Categories
Cymuned

Gwisgoedd Canoloesol i Ferns – Prosiect Treftadaeth Ferns

Prosiect Cymunedol

Gwisgoedd Canoloesol i Ferns – Prosiect Treftadaeth Ferns

Mae Prosiect Treftadaeth Ferns yn sefydliad cymunedol allweddol sy’n ymdrechu i greu cyfleoedd i ddod â straeon treftadaeth unigryw Ferns yn fyw i gynulleidfaoedd cyfoes. Bydd y prosiect hwn yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu cynnig twristiaeth unigryw yn Ferns, gan ffurfio templed i’w ddefnyddio am flynyddoedd i ddod. Bydd gwisgoedd yn cael eu creu gan wniadwragedd proffesiynol a bydd ffyn pren ar gyfer Aeddan Sant a Dewi Sant hefyd yn cael eu gwneud yn broffesiynol. Yn ogystal â hyn, bydd gwirfoddolwyr lleol yn gwneud gwisgoedd eraill er mwyn ail-greu perfformiad hanesyddol – dathliad theatrig fydd yn cynnwys ymladd â gwaywffyn ar gefn ceffyl, dawnsio canoloesol a rhyfelwyr yn arddangos gemau o’r canoloesoedd.

“Rydym yn awyddus i ddod â hanes yn fyw trwy greu arddangosfa weledol mewn gwisgoedd o’r cyfnod sy’n canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng Sir Benfro a Wexford – gan arddangos elfen bwysig o’r hanes a rennir gennym mewn ffordd ddifyr a lliwgar.

Catherine McPartlin – Prosiect Treftadaeth Ferns

Dyddiad: Mawrth 2020 – Mawrth 2021

Allbynnau’r Prosiect:  Digwyddiad cymunedol a gwisgoedd etifeddiaeth

Categories
Celfyddydau

Comisiynau Artistiaid

Prosiect Celfyddydau

Comisiynau Artistiaid

Mae Cysylltiadau Hynafol wedi comisiynu comisiynau newydd gan bedwar artist, sy’n archwilio themâu cydgysylltiedig sydd wrth graidd y prosiect, gan gynnwys: pererindod, cysylltu gyda diaspora Celtaidd Iwerddon a Chymru, a’n perthynas â mannau sanctaidd megis ffynhonnau, capeli a safleoedd hynafol.

Bydd yr artistiaid yn cynhyrchu gweithiau celf newydd dros y ddwy flynedd nesaf, wedi’u ysbrydoli gan eu hymchwil bersonol yn ogystal â chanfyddiadau timau Cysylltiadau Hynafol o helwyr straeon, ymchwilwyr cymunedol ac archeolegwyr. Bydd disgwyl i bob artist greu gwaith all gael ei rannu ar-lein, er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd lleol a phobl sydd lawer ymhellach, er enghraifft yn Awstralia neu Ogledd America, lle mae poblogaethau sylweddol o bobl o dras Cymreig a Gwyddelig. Bydd yr artistiaid hefyd yn cyflwyno’u gwaith mewn arddangosfa gyhoeddus derfynol yn Wexford a Sir Benfro yn 2022.

Y pedwar artist yw Seán Vicary a Linda Norris, dau artist gweledol o Orllewin Cymru, a’r artist/archeolegydd John Sunderland a’r awdures Sylvia Cullen, o dde-ddwyrain Iwerddon.

Linda Norris

‘Plât Williams Leatham’ o gyfres Cân yr Oer Wynt, decal seramig ar hen lestr

Bwriad Linda Norris yw defnyddio ‘teilchion’ neu ddarnau o grochenwaith fel man dechrau ei phrosiect, ac mae’n annog pobl i anfon teilchion ati a’u lleoli ar fap ar-lein. Meddai:

“Ymhell o swyn metelau gwerthfawr neu henebion enwog, mae teilchion yn adrodd hanesion domestig anhysbys ac yn ein cysylltu â’r bobl oedd yn byw yn ein cartrefi yn y gorffennol. Rwy’n bwriadu dechrau prosiect ‘archeoleg dinasyddion’ yn Sir Benfro a Wexford, ac yna’i ymestyn i’r Diaspora Celtaidd. Byddaf yn ymchwilio’r bobl a ymfudodd o’r ardaloedd hyn i’r Diaspora yn y 19eg ganrif ac yn ceisio dod o hyd i’w disgynyddion.”

