Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain wedi creu partneriaeth gyda Pilgrim Paths of Ireland, Journeying a Guided Pilgrimage i reoli’r llwybr pererinion newydd rhwng Tyddewi, Sir Benfro a Ferns yn Sir Wexford. Llwybr y pererinion fydd prif waddol y prosiect Cysylltiadau Hynafol.
Dywedodd Guy Hayward, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain:
“Nod Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain yw hwyluso gweithgaredd ar lawr gwlad o gwmpas Prydain trwy gynnig ein harbenigedd yn rhad ac am ddim i bawb sydd ei angen, ac mae cymaint mwy o’r gweithgaredd cymunedol lleol hwn nawr eu bod yn gweld potensial deniadol pererindod i’w hardal leol y maen nhw’n ei hadnabod ac yn ei charu. Rydyn ni hefyd am i fwy o bobl gerdded y llwybrau go iawn, nid dim ond fel cysyniad hanesyddol, a dyna pam ein bod mor gyffrous ynglŷn â’r prosiect hwn, sy’n creu hen lwybr fel newydd gyda’r holl seilwaith sydd ei angen ar bererinion modern. Mae dod at ei gilydd a gweithio gyda’r holl bartneriaid gwahanol hyn – Pilgrim Paths Ireland, Journeying, Guided Pilgrimage, Cysylltiadau Hynafol – sydd i gyd yn frwd dros ffurfio cysylltiad pererindota rhwng Iwerddon a Chymru, yn mynd i arwain at y math o arloesi a ffresni sydd ond yn digwydd pan fydd diwylliannau gwahanol yn dod i gysylltiad â’i gilydd ac yn rhannu eu doethineb. Rydyn ni yng nghyfnod cynharaf y prosiect hwn, ond rwy’n gallu dweud yn barod ein bod yn mynd i greu rhywbeth hardd iawn gyda’n gilydd sy’n pontio dwy ochr y Môr Celtaidd, a rhywbeth y bydd cymaint yn ei fwynhau ac yn dod o hyd i ystyr drwyddo am genedlaethau i ddod.”
Yn gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain ac yn cynrychioli diddordeb Iwerddon yn y prosiect mae Pilgrim Paths Ireland. Dywedodd y Cadeirydd John G O’Dwyer ei fod yn: “falch iawn o fod yn rhan o’r tîm sydd â’r dasg o ddatblygu llwybr pererinion fel rhan o’r prosiect Cysylltiadau Hynafol a fydd yn coffáu taith Aeddan Sant yn y 6ed ganrif i astudio fel disgybl i Dewi Sant yng Nghymru.” Mae’n credu y bydd y prosiect yn adfywio’r hen gysylltiadau rhwng cymunedau yn Sir Benfro a Wexford drwy ddefnyddio treftadaeth gyffredin i rannu gwybodaeth, profiad a sgiliau lleol. “Dylai’r llwybr pererinion newydd olygu llawer o wariant ychwanegol i Wexford a Sir Benfro a thynnu sylw at y dreftadaeth gyfoethog sydd gan y ddwy ardal i’w chynnig i ymwelwyr,”
Hefyd yn ymuno â’r tîm bydd dau gwmni nid-er-elw o Orllewin Cymru. Mae Journeying wedi bod yn mynd â grwpiau bach o bererinion ar deithiau cerdded tywys i rannau mwy pellennig Prydain ac Iwerddon ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae Guided Pilgrimage yn cynnig pererindodau Celtaidd undydd neu sawl diwrnod sy’n creu gofod i bobl ailgysylltu’r corff a’r enaid drwy’r tirweddau Celtaidd gwyllt a hardd.
Yn dilyn ymgynghoriad cymunedol ac ymchwil marchnad, enw’r llwybr fydd Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro Mae’r arbenigwyr marchnata cyrchfan o Gaerdydd, Heavenly, ynghyd â chwmni dylunio graffeg Orchard wedi creu brand unigryw ar gyfer y llwybr a fydd yn ysbrydoli ymwelwyr o’r DU, Iwerddon a thramor i fod yn bererinion a chael profiad a allai newid eu bywydau. Bydd y brandio’n cynnwys arwyddion ar y llwybr, mapiau a thaflenni yn ogystal â phasbortau pererinion ac ap pererinion.
Bydd y llwybr ar agor i’r cyhoedd yn 2023 ar gyfer teithiau tywys a hunan-dywys. Mae yna nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn pererindodau undydd ar y llwybr newydd.
Am fwy o wybodaeth ewch i: