NEWYDDION

Pererin Wyf - lansio prosiect celfyddydau newydd!

Mae Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a Pilgrim: Seinio’r ffordd yn ôl trwy stori a chân

yn brosiect celfyddydau cyfranogol traws-ffiniol newydd yn cysylltu diaspora Cymreig a Gwyddelig gogledd Sir Benfro a gogledd Wexford sy’n lansio yn yr Hydref eleni.

Caiff y prosiect Pererin Wyf ei gyflwyno gan yr artist Rowan O’Neill a’r sefydliad celfyddydau cymunedol SPAN Arts a leolir yn Sir Benfro, gan weithio ar y cyd â’r cyd-hwyluswyr Gwyddelig Rachel Uí Fhaoláin o Ceol moi Chroí a John Ó Faoláin o’r Traditional Archive Channel.

Mae Pererin Wyf yn deitl emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynydd toreithiog, William Williams Pantycelyn, ac mae’r prosiect hwn yn dwyn ei ysbrydoliaeth ohoni. Yn ddiweddarach daeth yr emyn yn gysylltiedig â’r dôn Amazing Grace ac fe’i poblogeiddiwyd yn y 1960au gyda recordiad gan Iris Williams.

Bydd prosiect Pererin Wyf yn gwahodd cantorion o bob cwr o’r byd i recordio fersiwn o’r gân hon mewn unrhyw iaith ac o leoliad eu dewis. Bydd recordiadau’n cael eu pinio i fap digidol i ffurfio corws byd-eang o’r gân oesol hon. Bydd cyfranogwyr y prosiect hefyd yn cael cyfle i gynnig eu myfyrdodau personol a’u cysylltiadau â Gogledd Penfro a Wexford fel rhywun sy’n byw yno ar hyn o bryd, cynefin eu cyndadau, neu’n fan sy’n arwyddocaol iddyn nhw am resymau eraill.

Bydd y prosiect Pererin Wyf yn dechrau ym mis Medi 2022 gyda chyfres o weithdai ar-lein am ddim gyda siaradwyr o safon fyd-eang yn canolbwyntio ar themâu allweddol y prosiect; cysylltu â’r diaspora Cymreig a Gwyddelig, iaith, cartref, teithio a chân. Bydd siaradwyr yn cynnwys David Greenslade – y mae ei lyfr Welsh Fever yn gatalog o weithgaredd a chysylltiadau Cymreig yng ngogledd America, Pamela Petro awdur The Long Field, myfyrdod ar hiraeth sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2022, yr Athro Helen Phelan, Cyfarwyddwr Academi Cerddoriaeth a Dawns Byd Iwerddon a Rachel Uí Fhaoláin a John Ó Faoláin, casglwyr caneuon, llên gwerin a straeon traddodiadol o Wexford.

Bydd cyfres o weithdai hybrid yn dilyn gan ddod i ben gyda thaith gyfnewid rhwng Sir Benfro a Swydd Wexford yn ystod Gwanwyn 2023. Bydd y gweithdai hyn yn arwain at fersiwn newydd o’r gân sy’n defnyddio’r Wyddeleg ac yn adlewyrchu dealltwriaeth gyfoes o bererindod, cartref a dychwelyd.

Os oes gennych chi gysylltiad personol â Gogledd Sir Benfro neu Wexford ac yr hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect hwn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Anfonwch e-bost at rowan@span-arts.org.uk i gael gwybod mwy am sut y gallech chi gymryd rhan neu i archebu lle yn y sesiwn ragarweiniol ar 29ain Medi trwy www.span-arts.org.uk