Seán Vicary

'Nodiadau Maes RAF Tyddewi'

Yn ddiweddar, darganfyddodd yr artist aml-gyfrwng Seán Vicary bod ei hen fam-gu wedi ei geni yn 1874, a hynny dim ond 3.5 milltir o Ferns yn Camolin ac mae’n gobeithio gallu:

“Deall y grymoedd a arweiniodd ata i’n byw yma draw dros y dŵr o gartref fy hen fam-gu. Drwy fynd ati i gloddio drwy fy ngorffennol fy hun, fe fydda i’n cychwyn proses sy’n adlewyrchu’r gwaith ymchwil archeolegol a hanesyddol sy’n mynd ymlaen yn y ddwy gymuned.”

Fe fydd yn darganfod y ‘straeon cudd’ yn y dirwedd ac yn eu gweithio’n greadigol i mewn i deithlyfr personol gafaelgar sy’n symud yn ôl ac ymlaen rhwng Sir Benfro a Wexford.

“Bydd llais, testun, cerddoriaeth, ffilm ac animeiddiad yn cyfuno i ddangos y llefydd hyn mewn modd cyffrous a chyfoes; gan adeiladu ymdeimlad dyfnach o hunaniaeth drwy rannu profiadau o ailgysylltu.”

John Sunderland

'The Shooting Hut' (Site 1, Visit 9) o brosiect 'Touching Darkness' (2019)

Bydd yr archeolegydd hyfforddedig ac artist gweledol John Sunderland yn ymgymryd â phererindod o Borth Mawr i Ferns, ac yn cloddio gwrthrychau ar hyd y daith er mwyn creu creirfa ynghyd â ffotograffiaeth twll pin. Yn hytrach na defnyddio dull archeoleg dadansoddol modern, mae’n gobeithio archwilio ei ganfyddiadau gan ddefnyddio meddylfryd canoloesol, gan dynnu sylw at y “goruwchnaturiol neu’r cysegredig, i gwestiynu’r da a drwg, yr arwyddion a’r argoelion”.

Sylvia Cullen

Clawr drama Sylvia Cullen, The Thaw, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon, a gynhyrchwyd gan Ganolfan Gelfyddydau Courthouse yn Tinahely, a gyhoeddwyd gan New Island Books, ac a ysbrydolwyd gan bobl Gogledd Wexford, De Wicklow a Dwyrain Ceatharlach

Mae’r awdures Sylvia Cullen yn bwriadu creu cyfres newydd o straeon byrion ar gyfer podlediadau a ffrydio byw, gan dynnu ar “hanesion cyffrous am fôr-ladrata a smyglo ar hyd arfordiroedd Cymru ac Iwerddon” a straeon atgofus am fannau cysegredig neu am hiraethu am adref. Bydd hi hefyd yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol yn y ddwy gymuned.

Bydd cael gwylio’r prosiectau hyn yn esblygu ar wahan ac yna’n plethu ynghyd mewn cyflwyniad terfynol yn daith gyffrous i dîm y prosiect ac i’n cynulleidfaoedd.

Dyddiad: Awst 2020 – Rhagfyr 2022

Ariennir gan: Cysylltiadau Hynafol

Categories
Cyfle

Gwirfoddoli fel Stiward neu Werthuswr

Cyfle

Pam gwirfoddoli i Gysylltiadau Hynafol?

Gall manteision gwirfoddoli fod yn enfawr. Gall gwirfoddoli i Gysylltiadau Hynafol helpu eich cymuned i ddatblygu gwell ymdeimlad o gysylltedd a chodi ymwybyddiaeth a gwybodaeth ynglŷn â hanes lleol a pha mor berthnasol yw’r haner hwnnw heddiw. Ond gall y manteision fod hyd yn oed yn fwy i chi, y gwirfoddolwr. Gall y dewis iawn eich helpu i wneud ffrindiau, cysylltu â’ch cymuned, dysgu sgiliau newydd, a datblygu eich gyrfa. Gall gwirfoddoli eich helpu i gynyddu eich hunanhyder a’ch ymdeimlad o bwrpas. Does dim rhaid iddo fod yn ymrwymiad hirdymor na chymryd llawer o amser o’ch diwrnod.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan fel gwirfoddolwr gyda Chysylltiadau Hynafol:

