Categories
Archive Arts News

Ar Log performing St Davids Cathedral

NEWS

Ar Log yn perfformio caneuon gwerin Cymraeg newydd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Ar Log yw un o grwpiau gwerin mwyaf hirhoedlog a mwyaf poblogaidd Cymru. Mae dawn gerddorol  anhygoel y band, eu lleisiau Cymraeg sensitif, a’u clocsio bywiog i gyd i’w mwynhau ar eu recordiau. Er bod yna lawer o gerddorion gwych yng Nghymru, dylai unrhyw archwiliad o gerddoriaeth y wlad ddechrau gyda, neu o leiaf gynnwys,  recordiadau Ar Log. 

Byddan nhw’n perfformio cyfres newydd o chwe chân werin Gymreig a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr Cymreig byd-enwog Paul Mealor gyda’r geiriau gan un o feirdd amlycaf Cymru, Grahame Davies.

 Ar Log oedd y grŵp proffesiynol cyntaf i fynd â cherddoriaeth draddodiadol Cymru i’r llwyfan rhyngwladol. Ffurfiwyd y grŵp yn arbennig ar gyfer gŵyl Lorient, Llydaw, ym 1976, ac wedi hynny treuliodd y grŵp saith mlynedd yn perfformio ar hyd a lled Ewrop, Gogledd a De America, gan greu enw rhagorol iddyn nhw eu hunain fel llysgenhadon pennaf cerddoriaeth Gymreig. Gyda deg albwm hynod lwyddiannus i’w henw, maen nhw’n dal i swyno eu cynulleidfaoedd trwy eu perfformiadau byw cofiadwy a bywiog.

Categories
Archive Arts News

Sift – exhibition at Oriel Y Parc and St Davids Cathedral Refectory

NEWS

Sift – arddangosfa yn Oriel y Parc a Ffreutur Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Yn agor ddydd Iau 23 Chwefror

4-5 pm Y Ffreutur, Eglwys Gadeiriol Tyddewi – Small Finds David Begley

5-7 pm Oriel Y Parc – Seán Vicary, John Sunderland, Sylvia Cullen, Linda Norris

Dydd Sul 26 Mawrth 2 – 5.20 pm Light Boats gyda Tracy Breathnach, Porth Mawr, Tyddewi

Teithiau arddangos i Swyddfa Cyngor Sir Wexford, Carriklawn 17 Ebrill – 19 Mai. Yn agor ddydd Gwener 14 Ebrill

Mae’n bleser gan Gysylltiadau Hynafol gyhoeddi agor arddangosfa o’r enw Sift yn Oriel y Parc a Ffreutur Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 23 Chwefror. Yn dilyn hyn, bydd y sioe yn teithio i dref Wexford, gan agor ar 14 Ebrill yn swyddfeydd Cyngor Sir Wexford yn Carricklawn.

Mae’r chwe artist, yn cynnwys John Sunderland, Sylvia Cullen a David Begley, sydd wedi eu lleoli yn nwyrain Iwerddon a  Seán Vicary, Linda NorrisTracy Breathnac sydd yng ngorllewin Cymru.

Mae’r arddangosfa’n plethu themâu teithio, lleoedd cysegredig, treftadaeth hynafol, adrodd straeon a hiraeth am gartref ynghyd trwy ffotograffiaeth, animeiddio, sain, celfyddydau cyfranogol, testun, stori, gwydr a golau. Mae’r artistiaid wedi’u hysbrydoli gan ganfyddiadau  ehangach prosiect Cysylltiadau Hynafol. Mae ymchwil hanesyddol, llên gwerin a chasglu straeon wedi datgelu cysylltiadau dwfn rhwng y ddau ranbarth yma ac mae’r cloddiadau archeolegol a’r arolygon geoffisegol yn y Porth Mawr ac yn Ferns, Wexford yn adrodd hanes teithio a chysylltiadau rhwng Wexford a Sir Benfro o’r cyfnod cynhanes hyd heddiw.

