NEWYDDION - PERERINDOD

Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro - Pererindod dywys hanner diwrnod o Wdig i Lanwnda.

Dan arweiniad Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain. Byddwch y cyntaf i gael golwg ar bererindod hanner diwrnod 6 milltir o hyd ar y bererindod drawsffiniol newydd rhwng Sir Benfro a Wexford.
Bydd ein tîm bach ond rhagorol a phrofiadol yn eich tywys o Wdig i Lanwnda, penrhyn Pencaer, Trwyn Carregwastad a thir hynafol Pebidiog ar ddechrau pererindod newydd yn Sir Benfro.
Byddwch yn cael eich arwain gan swyddog pererindod Sir Benfro David Pepper, Iain Tweedale o Journeying a Christine Smith o Guided Pilgrimage a fydd yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad o arwain pererindod gyfoes. Bydd yna amser i fyfyrio a dianc o’n bywydau prysur i fynd. ar daith allanol drwy’r tirweddau hardd hyn, ac ar daith fewnol i ailgysylltu â byd natur a ni’n hunain.
Bydd hon yn llwybr cylch hanner diwrnod yn cynnwys man glanio’r pererin yn Wdig, Eglwys Sant Gwyndaf a’r Ffynnon Sanctaidd yn Llanwnda. Byddwn yn archwilio’r berthynas rhwng tir a môr mewn pererindod, gan ymweld â ffynhonnau sanctaidd, aneddiadau Cristnogol hynafol Celtaidd, siambrau claddu neolithig ynghyd â chysylltiadau trawsiwerydd modern a’r goresgyniadau olaf.
Cyfarfod yn: Neuadd Eglwys San Pedr, 3 Heol Plasygamil, Wdig, Cymru, SA64 0EL
Tocynnau £22.15