  • Byddwch yn un o’n Helwyr Hanes ac fe gewch chi hyfforddiant ar ymchwilio eich achau neu hanes lleol, creu straeon yn seiliedig ar eich canfyddiadau a’u rhannu nhw ag eraill.
  • Ymunwch â’n tîm o Lysgenhadon Twristiaeth, sy’n helpu i gadw straeon lleol, treftadaeth a chwedlau’n fyw. P’un ai eich bod yn angerddol am lefydd a straeon lleol, neu eich bod yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth, mae ein cynlluniau hyfforddi yn cynnig gwahanol raglenni sy’n gweddu’ch diddordebau.
  • Torchwch eich llewys a dechreuwch gloddio – gwirfoddolwch ar gloddfeydd archeolegol Porth Mawr gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ac yn Ferns gydag IAFS.
  • Darganfyddwch beth sydd o dan y wyneb mewn safleoedd arwyddocaol yn Sir Benfro a Wexford, a gwirfoddolwch gyda Dig Ventures, arbenigwyr mewn geoffiseg.
  • Byddwch yn Stiward ar gyfer ddigwyddiadau Cysylltiadau Hynafol. O 2021 ymlaen, bydd Cysylltiadau Hynafol yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn Wexford ac yn Sir Benfro. Mae hyn yn gyfle i fod ynghanol yr hwyl i gyd ac i roi cymorth i dîm y prosiect gynnal y digwyddiadau mor rhwydd ac mor ddiogel â phosib.
  • Byddwch yn Werthuswr – fel rhan o brosiect Cysylltiadau Hynafol, bydd angen i’r tîm gasglu gwybodaeth bwysig gan ymwelwyr i safleoedd allweddol yn Wexford a Sir Benfro, gan gynnwys o ble maent wedi dod, pam eu bod wedi dod, beth maent yn bwriadu ei wneud tra yn yr ardal, ac os oeddent yn ymwybodol o’r cysylltiadau trawsffiniol rhwng y ddau leoliad. Does dim rhaid i Werthuswyr fod ag unrhyw sgiliau arbennig, dim ond wyneb cyfeillgar a pharodrwydd i ymgysylltu gyda phobl o bob cefndir.

I ddarganfod mwy am Helwyr Hanes, Llysgenhadon Twristiaeth a gwirfoddoli ar gloddfeydd a geoffiseg, cliciwch ar y dolenni perthnasol uchod. I gofrestru fel Stiward neu Werthuswr, llenwch y ffurflen isod a bydd un o’n tîm yn cysylltu â chi.

Ffurflen Wirfoddoli Cysylltiadau Hynafol
Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd
Categories
Archeoleg

Darganfod Mynachlog Aeddan Sant – Ferns

Prosiect Archeoleg

Darganfod Mynachlog Aeddan Sant - Ferns

Fis Mehefin 2021 bydd IAFS (Ysgol Faes Archeoleg Iwerddon) yn lansio eu cloddiad archeolegol nesaf ar safle Mynachlog Aeddan Sant, Fearna, Swydd Wexford. Nod y prosiect, a sefydlwyd fel partneriaeth rhwng IAFS, Cyngor Swydd Wexford a’r gymuned leol, yw asesu un o’r safleoedd Canoloesol Cynnar mwyaf arwyddocaol yn hanesyddol yn ne-ddwyrain Iwerddonl, sydd heb ei asesu hyd yma. Mae prosiect Mynachlog Aeddan Sant yn canolbwyntio ar gloddiad ymchwil sylweddol y fynachlog o’r 7fed ganrif a’r Abaty Awstinaidd o’r 12fed ganrif, gan obeithio creu ‘atyniad treftadaeth allweddol’ i dref Ferns, ac o ganlyniad rhoi gwerth economaidd ac amwynder ychwanegol i’r gymuned leol.

Safle Hanesyddol o Bwys

Mae’r safle’n gasgliad o nifer o adeiladau, o sawl cyfnod, a sefydlwyd yn wreiddiol gan Aeddan Sant ar droad y 7fed ganrif, sydd hefyd yn cynnwys croesau Canoloesol Cynnar a cherrig croes, Abaty Awstinaidd o’r ddeuddegfed ganrif (a sefydlwyd gan Frenin Leinster, Diarmuid McMurrough), ac eglwys gadeiriol ganoloesol o’r drydedd ganrif ar ddeg (Eglwys Gadeiriol Aeddan Sant) o fewn y safle ehangach. Fodd bynnag, er gwaethaf pwysigrwydd hanesyddol y safle, a’r gwaith archeolegol a gynhaliwyd yno’n ddiweddar, nid yw’r safle’n atyniad treftadaeth amlwg; mae ein gwaith felly yn gam allweddol tuag at sefydlu pwysigrwydd haeddiannol y mynachlogydd o fewn hanesion canoloesol Swydd Wexford y cyfnod Canoloesol Cynnar a’r cyfnod Canoloesol.

