys corau lleol o oedolion a phlant, yn ogystal â cherddorion lleol – Ferns Comhaltas.

Bydd Melanie O’Reilly, lleisydd ac athrawes gerddoriaeth broffesiynol yn cynnal gweithdai gyda chôr yr oedolion i baratoi at y cyngerdd.  Bydd y côr yn ymuno â Melanie a’i band i ganu’r darn sydd wedi ei gyfansoddi’n arbennig a fydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y cyngerdd. Bydd cyfansoddi rhan dau a thri yn cael ei ysbrydoli gan weithdai a gynhelir yn Ferns a Thyddewi ar ôl y cyngerdd cyntaf.

Dyddiadau: Mai 2020 – Mai 2021

Allbwn y Prosiect: Cyngerdd Cymunedol a Gweithdai

Dysgwch fwy: www.melanieoreilly.com