Comisiynwyd yr artist Bedwyr Williams i greu gwaith celf cyhoeddus parhaol ar gyfer Tyddewi a Ferns fel gwaddol i’r raglen Cysylltiadau Hynafol.
Wedi’i ysbrydoli gan stori Sant Aidan, Dewi Sant a’r gwenyn, mae Williams wedi creu cyfres o gychod gwenyn anferth, tri ar dir Cadeirlan Tyddewi a tri yn Ferns. Mae’r strwythurau llawn atgofion hyn wedi’u modelu’n fras ar y math o gychod gwenyn gwellt traddodiadol y gallai Aeddan Sant fod wedi’u defnyddio i ofalu am wenyn Dewi Sant.
Er eu bod yn llawer mwy o ran maint ac yn symlach eu ffurf, mae’r cerfluniau cychod gwenyn hyn yn gartref i wenyn go iawn mewn cychod gwenyn arferol, yn gerfluniau byw, gweithredol ar gyfer y ddau safle. Mae gwenynwyr yn y ddwy gymuned wedi bod yn brysur gyda’r gwaith o gynllunio’r cychod gwenyn ac yn gofalu am y gwenyn. Ymhen amser, bydd Tyddewi a Ferns yn cynhyrchu eu mêl eu hunain, a fydd yn cael ei gasglu a’i roi mewn jariau i’w werthu ar y ddau safle a’i rannu ar draws Môr Iwerddon rhwng y cymunedau cyfagos.
Yn ôl yr hanes, pan adewodd Aeddan Sant Dewi fe’i dilynwyd deirgwaith i’r llong gan wenyn Dewi wrth iddo geisio dychwelyd i Iwerddon. Bob tro dychwelodd Aeddan Sant y gwenyn i’r fynachlog ond y trydydd tro, wrth weld caredigrwydd Aeddan Sant, cytunodd Dewi Sant i’r gwenyn fynd gydag ef i Iwerddon. Teimla Williams fod y stori hon, boed yn wir neu beidio, yn fotiff braf ar gyfer y cysylltiad rhwng y ddau le.
Trwy ddwyn y ‘stori’ hon i gof gyda cherflun, sydd hefyd â defnydd ymarferol, mae’n bosibl gwneud i’r cysylltiadau hynafol hyn deimlo’n ddiriaethol a pherthnasol.