Mae lansiad swyddogol yr elfen gloddio yn ystod haf 2021. Fodd bynnag, gwnaed datblygiadau sylweddol yn 2019 o ran arolygon ar yr arwyneb (sganio Lidar 3D ar y safle a Chastell Ferns), asesiadau geoffisegol (ar safle posibl Eglwys Clone) a chloddiad cymunedol fis Rhagfyr 2019 (sydd bellach yn cael ei gwblhau ar gyfer ei gyhoeddi). Rhagwelwyd cynnal Cam 1 y prosiect am dri thymor cloddio, o 2020-2022, ond mae pandemig Covid-19 wedi atal hyn. Ariannwyd cam cyntaf y prosiect yn rhannol gan y fenter Cysylltiadau Hynafol, prosiect celfyddydol a threftadaeth trawsffiniol newydd sy’n cysylltu Gogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford; y gobaith yw cynnal y prosiect am nifer o flynyddoedd i ddod.

Dyddiad: 2021 – 2022

Ariannwyd gan: Cysylltiadau Hynafol, Cyngor Swydd Wexford ac IAFS (Ysgol Faes Archeoleg Iwerddon)

Am fwy o wybodaeth ewch i:
www.iafs.ie/ferns
www.iafs.ie/clone
www.iafs.ie/blog-ferns

Mewn Partneriaeth gyda: Cysylltiadau Hynafol, Cyngor Swydd Wexford ac IAFS (Ysgol Faes Archeoleg Iwerddon)

Allgynnyrch Prosiect: Flog, Blog, Fideos Bach Dogfennol, Adroddiadau, Allgymorth Cyfryngau Cymdeithasol, Digwyddiadau Cymunedol, Cyhoeddiadau, Darlithoedd Cyhoeddus ac ati.

Categories
Cyfle

Helwyr Hanes

Cyfle

Helwyr Hanes

Ydych chi erioed wedi bod ag awydd ymchwilio i’ch hanes teuluol neu leol? Allwch chi ddychmygu’ch hun fel ditectif hanesyddol yn darganfod hanesion coll o lwch hen, hen archifau? A fyddech chi’n mwynhau ymchwilio, ysgrifennu a chyhoeddi blogiau ac erthyglau am archeoleg neu fytholeg eich rhanbarth, neu oes yna storïwr sy’n ysu am ddod i’r golwg? Os felly, mae rhaglen Helwyr Hanes Cysylltiadau Hynafol yn berffaith i chi.

Adrodd Straeon Lleol

Y nod yw cefnogi unigolion chwilfrydig a’r rhai sydd â diddordeb yn eu hanes a’u straeon lleol, i ddatblygu sgiliau a chael eu mentora i gloddio’n effeithiol i orffennol eu cymuned, a rhannu eu dargynfyddiadau. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol ac mae’n gymaint o hwyl. Bydd Helwyr Hanes yn ffurfio grwpiau a rhwydweithiau lleol i gefnogi ei gilydd ac i rannu gwybodaeth a bydd cymorth a mentora gan dîm Cysylltiadau Hynafol.

Mae cyfres o bedwar modiwl hyfforddi rhad ac am ddim wedi’u datblygu i sicrhau bod gan y cyfranogwyr bopeth sydd ei angen arnynt ar gyfer casglu, recordio a rhannu trysorfa o hanes a straeon eu milltir sgwâr. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys sut i gasglu a chofnodi hanes llafar, sut i chwilio ffynonellau archif ar-lein a chyhoeddedig ar gyfer Cymru ac Iwerddon, sut i rannu a chyhoeddi ymchwil ar ffurf erthyglau a blogiau, a sut i adrodd y straeon hyn.


