Mae Cyngor Sir Penfro yn gwahodd dyfynbrisiau gan fusnesau, unigolion hunangyflogedig a mentrau cymdeithasol ar gyfer cynigion i ddatblygu a phrofi cynhyrchion newydd yn ymwneud â phererindod a fydd yn cyd-fynd â llwybr pererindod newydd sy’n cael ei greu rhwng Ferns yn Wexford, Iwerddon a Thyddewi yn sir Benfro, Cymru. Mae’r llwybr yn cael ei reoli a’i ddatblygu gan Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain a phartneriaid a bydd yn cael ei lansio’n gynnar yn 2023.
Disgwylir i ddyfynbrisiau fod tua €10,000-15,000 ac rydym yn anelu at weithio gyda thua 4-6 o fusnesau bach, unigolion hunangyflogedig neu fentrau cymdeithasol. Nod y cynllun yw cefnogi busnesau lleol i adfer o effaith economaidd COVID-19 a datblygu cynhyrchion twristiaeth newydd a fyddai’n cael eu targedu at bererinion cenedlaethol a rhyngwladol posibl.
Rhaid gwario’r arian sydd ar gael ar gostau refeniw (ee amser staff, costau teithio, deunyddiau, cynhyrchion ar raddfa fach, a nwyddau anniriaethol fel deunydd marchnata) ac nid costau cyfalaf (fel gwelliannau strwythurol i adeiladau neu greu strwythurau newydd). Nid yw offer technolegol ar raddfa fach, strwythurau dros dro a deunyddiau i wella lleoliad fel paent yn cael eu hystyried fel cyfalaf.
Er mwyn gwneud cais, mae’n rhaid i chi a/neu eich busnes fod wedi’ch lleoli yng Ngorllewin Cymru NEU mae’n rhaid i chi allu dangos y bydd y cynnyrch y byddwch yn ei ddatblygu’n cael effaith gadarnhaol amlwg ar economi Sir Benfro. Ardaloedd Wdig, Abergwaun a Thyddewi yng Ngogledd Sir Benfro sydd agosaf at lwybr y bererindod, ac felly mae croeso arbennig i gynhyrchion a fyddai’n cael effaith ar yr ardaloedd hyn. Gall y cynhyrchion hyn fod yn benodol i Sir Benfro neu gallen nhw fod yn drawsffiniol eu natur, neu gallan nhw gynnwys cydweithredwyr o ardal Wexford
Lawrlwythwch y ffurflen Gwybodaeth i’r Sawl sy’n Tendro yma
Lawrlwythwch y briff yma
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: Dydd Iau 14eg Ebrill 2022 5 pm
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y ffurflen Gwybodaeth i’r Sawl sy’n Tendro a’r holl ddogfennau eraill y gofynnwyd amdanyn nhw ac e-bostiwch eich cais fel un ddogfen PDF at ruth.jones@pembrokeshire.gov.uk
Cysylltwch â ruth.jones@pembrokeshire.gov.uk am ragor o wybodaeth.