Straeon
Aeddan Sant yng Nghymru
Fe ymddengys bod pŵer a dylanwad Aeddan ymhlith Brythoniaid Cymru wedi bod yn sylweddol. Mewn un chwedl, anogwyd Aeddan gan Dewi ac eraill i ddefnyddio ei bwerau gwyrthiol i wella mab Brenin y Brythoniaid, a oedd yn ddall, yn fyddar ac yn gloff. Anfonwyd y bachgen at Aeddan, ac fe weddïodd yn daer am ei adferiad a maes o law fe wellodd y bachgen yn wyrthiol. Yn dilyn y wyrth hon, dywedir fod enw Aeddan wedi dod yn hysbys ledled y deyrnas. Dengys straeon fel hyn bod y teulu mwyaf pwerus yn y deyrnas yn dibynnu ar ddynion sanctaidd fel Aeddan. Heb os, roedd olynwyr Aeddan, y clerigwyr a gofnododd y straeon hyn, yn awyddus iawn i bwysleisio hyn wrth y rhai a rheolai’r wlad.

Dengys stori arall am gyfnod Aeddan yng Nghymru sut y cafodd digwyddiadau’r unfed ganrif ar ddeg a’r ddeuddegfed ganrif effaith ar y ffordd yr adroddwyd yr hanes amdano. Mae’n adrodd yr hanes am sut y gwnaeth y Brythoniaid yng Nghymru wynebu’r perygl o oresgyniad gan fyddinoedd mawr y Sacsonaidd. Anfonwyd Aeddan gan Dewi i faes y gad ac yno fe weddïodd dros y Brythoniaid, wrth iddynt wynebu eu gelynion Sacsonaidd lawer mwy niferus. Yn dilyn ymyrraeth Aeddan, trodd y Sacsoniaid a ffoi a chawsant eu herlid a’u lladd gan y Brythoniaid dros yr wythnos ganlynol. “Ni laddwyd yr un Brython drwy law y Sacsoniaid drwy gydol y cyfnod a hynny trwy ras Duw a gwyrthiau Maedoc. Ac ni wnaeth yr un Sacson oresgyn Prydain tra roedd Maedoc yno ac yn dilyn y gwyrthiau hyn”. Mae’n bosibl bod y stori hon wedi’i chreu ar adeg pan oedd Cymru dan fygythiad y Normaniaid a gellir ei dehongli fel ymgais gan y Cymry i ddychryn goresgynwyr posib.
Straeon eraill
Ceir sawl hanesyn arall am gyfnod Aeddan yng Nghymru. Fe iachaodd ddyn oedd ag anffurfiad ar ei wyneb, “oedd â wyneb mor wastad â bwrdd, heb lygaid na thrwyn”. Unwaith tra’n cludo cwrw yn ôl i’r fynachlog, difrodwyd y llestr a chollwyd y cwrw. Ond fe wnaeth Aeddan arwydd y groes, atgyweirio’r difrod a chludo’r cwrw i’w gyd-fynachod.
Ffynhonnell: “Bywyd Máedóc o Ferns” yn C. Plummer (gol). Bethada Náem nÉrenn: Lives of the Irish Saints, Golygwyd o’r llawysgrif gwreiddiol. gyda Rhagymadrodd, Cyfieithiadau, Nodiadau, Geirfa a Mynegeion, Cyf. 2, The Clarendon Press, Rhydychen, 1922. St. Mogue’s (St. Aidan’s) holy well in Ferns, Co. Wexford. St. Mogue’s (St. Aidan’s) holy well in Ferns, Co. Wexford. 32 – St David’s Cathedral 01