Rhaglen Cyflenwi Contractwyr:

Byddwch yn Heliwr Hanes
Ymchwilio a rhannu straeon.
I wneud cais i fod yn Heliwr Hanes, cwblhewch y ffurflen isod a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi.
Ble rydych chi’n byw?
...
I agree with the Privacy policy
Diolch am eich diddordeb, bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Dyddiad; Ionawr 2020

Ariannwyd gan: Cysylltiadau Hynafol

Cynnyrch y Prosiect:
Pecynnau Hyfforddi Helwyr Hanes
Rhaglen Hyfforddi Helwyr Hanes
Mentora Helwyr Hanes
Datganiadau’r Wasg ac Erthyglau
Cyfryngau Cymdeithasol

Am fwy o wybodaeth ewch i:
www.ancientconnections.net/history-hunters

Categories
Newyddion Pererindod

Dewis Artistiaid Pererindod Camino Creadigol

Dewis Artistiaid Pererindod Camino Creadigol

Mae Cysylltiadau Hynafol yn falch iawn o fod wedi comisiynu pedwar artist perfformio i ymuno â phererindodau Camino Creadigol (dyddiadau i’w cadarnhau). Bydd yr artistiaid hyn yn teithio o Ferns i Dyddewi dros gyfnod o wyth diwrnod, gan ymweld â nifer o safleoedd o ddiddordeb ar hyd y ffordd. Bydd yr artistiaid yn ymateb yn greadigol i’r profiad trwy berfformiadau yn Ferns, yn Abergwaun ac yn Nhyddewi.

Yr artistiaid o Sir Benfro yw Ailsa Richardson, arlunydd aml-ddisgyblaethol sy’n gweithio ym meysydd symud, canu, barddoniaeth a cherddoriaeth, a Suzi McGregor, cerddor, actor a chanwr-gyfansoddwr. Ac o Wexford, yn ymuno â’r grŵp fydd Bonnie Boux, dawnsiwr sy’n arbenigo mewn dawns burlesque a chymunedol a Kate Powell, cerddor aml-offerynnol a pherfformiwr stryd.

Bydd pedwar aelod o’r gymuned sydd eto i’w dewis yn ymuno â’r artistiaid a bydd y grŵp cyfan yn cael ei arwain gan dywyswyr o Journeying a Wexford Trails. Mae’r daith yn argoeli i fod yn brofiad hwyliog, creadigol a thrawsnewidiol a bydd cyfleoedd i aelodau o’r cyhoedd ymuno am ddiwrnod neu hanner diwrnod.

Categories
Straeon

Pysgotwyr Tinnaberna

Llên Gwerin

Pysgotwyr Tinnaberna

Digwyddodd trychineb Pysgotwyr Tinnaberna yn yr 1810au. Pentref pysgota bach ar arfordir gogledd Wexford ger Kilmuckridge oedd Tinnaberna. Aeth dau gwch pysgota allan i’r môr ar dydd gwledd Sant Martin, 11 Tachwedd. ac fe’u chwythwyd allan ymhell i Fôr Iwerddon gan storm. Collwyd un, ond cyrhaeddodd y llall dir arfordir Cymru. Cafodd y criw fwyd a lloches gan ffermwr, ond ni allent gyfathrebu ag ef gan mai dim ond Cymraeg siaradai. Yn y diwedd, cyrhaeddodd y dynion yn ôl yn Ballycotton, Swydd Corc a cherdded yn ôl i Wexford i gael eu cyfarch gan berthnasau a oedd yn credu eu bod wedi mynd am byth. Daeth hanes y drasiedi hon yn destun baled sy’n dal i gael ei chanu’n lleol.

Ffynonellau:
The Schools Collection, Cyfrol 0886, tt.24-5

Ar gael ar-lein ar:
www.duchas.ie
Cyrchwyd 21 Tachwedd 2019
Gaul, L. “Songs, Ships and High Seas” yn The Past, Rhif. 31, 2011-’12, tt.95-102

Categories
Straeon

Y Sgwner Elizabeth

Llên Gwerin

Y Sgwner Elizabeth

Fis Hydref 1827, suddodd y sgwner Elizabeth oddi ar Benrhyn Duffcarrick, i’r gogledd o Courtown ac fe foddwyd bob un o’r naw morwr ar hugain. Llong o Aberdaugleddau yn Sir Benfro oedd yr Elizabeth ac roedd ei chapten William Griffiths yn frodor o Abergwaun. Claddwyd ei gorff ym mhridd Wexford ym mynwent Prospect ger Ballymoney. Nid yw’n hysbys a gafodd cyrff y morwyr eraill eu darganfod.

