NEWYDDION

Ffair Pererinion yn Llys yr Esgob, Tyddewi

Dydd Llun 29ain Mai – Ffair Pererinion Llys yr Esgob, Tyddewi

AM DDIM a chroeso cynnes i bawb!
Mae’r Ffair Pererinion yn argoeli i fod yn achlysur arbennig ar 29ain Mai yn Llys yr Esgob, Tyddewi o 11am-6pm gyda rhaglen o berfformiadau, canu, teithiau tywys, marchnad ganoloesol, arddangosiadau sgiliau traddodiadol a dangosiadau ffilmiau. Mae’n nodi llwyddiannau prosiect Cysylltiadau Hynafol yng Nghymru a lansiad Llwybr Pererinion Wexford Sir Benfro, gyda dathliad o gymunedau ddoe a heddiw a chysylltiadau’r gorffennol a’r dyfodol rhwng Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro.
Mae diwrnod y Ffair Pererinion yn dechrau gydag Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro yn ymuno i arwain taith dywys sy’n cysylltu Aeddan Sant a Dewi Sant. Bydd y grŵp yn dechrau gyda pherfformiad cerddorol gan Gôr Pawb a’r prosiect Pererin Wyf / I’m a pilgrim, gan fynd ar ei ffordd ar hyd llwybr at lwybr yr arfordir ac ymweld â ffynnon sanctaidd y Santes Non. Os fyddwch wedi methu taith gerdded y bore, bydd cyfleoedd i ymuno â meicro-bererindodau o amgylch Eglwys Gadeiriol Tyddewi drwy gydol y dydd. Archebwch eich lle ar daith gerdded
Mae Côr Pawb, Span Arts yn eich gwahodd i’r Canu Mawr / The Big Sing, rhaglen fer o ganeuon pererindod a berfformir yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim a bydd yn gorffen drwy ganu ‘Pererin Wyf’ gan William Williams, Pantycelyn, yn ddigyfeiliant. Bydd yr Eglwys Gadeiriol ym ffrydio’r cyngerdd yn fyw. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno cliciwch yma.
Mae’n bleser gan Ganolfan Byd Bychan ddychwelyd gyda’r pyped anferth o Dewi Sant ac anghenfil môr newydd 6m o hyd mewn gorymdaith gyda cherddorion a disgyblion o Ysgol Penrhyn Dewi. Dewch i ymuno â’r hwyl am 2pm mewn Gorymdaith Bererinion o Sgwâr y Groes i dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Bydd Dewi Sant yn ymweld â chychod gwenyn anferth gwaith celf Bedwyr Williams, ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ ar ei ffordd i’r dathliadau yn y Ffair. Darganfyddwch fwy am y cychod gwenyn yma.
Bydd amrywiaeth o stondinau cyffrous sy’n arddangos rhai o’r nwyddau gorau sydd gan yr ardal i’w cynnig mewn marchnad ganoloesol fywiog. Bydd stondinau’n gwerthu bwyd a diod blasus hefyd, wedi’u gwneud o gynhwysion lleol. Bydd yna ddidanwyr direidus, cerddorion crwydrol a gwerthwyr creiriau sanctaidd a pherfformiadau annisgwyl. Manylion am y farchnad ganoloesol a’r hyn fydd ar gael i ddod yn fuan.
Cewch olwg ar y crefftau a’r sgiliau traddodiadol a ddefnyddiwyd i adeiladu Llys yr Esgob ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ymunwch â chrefftwyr Canolfan Tywi yn eu pabell fawr wrth iddyn nhw rannu eu gwybodaeth am adeiladau hanesyddol ac arddangos gwaith plastr addurniadol, cerfio carreg, toi, a gwneud ffenestri traddodiadol ymhlith pethau eraill. Cewch fwy o wybodaeth yma canolfantywi.org.uk
Gallwch fwynhau effaith y prosiect Cysylltiadau Hynafol trwy gyfres o ffilmiau a ddangosir yng naeargelloedd y Llys. Mae’r ffilmiau’n cynnwys comisiynau artistiaid a chymunedol o Gymru ac Iwerddon. Bydd rhestr o ddangosiadau ffilm a gwneuthurwyr ffilm yn dod yn fuan.
Ac yn olaf, dewch draw i’r cyngherdd awyr agored gyda cherddoriaeth hynafol o Gymru a’r gwledydd Celtaidd yn cael ei pherfformio gan y cerddorion gwerin enwog Julie Murphy, Ceri Rhys Matthews a Jess Ward. Cyfeiliant cerddorol perffaith i ddathliad godidog yn lleoliad hanesyddol trawiadol adfeilion y Llys.