Categories
Archeoleg

Datguddio’r Gorffennol

Prosiect Archeoleg

Datguddio'r Gorffennol

Bydd prosiect archeolegol ‘Datguddio’r Gorffennol’ yn archwilio safleoedd ym Mhenfro a Gogledd Wexford drwy dirfesur geoffisegol er mwyn datguddio gwybodaeth ynglŷn â’r Eglwys Geltaidd gynnar, Seintiau Celtaidd, eu dilynwyr a’u pererindodau a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddwy ardal, ac felly’n cyfrannu at y stori drawsffiniol. Techneg yw geoffiseg sy’n mesur arwyneb y ddaear a’r hyn sydd oddi tanodd drwy greu signal trydanol sy’n cofnodi ac yn mapio’r archeoleg danddaearol.

O fewn ei heglwysi, ei chapeli a’i mynwentydd, mae tirwedd eglwysig Sir Benfro a Wexford yn cofnodi’r straeon a’r cysylltiadau â Dewi Sant ac Aeddan Sant – atgof o bwysigrwydd lonydd môr yr Iwerydd a gysylltai eglwysi Cymru ac Iwerddon..

Y safleoedd a dargedwyd hyd yn hyn yw:-

Sir Benfro Chwefror 2021.

Fel canolfan esgobol roedd Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ganolbwynt cryn dipyn o weithgaredd eglwysig yn y mileniwm 1af OC, roedd y posibilrwydd o oroesiad nodweddion canoloesol cynharach wedi’i ystyried a chwblhawyd y geoffiseg ar Berllan y Cantor i’r de-orllewin o’r Gadeirlan yn Awst 2020. Mae’r canfyddiadau’n datgelu llawer o weithgaredd gyda nodweddion diddorol sydd o bosibl yn ymwneud â llociau cynharach, wal ffiniol bosib a nodweddion yn gysylltiedig â’r nawdd.

Eglwys Mathri– lloc cylchol mawr o’r canoloesoedd cynnar o amgylch safle sydd o bosib yn rhagflaenydd, o’r 5ed neu 6ed ganrif, y safle eglwysig yn Nhyddewi.

Amgylchoedd Eglwys Llanrhian – lloc eglwys ganoloesol gynnar potensial.

Mynwent Waun y Beddau/Carreg Nymllwyd – mae’r enwau’n awgrymu safle claddu canoloesol cynnar lle mae beddi o ddyddiau canoloesol cynnar eisoes wedi’u canfod.

Capel yr Hen Fynwent – mae’r enw’n awgrymu gweithgaredd canoloesol cynharach neu gynnar ar y safle.

Rosina Vallis/Hodnant – rhagflaenydd posib i’r safle eglwysig diweddarach yn Nhyddewi, wedi’i ddiffinio gan loc gyda darnau o deils llawr canoloesol.

Wexford Awst 2021

Abaty FearnaSefydlwyd ar ddechrau’r 7fedganrif gan Aeddan Sant (a fu farw yn 624), a gai hefyd ei adnabod fel Máedhóg Sant. Bu’n ddisgybl i Dewi Sant, yn ôl yr hanes. Mae tair croes wenithfaen blaen a charreg groes sy’n amlygu gwreiddiau cynharach Fearna. Yn ôl y son, bu farw Diarmait MacMurrough, Brenin Leinster yn Fearna yn 1171 ac fe ddywedir bod darn o groes uchel addurnedig yn y fynwent yn nodi man ei gladdu. Yn ddiweddarach daeth Fearna yn adnabyddus fel Abaty’r Santes Fair, ac mae’n debyg bod y cae yn cynnwys mynachlog gynnar a lloc mynachaidd sydd eisoes wedi ei dargedu fel safle cloddio gan yr Irish Archaeological Field School, a bydd geoffiseg yn helpu gyda’r cloddio.

Eglwys Toombe– mynachlog gynnar mae’n debyg, gyda lloc eglwysig hirgrwn sy’n cynnwys lloc mewnol ac allanol.

Ballyorley Upper– lloc eglwysig cynnar   gyda thraddodiad o fod yn safle eglwys gynnar.

Kilmyshall – safle eglwys  gynnar, mynwent a ffynnon gysegredig mewn lloc hirgrwn.

Dyddiad: Hydref 2019 – Chwefror 2022

Mewn partneriaeth â: DigVentures/MetGeo i Gyngor Sir Penfro, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Wexford a Visit Wexford.