Mae carreg fedd gain i’w gweld yno hyd heddiw gyda’r arysgrif isod.

“Yma gorwedd gweddillion William Griffiths o Abergwaun, Sir Benfro, De Cymru, diweddar gapten y sgwner Elizabeth o Aberdaugleddau, a ddaeth i ddiwedd ei fordaith ddaearol gyda’r holl griw ar Hydref 28ain, 1827 yn 35 mlwydd oed.

Yr Arglwydd a’m hachubodd rhag stormydd a pheryglon
Fe’m rhyddhaodd o donnau Neifion a gwyntoedd Boreas.
Ond gerllaw’r graig hon fe gollais fy anadl addfwyn
Ac mewn tonnau gwylltion a moroedd geirwon, dioddefais wewyr Marwolaeth.”

Ffynonellau
The Schools Collection, Cyfrol 0888, tt.120-1

Ar gael Arlein ar:
www.duchas.ie
Cyrchwyd 21 Tachwedd 2019

Cymdeithas Hanesyddol Gogledd Wexford:Recordiadau Cerrig Beddau

Ar gael ar-lein:
www.northwexfordhistoricalsociety.com
Cyrchwyd 21 Tachwedd 2019

Categories
Celfyddydau

Fern Thomas Artist Preswyl Sir Benfro

Artist Preswyl

Fern Thomas – Artist Preswyl Sir Benfro

YNYS: “… ac wrth i greiriau, cerrig, esgyrn a straeon o’r ddau le olchi allan i’r môr, ffurfiwyd ynys newydd yn y canol. Man lle mae diwylliant, hanes, breuddwydion, barddoniaeth a chaneuon o bob cyfnod yn cyd-fyw. Ac o’r lle hwn, crëwyd gorsaf radio a ddechreuodd ddarlledu … “

“Ar gyfer y prosiect hwn rwy’n creu gorsaf radio sy’n ‘darlledu’ o YNYS, sef ynys ddychmygol sydd wedi’i lleoli rhwng Sir Benfro a Wexford. Daeth y syniad cychwynol am YNYS o’r erydiad ym Mhorth Mawr, a ddatgelodd gapel Sant Padrig, oedd wedi’i gladdu yno. Mae’r prosiect yn ystyried y posibilrwydd, trwy erydiad arfordirol, y gallai’r holl hanes hwn gael ei olchi i ffwrdd – bod y lleoedd arfordirol hyn yn byw ar ymyl y dibyn, neu ar ymylon hanes.” – Fern Thomas

Cliciwch yma i wrando ar ddarllediadau radio Fern

Man ar gyfer y Gorffennol a'r Dyfodol

“Gan ystyried hyn fel delwedd ehangach rwy’n dychmygu hanes Sir Benfro yn golchi i’r môr a’r un peth yn digwydd yr un pryd i hanes Wexford, ac oddi yma maen nhw’n symud tuag at ei gilydd ac yn cwrdd rhywle yn y canol i greu ynys ddychmygol. Ynys lle gall Dewi Sant eistedd ochr yn ochr â’r tri dyn ifanc o Wexford yn eu canŵ benthyg; lle mae tân bryngaer Boia neu’r môr-forynion oddi ar Borth y Rhaw yr un mor bresennol â’r tywod sy’n erydu ym Mhorth Mawr. Man lle mae’r gorffennol a’r dyfodol yn cyd-gwrdd.

Bydd y gwaith clywedol hwn ar gael fel sawl pennod a fydd yn dilyn datblygiad y prosiect Cysylltiadau Hynafol lle byddaf yn plethu darnau o gyfweliadau gydag aelodau o’r gymuned a chyfranogwyr i’r prosiect Cysylltiadau Hynafol ochr yn ochr â llên gwerin, ymchwil hanesyddol, chwedlau, recordiadau maes o’r safleoedd, a synau o’r gorffennol yn ogystal â’r presennol er mwyn creu stori sain o’r wlad dragwyddol hon. “

“Yn rhan o’r darllediadau byddaf yn cynnig ymatebion barddonol wedi’u hysbrydoli gan y cwestiynau a ofynnir o fewn y prosiect wrth iddo ddatblygu, gan ddilyn dirgelion, straeon a datgeliadau Cysylltiadau Hynafol.

