NEWYDDION

Cyhoeddi Rownd Nesaf o Hyfforddiant Rhad ac Am Ddim Llysgenhadon Twristiaeth a Threftadaeth!

 

Cwblhaodd ein criw cyntaf o Lysgenhadon Cysylltiadau Hynafol ar gyfer Gogledd Sir Benfro a Swydd. Wexford eu hyfforddiant fis diwethaf, ac am griw gwych! Nawr, rydyn ni’n lansio mwy o hyfforddiant er mwyn cynyddu eu niferoedd. Oes gennych chi ddiddordeb?

“Fe wnes i fwynhau fy hun yn fawr wrth ddysgu llawer o wybodaeth a straeon newydd. Mae wedi bod yn fraint cymryd rhan.

B. Wheatley, Llysgennad Cysylltiadau Hynafol.

Mae croesawu ymwelwyr i’r ardal a chefnogi eu hanghenion fel bod yr economi leol yn gallu ffynnu yn bwysig iawn i’n cymunedau. Mae’r llysgenhadon wedi’u hyfforddi i groesawu a chyfarch ymwelwyr a phererinion, darparu cyfoeth o wybodaeth am hanes lleol a threftadaeth, helpu ymwelwyr i benderfynu ar leoedd gwych i ymweld â nhw, creu taith, datblygu ac arwain teithiau lleol, byr, rhannu gwybodaeth leol ymarferol, adrodd straeon a llawer mwy. 

Mae hyfforddiant yn cymryd dau ddiwrnod ac mae’n RHAD AC AM DDIM. Mae wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer pobl sydd ag amser a diddordeb mewn gwirfoddoli fel Llysgennad, y rhai hynny sydd eisoes yn croesawu ymwelwyr i’w heiddo neu fel rhan o’u gwaith a rhai sydd eisoes yn gwirfoddoli o fewn y byd ymwelwyr a diwylliant yn lleol.

Dyma’r diwrnodau hyfforddi sydd i ddod yng Ngogledd Sir Benfro: Dewiswch ddau o’r tri diwrnod yma:

10 Mehefin 10am – 4pm Oriel y Parc, Tyddewi

14 Mehefin 10am-4pm ardal Abergwaun (lleoliad i’w gadarnhau)

21 Mehefin 9.30am – 6pm, O gwmpas gogledd Sir Benfro.

Mae lleoedd hyfforddi yn gyfyngedig, felly mae’n rhain archebu lle. I archebu eich lle, cliciwch ar y botwm glas o dan y neges hon. 

Cynhelir y rownd nesaf o Hyfforddiant Llysgenhadon yn Swydd Wexford ym mis Medi. Cadwch olwg am fanylion.