Mae Prosiect Treftadaeth Ferns yn sefydliad cymunedol allweddol sy’n ymdrechu i greu cyfleoedd i ddod â straeon treftadaeth unigryw Ferns yn fyw i gynulleidfaoedd cyfoes. Bydd y prosiect hwn yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu cynnig twristiaeth unigryw yn Ferns, gan ffurfio templed i’w ddefnyddio am flynyddoedd i ddod. Bydd gwisgoedd yn cael eu creu gan wniadwragedd proffesiynol a bydd ffyn pren ar gyfer Aeddan Sant a Dewi Sant hefyd yn cael eu gwneud yn broffesiynol. Yn ogystal â hyn, bydd gwirfoddolwyr lleol yn gwneud gwisgoedd eraill er mwyn ail-greu perfformiad hanesyddol – dathliad theatrig fydd yn cynnwys ymladd â gwaywffyn ar gefn ceffyl, dawnsio canoloesol a rhyfelwyr yn arddangos gemau o’r canoloesoedd.
“Rydym yn awyddus i ddod â hanes yn fyw trwy greu arddangosfa weledol mewn gwisgoedd o’r cyfnod sy’n canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng Sir Benfro a Wexford – gan arddangos elfen bwysig o’r hanes a rennir gennym mewn ffordd ddifyr a lliwgar.“
Catherine McPartlin – Prosiect Treftadaeth Ferns