Cymunedau Sir Benfro a Wexford fydd yn penderfynnu ar gynnwys yr orsaf radio trwy ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a sgyrsiau un i un.”-. Fern Thomas

Dyddiad: Gorffennaf 2020 – Awst 2022

Am fwy o wybodaeth ewch i:

www.fernthomas/ynys.com

Allbynnau’r Prosiect:
Podlediadau, digwyddiad seremonïol ac arddangosfa

Categories
Celfyddydau Cymuned

Ysgolion Animeiddio

Prosiect Celfyddydau

Ysgolion Animeiddio

Mae Ysgolion Animeiddio yn dod â thair ysgol ynghyd gyda’r nod uchelgeisiol o greu ffilm wedi’i hanimeiddio yn adrodd y straeon sy’n cysylltu’r ddwy ardal. Y tair ysgol fydd yn cymryd rhan yw Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi, Sir Benfro, a Scoil Naomh Maodhog a St Edan’s School yn Ferns, Swydd Wexford.

Ym Mawrth 2020, fe ddechreuodd y prosiect gyda grŵp o ddisgyblion 12-13 oed, a staff, yn teithio o Dyddewi i Ferns, i gwrdd â’u cyfoedion yn ysgolion Ferns. Mae disgyblion y tair ysgol wedi bod yn dysgu am eu treftadaeth eu hunain, yn ogystal â’r straeon sy’n cysylltu’r ddwy ardal drwy weithio gyda’r storïwyr Deb Winter o Abergwaun, a Lorraine O’Dwyer o Wexford. Yn Ferns, perfformiwyd y straeon gan y disgyblion i’w gilydd yn ogystal â rhannu perfformiadau o ddarnau o gerddoriaeth gyfoes a thraddodiadol.

“Mae gen i eisiau diolch yn FAWR IAWN ar ran pawb yn Ysgol Penrhyn Dewi am y daith anhygoel gawsom ni i Iwerddon. Roedd y disgyblion a minnau wedi’n rhyfeddu gan y croeso Gwyddelig cynnes a gawsom ni ac roedd pob rhan o’r daith yn berffaith! Roedd cyrraedd Scoil Maodhog yn emosiynol ac mae ein disgyblion yn tecstio, snapchatio/whatsappio ayyb ac yn edrych ymlaen at groesawu’r disgyblion i Sir Benfro. Roedd y teithiau i gyd yn wych ac yn llawn gwybodaeth, a phan ofynnais i’r disgyblion beth oedd eu hoff ran o’r daith, doedd yr un ohonyn nhw’n gallu dewis gan fod gormod o ddewis.”

Cilla Bramley, Pennaeth y Celfyddydau Mynegiannol, Ysgol Penrhyn Dewi

Mae disgwyl i’r prosiect ailddechrau ym mis Mawrth 2021, gyda stiwdio animeiddio yng Nghaerdydd – Winding Snake – yn helpu’r bobl ifanc adrodd y straeon hyn yn greadigol, gan ddefnyddio technegau animeiddio amrywiol. Caiff y ffilm fer ei harddangos mewn lleoliadau ac ar-lein yn 2021-2022.

“Mae’r tîm yma yn Winding Snake yn falch iawn o gael gweithio gyda’r ysgolion yma fel rhan o’r prosiect cyffrous a hanesyddol yma. Rydyn ni’n ysu i ddechrau arni a chreu! Bydd y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn gweithio gyda ni i greu animeiddiad, dysgu sut i greu cyfansoddiad cerddorol, creu foley ac effeithiau sain, cymryd rhan mewn ysgrifennu sgriptiau a sesiynau adrodd straeon, yn ogystal â gweithio gydag actorion proffesiynol er mwyn dysgu sgiliau actio a pherfformio. A gyda llawer o gelf a chrefft yn rhan ohono hefyd, mae hwn am fod yn brosiect gwefreiddiol!”

Amy Morris, Cyfarwyddwr Winding Snake

Bydd ffilm ddogfen fer am y prosiect hefyd yn cael ei chreu gan y gwneuthurwr ffilmiau o Wexford, Terence White.

Dyddiad: Mawrth 2020 – Ionawr 2022

Allbwn y Prosiect: Ffilm fer wedi’i hanimeiddio

Dysgwch fwy: www.windingsnake.com