Mae Cysylltiadau Hynafol yn comisiynu prosiect celf gyhoeddus uchelgeisiol a fydd yn arwain at ddau waith celf, un yn Nhyddewi ac un yn Ferns. Bydd y gweithiau celf yn gysylltiedig â’i gilydd mewn rhyw ffordd, a fydd yn annog ymwelwyr i fynd i’r ddau ranbarth i wir werthfawrogi’r gwaith celf yn ei gyfanrwydd.
Ym mis Tachwedd 2019, cynhaliodd tîm y prosiect ymgynghoriad cymunedol yn Ferns a Thyddewi er mwyn deall yn well ddyheadau pobl a’u disgwyliadau ar gyfer y celf gyhoeddus. Roedd cytundeb cyffredinol ymysg y rhai a gymerodd ran eu bod yn dymuno gweld gwaith celf hygyrch a rhyngweithiol wedi’i wneud o ddeunyddiau a dulliau amgylcheddol cynaliadwy.
Mae pum artist, neu gydweithrediad artistig wedi cyrraedd y rhestr fer ac wedi cyflwyno cynigion dylunio. Mae Cysylltiadau Hynafol wir eisiau clywed eich barn am bob dyluniad. Gallwch weld y cynigion a chymryd rhan mewn ymgynghoriad ar-lein trwy fynd i www.haveyoursay.pembrokeshire.gov.uk Bydd sgorau cyfartalog pob cyfranogwr yn cyfrannu at 20% o sgôr yr artist. Bydd panel arbenigol yn ystyried hyn ac yn gwneud y penderfyniad terfynol ym mis Mehefin 2021.
Bydd y gwaith celf a ddewisir yn cael ei adeiladu yn ystod 2021 a’i gwblhau yn 2022.