Artist Preswyl

Fern Thomas – Artist Preswyl Sir Benfro

YNYS: “… ac wrth i greiriau, cerrig, esgyrn a straeon o’r ddau le olchi allan i’r môr, ffurfiwyd ynys newydd yn y canol. Man lle mae diwylliant, hanes, breuddwydion, barddoniaeth a chaneuon o bob cyfnod yn cyd-fyw. Ac o’r lle hwn, crëwyd gorsaf radio a ddechreuodd ddarlledu … “

“Ar gyfer y prosiect hwn rwy’n creu gorsaf radio sy’n ‘darlledu’ o YNYS, sef ynys ddychmygol sydd wedi’i lleoli rhwng Sir Benfro a Wexford. Daeth y syniad cychwynol am YNYS o’r erydiad ym Mhorth Mawr, a ddatgelodd gapel Sant Padrig, oedd wedi’i gladdu yno. Mae’r prosiect yn ystyried y posibilrwydd, trwy erydiad arfordirol, y gallai’r holl hanes hwn gael ei olchi i ffwrdd – bod y lleoedd arfordirol hyn yn byw ar ymyl y dibyn, neu ar ymylon hanes.” – Fern Thomas

Cliciwch yma i wrando ar ddarllediadau radio Fern

Man ar gyfer y Gorffennol a'r Dyfodol

“Gan ystyried hyn fel delwedd ehangach rwy’n dychmygu hanes Sir Benfro yn golchi i’r môr a’r un peth yn digwydd yr un pryd i hanes Wexford, ac oddi yma maen nhw’n symud tuag at ei gilydd ac yn cwrdd rhywle yn y canol i greu ynys ddychmygol. Ynys lle gall Dewi Sant eistedd ochr yn ochr â’r tri dyn ifanc o Wexford yn eu canŵ benthyg; lle mae tân bryngaer Boia neu’r môr-forynion oddi ar Borth y Rhaw yr un mor bresennol â’r tywod sy’n erydu ym Mhorth Mawr. Man lle mae’r gorffennol a’r dyfodol yn cyd-gwrdd.

Bydd y gwaith clywedol hwn ar gael fel sawl pennod a fydd yn dilyn datblygiad y prosiect Cysylltiadau Hynafol lle byddaf yn plethu darnau o gyfweliadau gydag aelodau o’r gymuned a chyfranogwyr i’r prosiect Cysylltiadau Hynafol ochr yn ochr â llên gwerin, ymchwil hanesyddol, chwedlau, recordiadau maes o’r safleoedd, a synau o’r gorffennol yn ogystal â’r presennol er mwyn creu stori sain o’r wlad dragwyddol hon. “

“Yn rhan o’r darllediadau byddaf yn cynnig ymatebion barddonol wedi’u hysbrydoli gan y cwestiynau a ofynnir o fewn y prosiect wrth iddo ddatblygu, gan ddilyn dirgelion, straeon a datgeliadau Cysylltiadau Hynafol.

Cymunedau Sir Benfro a Wexford fydd yn penderfynnu ar gynnwys yr orsaf radio trwy ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a sgyrsiau un i un.”-. Fern Thomas

Dyddiad: Gorffennaf 2020 – Awst 2022

Am fwy o wybodaeth ewch i:

www.fernthomas/ynys.com

Allbynnau’r Prosiect:
Podlediadau, digwyddiad seremonïol ac arddangosfa