Allbynnau’r Prosiect:
Adroddiad Geoffisegol
Tudalen Brosiect ar wefan DigVentures
Blogiau
Trydariadau
Cymryd rhan mewn Digwyddiadau Geoffisegol
Gweithdai ar sut i wneud Geoffiseg

Dysgwch fwy:
www.archaeology.ie

Categories
Archeoleg

Darganfod Mynachlog Aeddan Sant – Ferns

Prosiect Archeoleg

Darganfod Mynachlog Aeddan Sant - Ferns

Fis Mehefin 2021 bydd IAFS (Ysgol Faes Archeoleg Iwerddon) yn lansio eu cloddiad archeolegol nesaf ar safle Mynachlog Aeddan Sant, Fearna, Swydd Wexford. Nod y prosiect, a sefydlwyd fel partneriaeth rhwng IAFS, Cyngor Swydd Wexford a’r gymuned leol, yw asesu un o’r safleoedd Canoloesol Cynnar mwyaf arwyddocaol yn hanesyddol yn ne-ddwyrain Iwerddonl, sydd heb ei asesu hyd yma. Mae prosiect Mynachlog Aeddan Sant yn canolbwyntio ar gloddiad ymchwil sylweddol y fynachlog o’r 7fed ganrif a’r Abaty Awstinaidd o’r 12fed ganrif, gan obeithio creu ‘atyniad treftadaeth allweddol’ i dref Ferns, ac o ganlyniad rhoi gwerth economaidd ac amwynder ychwanegol i’r gymuned leol.

Safle Hanesyddol o Bwys

Mae’r safle’n gasgliad o nifer o adeiladau, o sawl cyfnod, a sefydlwyd yn wreiddiol gan Aeddan Sant ar droad y 7fed ganrif, sydd hefyd yn cynnwys croesau Canoloesol Cynnar a cherrig croes, Abaty Awstinaidd o’r ddeuddegfed ganrif (a sefydlwyd gan Frenin Leinster, Diarmuid McMurrough), ac eglwys gadeiriol ganoloesol o’r drydedd ganrif ar ddeg (Eglwys Gadeiriol Aeddan Sant) o fewn y safle ehangach. Fodd bynnag, er gwaethaf pwysigrwydd hanesyddol y safle, a’r gwaith archeolegol a gynhaliwyd yno’n ddiweddar, nid yw’r safle’n atyniad treftadaeth amlwg; mae ein gwaith felly yn gam allweddol tuag at sefydlu pwysigrwydd haeddiannol y mynachlogydd o fewn hanesion canoloesol Swydd Wexford y cyfnod Canoloesol Cynnar a’r cyfnod Canoloesol.

Mae lansiad swyddogol yr elfen gloddio yn ystod haf 2021. Fodd bynnag, gwnaed datblygiadau sylweddol yn 2019 o ran arolygon ar yr arwyneb (sganio Lidar 3D ar y safle a Chastell Ferns), asesiadau geoffisegol (ar safle posibl Eglwys Clone) a chloddiad cymunedol fis Rhagfyr 2019 (sydd bellach yn cael ei gwblhau ar gyfer ei gyhoeddi). Rhagwelwyd cynnal Cam 1 y prosiect am dri thymor cloddio, o 2020-2022, ond mae pandemig Covid-19 wedi atal hyn. Ariannwyd cam cyntaf y prosiect yn rhannol gan y fenter Cysylltiadau Hynafol, prosiect celfyddydol a threftadaeth trawsffiniol newydd sy’n cysylltu Gogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford; y gobaith yw cynnal y prosiect am nifer o flynyddoedd i ddod.

Dyddiad: 2021 – 2022

Ariannwyd gan: Cysylltiadau Hynafol, Cyngor Swydd Wexford ac IAFS (Ysgol Faes Archeoleg Iwerddon)

Am fwy o wybodaeth ewch i:
www.iafs.ie/ferns
www.iafs.ie/clone
www.iafs.ie/blog-ferns

Mewn Partneriaeth gyda: Cysylltiadau Hynafol, Cyngor Swydd Wexford ac IAFS (Ysgol Faes Archeoleg Iwerddon)

Allgynnyrch Prosiect: Flog, Blog, Fideos Bach Dogfennol, Adroddiadau, Allgymorth Cyfryngau Cymdeithasol, Digwyddiadau Cymunedol, Cyhoeddiadau, Darlithoedd Cyhoeddus ac ati.