Meddai’r awdur Sylvia Cullen, sydd wedi’i lleoli yn Wexford:

Y môr sy’n ein cysylltu ni” – Dyma’r geiriau oedd fwyaf perthnasol i mi, wrth i mi ymchwilio ar gyfer y comisiwn hwn. Ysgrifennu a recordio pedair stori fer newydd mewn ymateb i nifer o themâu Cysylltiadau Hynafol oedd ffocws fy ngwaith. Cafodd y rhan fwyaf o’r cymeriadau a’r bydoedd a ddaeth i’r amlwg eu hysbrydoli gan fywydau a digwyddiadau’n gysylltiedig â’r dŵr sy’n cysylltu Sir Benfro a Gogledd Wexford.

Mae artist amlgyfrwng Seán Vicary wedi creu gosodiad fideo newydd ac meddai:

Mae fy ngwaith yn ymateb i fis a dreuliais yn gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn ystod y gwaith o gloddio mynwent ganoloesol gynnar sy’n cael ei bygwth gan erydiad arfordirol  yng Nghapel Sant Padrig, Porth Mawr. Rwyf wedi defnyddio delweddau symudol, recordiadau a wnes i yn y maes ac animeiddiad i fyfyrio ar y profiad hwn ac archwilio’r berthynas rhwng y prosesau archaeolegol ac artistig.

Derbyniodd Tracy Breathnach wahoddiad gan Gysylltiadau Hynafol i greu digwyddiad cyfranogol ar Draeth y Porth Mawr i goffáu pawb a gladdwyd ym mynwent ganoloesol gynnar Capel Sant Padrig. Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim hwn rhwng 2 a 5.20 pm ddydd Sul 26 Mawrth ac mae ar agor i unrhyw un. Meddai Tracy: ‘Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn creu cychod helyg syml maint cledr eich llaw, wedi’i lenwi â bwndel bach o blanhigion brodorol i’w gosod ar y traeth er mwyn i’r llanw eu cario allan. Bydd gosod golau gyda phob cwch bach yn symbolaidd, gall gynrychioli meddyliau, dymuniadau, gobeithion a gweddïau dros y rhai sy’n byw a’r rhai sydd wedi marw’.

Archebwch le drwy’r ddolen Eventbrite yma

Mae David Begley wedi bod yn artist Preswyl gyda Chysylltiadau Hynafol ers 2020. Mae ei ymchwil i arferion ffermio canoloesol, Sant Aeddan o Ferns, planhigion meddyginiaethol, llawysgrifau canoloesol a gwneud inc, yn ogystal ag arferion ffermio ac iacháu cyfoes yn Ferns wedi ysbrydoli corff presennol David o waith Small Findings mewn lluniadu, peintio a fideo a fydd yn cael eu harddangos yn Ffreutur Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Mae Linda Norris wedi creu gosodiad golau a gwydr sy’n cynnwys dresel rithwir sy’n ymgorffori barddoniaeth a ysgrifennwyd gan gyfranogwyr o Sir Benfro ac Iwerddon ac a ysbrydolwyd gan ddarnau ceramig a ddarganfuwyd ac sydd wedi’u ‘sandblastio’ ar ddarnau o wydr. Meddai Linda:

Yn ei hanfod, mae’r gwaith yn ymchwilio’n ddychmygus i gysylltiadau dynol pwerus ar draws amser a thirweddau. Mae’r darnau bach hyn yn borth i fywydau a lleoedd eraill, ac mae teithio yno’n ein hysbrydoli i fyfyrio ar ein pennau ein hunain.

Yn ei gyfres o focsys golau o’r enw Unheimlich, mae John Sunderland yn dogfennu’r llwybr pererindod newydd o Ferns i Dyddewi, gan ddychmygu sut y byddai rhywun o’r cyfnod canoloesol wedi ymateb i’r tirweddau hyn, fel yr oedden nhw bryd hynny a sut y maen nhw heddiw. Mae wedi tynnu lluniau o olygfeydd sy’n crynhoi’r myfyrdodau hyn.