Cysylltiadau
Hynafol

Hen Hanesion, Straeon Cudd,
Cymunedau Cysylltiedig

Croeso, Fáilte, Welcome – Mae Cysylltiadau Hynafol yn adfywio’r hen, hen gysylltiadau rhwng Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro, Iwerddon a Chymru, er mwyn creu twristiaeth gynaliadwy yn y rhanbarthau hyn, a rhyngddynt. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf byddwn yn cynnal digwyddiadau a gwyliau newydd, yn comisiynu gweithiau celf, yn gweithio gyda chymunedau a busnesau, yn adfywio sgiliau traddodiadol, yn hyfforddi llysgenhadon newydd i adrodd straeon ac yn cloddio yn ein gorffennol!…er mwyn rhannu, dathlu a chroesawu ymwelwyr newydd o dros y môr.

Y Stori Ddiweddaraf

Môr-forynion Ahoi!

Mae llên gwerin mor hudolus O amgylch arfordir Cymru ac yn wir, Ynysoedd Prydain, mae straeon, themâu a chreaduriaid rhyfeddol yn ymddangos dro ar ôl tro. Rydw i’n storïwr, felly dydw i ddim am fentro i’r ddadl ynglÅ·n ag a yw’r creaduriaid hyn yn ‘wir’ neu beidio. I mi, maen nhw’n fyw yn ein dychymyg storïol, yn ein tirwedd ac yn y dyfroedd bas a’r dyfnderoedd o gwmpas ein harfordir.

Ymunwch â ni i ddathlu lansiad Ffynhonau Sanctaidd Wexford a Sir Benfro, cyfres dairieithog o lyfrynnau a gomisiynwyd gan Gysylltiadau Hynafol ac a gyhoeddwyd gan Parthian.

Bydd Gŵyl Ferns ar 4 a 5 Mehefin yn ddathliad cymunedol go iawn, fydd yn nodi penllanw prosiect Cysylltiadau Hynafol wrth iddo dynnu at ei derfyn yr haf hwn.

Ffair Pererinion yn Llys yr Esgob, Tyddewi 29ain Mai - am ddim a chroeso cynnes i bawb!

0