NEWYDDION

YNYS - seinweddau gan yr Artist Preswyl Fern Thomas

‘…ac wrth i greiriau, cerrig, esgyrn a hanesion y ddau le gael eu golchi i’r môr, ffurfiwyd ynys newydd yn y canol. Lle a rennir er mwyn i ddiwylliant, hanes, breuddwydion, barddoniaeth a chaneuon yr oesoedd fyw ochr yn ochr â’i gilydd. Ac o’r lle hwn, ymddangosodd gorsaf radio a dechreuodd ddarlledu,…’

Gorsaf radio ffuglennol yw YNYS a fydd yn creu cyfres o seinweddau sy’n dogfennu’r prosiect Ancient Connections ac yn archwilio dau le Sir Benfro a Wexford trwy recordiadau maes, synau archifol, rhyddiaith, caneuon, cyfweliadau a siarad y wlad.

Mae Fern Thomas wedi rhyddhau dau o’r podlediadau seinwedd, a gallwch wrando arnyn nhw yma. Bydd yn rhyddhau un y mis tan ddiwedd y prosiect.