NEWS

Ar Log yn perfformio caneuon gwerin Cymraeg newydd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Ar Log yw un o grwpiau gwerin mwyaf hirhoedlog a mwyaf poblogaidd Cymru. Mae dawn gerddorol  anhygoel y band, eu lleisiau Cymraeg sensitif, a’u clocsio bywiog i gyd i’w mwynhau ar eu recordiau. Er bod yna lawer o gerddorion gwych yng Nghymru, dylai unrhyw archwiliad o gerddoriaeth y wlad ddechrau gyda, neu o leiaf gynnwys,  recordiadau Ar Log. 

Byddan nhw’n perfformio cyfres newydd o chwe chân werin Gymreig a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr Cymreig byd-enwog Paul Mealor gyda’r geiriau gan un o feirdd amlycaf Cymru, Grahame Davies.

 Ar Log oedd y grŵp proffesiynol cyntaf i fynd â cherddoriaeth draddodiadol Cymru i’r llwyfan rhyngwladol. Ffurfiwyd y grŵp yn arbennig ar gyfer gŵyl Lorient, Llydaw, ym 1976, ac wedi hynny treuliodd y grŵp saith mlynedd yn perfformio ar hyd a lled Ewrop, Gogledd a De America, gan greu enw rhagorol iddyn nhw eu hunain fel llysgenhadon pennaf cerddoriaeth Gymreig. Gyda deg albwm hynod lwyddiannus i’w henw, maen nhw’n dal i swyno eu cynulleidfaoedd trwy eu perfformiadau byw cofiadwy a bywiog.