Categories
Newyddion

Murlun Newydd i Theatr Gwaun, Abergwaun!

Mae murlun newydd cyffrous ar y gweill ar gyfer wal allanol Theatr Gwaun eleni! Dewiswyd Grant Radford o Accent London, sy’n wreiddiol o Bort Talbot, gan banel yn cynnwys cynrychiolwyr Theatr Gwaun, Cyngor Tref Abergwaun, Cymdeithas Gelf Abergwaun a Chysylltiadau Hynafol. Bydd Grant yn gweithio gyda chymuned ac ysgolion Abergwaun i ddatblygu murlun bywiog yn dathlu’r straeon a’r cysylltiadau hynafol sy’n cysylltu Abergwaun a Wexford tra’n adlewyrchu hanfod hunaniaeth y dref a rôl Theatr Gwaun fel ei chanolbwynt diwylliannol.

Roedd y panel wrth eu bodd â’r ymateb i’r alwad agored am artistiaid i greu’r murlun newydd hwn. Gwnaeth llawer o artistiaid talentog gyda syniadau gwych gais am y comisiwn, gan wneud hon yn broses gystadleuol a thrylwyr. Rhoddodd profiad profedig Grant, ei arddull amryddawn a’i syniadau ar gyfer ymgynghori cymunedol hyder i’r panel. Rydym yn aros yn eiddgar i weld beth fydd yn ymddangos.

Y camau nesaf fydd rhaglen ymgysylltu ag ysgolion a’r gymuned yn y Gwanwyn a chytunwyd ac fe gytunir ar y dyluniad terfynol yn yr Haf. Caiff y murlun ei gwblhau ddiwedd yr haf neu ddechrau’r Hydref.