Categories
Archeoleg

Cloddfa Capel Sant Padrig

Prosiect Archeoleg

Cloddfa Capel Sant Padrig

Mae Capel Sant Padrig mewn twmpath tywodlyd, glaswelltog rhwng Llwybr Arfordir Sir Benfro a thraeth sy’n union i’r gogledd o faes parcio ym Morth Mawr, Tyddewi. Yn rhyfeddol o ychydig a wyddir am y capel cyn y cloddio diweddar.

Ym mis Ionawr 2014 cafodd y safle ei ddifrodi pan darodd cyfres o stormydd arfordir gorllewinol Prydain. Cloddiodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Phrifysgol Sheffield, gyda chefnogaeth ariannol gan Cadw a sefydliadau eraill, y rhan o’r safle a ddifrodwyd waethaf dros gyfanswm o wyth wythnos yn 2014, 2015 a 2016. Dengys y cloddiadau bod mynwent wedi bod yno ers diwedd yr wythfed ganrif OC a’i bod wedi dal i gael ei defnyddio tan yr unfed ganrif ar ddeg o leiaf. Codwyd capel o gerrig ar y safle yn y ddeuddegfed neu’r drydedd ganrif ar ddeg – a oedd yn adfail erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Mae tri thymor arall o gloddio yn digwydd fel rhan o’r prosiect Cysylltiadau Hynafol. Digwyddodd y cyntaf o’r rhain dros dair wythnos yn 2019, gyda dau dymor tair wythnos arall wedi’u cynllunio ar gyfer 2021. Yn ystod cyfnod cloddio 2019 cofnodwyd waliau sylfaen pen gorllewinol y capel cerrig, fe’u datgymalwyd yn ofalus ac fe storiwyd y cerrig yn ddiogel – bydd y sylfeini’n cael eu hail-adeiladu ar ôl cwblhau’r cloddio yn 2021. Bydd datgymalu’r sylfeini yn caniatáu cloddio’r beddau a’r dyddodion archeolegol o dan y capel yn ystod 2021. Y tu allan i’r capel, datgelodd cloddiad 2019 sawl claddedigaeth, a nifer ohonynt mewn beddau wedi’u leinio â cherrig, o’r enw beddau cist hir, gan gynnwys rhai â chroesau wedi’u crafu’n ysgafn ar y slabiau gorchudd yn nodi credoau Cristnogol y bobl a gladdwyd ar y safle.

Cyfranogiad y Gymuned

Mae aelodau o’r gymuned leol yn ogystal â gwirfoddolwyr o ymhellach i ffwrdd yn cymryd rhan yn y cloddio o dan oruchwyliaeth archeolegwyr proffesiynol. Y tu hwnt i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r cyfranogwyr ar y cloddio, mae allgymorth cymunedol yn elfen bwysig o’r prosiect ac mae un aelod o staff wedi ymrwymo i gynnal teithiau tywys o gwmpas y gwaith cloddio i ymwelwyr. Rhagwelir y bydd 6000 o ymwelwyr yn cael eu tywys o amgylch y safle yn ystod pob tymor cloddio o dair wythnos.

I ddysgu mwy am ein cloddiadau ewch i:
www.youtube.com

Mae Ymddiriedolaeth Archeoleg Dyfed yn croesawu gwirfoddolwyr ar gyfer cloddiadau Capel St Padrig yn 2021. Yn sgil y niferoedd uchel sy’n awyddus i wirfoddoli ar safleoedd cloddio, bydd manylion ar sut i ddysgu mwy am y cyfle hwn yn cael eu hysbysebu pan fydd y dyddiadau wedi’u cadarnhau ar gyfer y cloddio.

Dyddiad: Gorffennaf 2019 – Mawrth 2022

Ariannwyd gan: Ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gronfa cydweithredol Iwerddon a Cadw

Mewn Partneriaeth gyda:
Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, Prifysgol Sheffield, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Allbynnau’r Prosiect:
Adroddiadau prosiect interim a therfynol. (Cliciwch i lawrlwytho)

‘Dyddiaduron cloddio’ o bob un o’r cyfnodau cloddio blynyddol
Darperir teithiau tywys yn ystod pob cyfnod cloddio
Sgyrsiau â grwpiau a chymdeithasau lleol a chenedlaethol
Eitemau byr ar newyddion a rhaglenni teledu

Dysgwch fwy ar:www.dyfedarchaeology.org.uk