Mae Cysylltiadau Hynafol yn hynod o falch o’r datblygiadau diweddaraf yn un o’n prosiectau cymunedol sy’n cael ei arwain gan Leisiau Pentref Llangwm – “The Little Things – A Musical Journey” sy’n dweud hanes y berthynas rhwng Dewi Sant ac Aeddan Sant. Mae’r opera gymunedol hon yn brosiect trawsffiniol uchelgeisiol mewn cydweithrediad â Chôr Ferns, gyda pherfformiadau wedi’u cynllunio yn y Tŷ Opera Cenedlaethol, Wexford a Chadeirlan Tyddewi ym mis Gorffennaf 2022. Mae ‘Non’s Storm’ yn cael ei pherfformio gan Emma Evans. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Sam Howley, ac mae’r geiriau gan Peter George. Bydd y fideo nesaf yn ddeuawd rhwng Dewi Sant ac Aeddan Sant, a’r trydydd darn yn cynnwys y cast a’r corws cyfan. Cadwch lygad!
Categories
Opera The Little Things – mae’r gân gyntaf wedi’i rhyddhau!
Mae Cysylltiadau Hynafol yn hynod o falch o’r datblygiadau diweddaraf yn un o’n prosiectau cymunedol sy’n cael ei arwain gan Leisiau Pentref Llangwm – “The Little Things”