Mae’r cloddiad archeolegol yng Nghapel Sant Padrig, Porth Mawr, Tyddewi bellach ar Ddiwrnod 24. Mae tîm Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a gwirfoddolwyr wedi gweithio’n galed iawn i gloddio’r safle datgelu straeon y bobl sydd wedi’u claddu yma. Pwy oedden nhw ac o ble roedden nhw’n dod?
Mae dros gant o sgerbydau wedi’u canfod, a llawer ohonyn nhw’n fabanod. Yn ogystal, canfyddwyd pin corn gyda rhwd aloi copr arno a rhan o freichled siâl yn ogystal â ffwrnais glai, a ddarganfuwyd wrth ochr wal y capel, ac a allai fod wedi’i ddefnyddio i doddi metel. Mae’r tîm hefyd wedi dod o hyd i fwrdd chwarae gemau posib gyda phatrwm sgwariau ar y gornel dde uchaf, a oedd wedi’i osod ar ben bedd cist.
Mae dyddio radiocarbon wedi dangos bod y fynwent yn cael ei defnyddio o’r 6ed ganrif hyd yr 11eg ganrif O.C. Mae dadansoddiad o’r sgerbydau ym Mhrifysgol Sheffield wedi datgelu poblogaeth gymysg o ddynion, menywod a phlant o bob oed. Mae’r beddau’n gorwedd i’r dwyrain/gorllewin gyda’r pen i’r gorllewin. Yn unol â’r traddodiad claddu Cristnogol, nid oedd unrhyw eiddo wedi’i gladdu gyda’r cyrff. Roedd rhai o’r sgerbydau mewn cistiau – beddau wedi’u leinio a’u capio â slabiau cerrig, traddodiad claddu a oedd yn gyffredin ledled gorllewin Prydain yn y cyfnod canoloesol cynnar. Nodwyd defod gladdu unigryw hefyd: claddedigaethau plant gyda cherrig mân cwarts gwyn wedi’u gosod ar ben y cistiau.
Mae’r cloddiad yn parhau tan 16eg o Orffennaf, mae croeso i ymwelwyr a chynhelir teithiau rhad ac am ddim bob dydd.