Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer Gŵyl Cwtsh, Tyddewi, Sir Benfro, 28 – 30 Hydref .
Bydd dros 50 o berfformwyr yn gwneud perfformiadau rhad ac am ddim a rhai â thocynnau dros dridiau yr hydref hwn – gan gynnwys talent o Gymru ac Iwerddon: The Magic Numbers, Lisa O’Neill, Scott Matthews, Adwaith, Penelope Isles a Bwncath, sydd newydd gefnogi Tom Jones a Stereophonics yn Stadiwm Principality.
Ar agor i bawb, bydd yr ŵyl yn cynnal digwyddiadau bychain, ecsgliwif â thocynnau yn Neuadd y Ddinas a Thŷ’r Pererin yn ogystal â cherddoriaeth rad ac am ddim ar hyd y ‘llwybr cwtsh’.
Mae tocynnau penwythnos a thocynnau digwyddiadau unigol ar gael.
Ariennir yr ŵyl yn rhannol gan Cysylltiadau Hynafol.