Prosiect Cymunedol
Horatio Clare yn creu taith sain newydd ar gyfer ardal St Non's

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i gyfrannu at brosiect newydd cyffrous, gyda’r nod o ddathlu hanes, tirwedd a phobl ardal eiconig Santes Non, Sir Benfro trwy gyfrwng sain.
Yn eistedd uwchben y clogwyni lai na milltir y tu allan i Dyddewi, gyda golygfeydd ar draws Bae San Ffraid a thuag at ynysoedd Sgomer a Gwales, Capel a Ffynnon Sanctaidd Santes Non yw’r man, yn ôl y traddodiad, y ganed Dewi i’w fam, Non. Dylanwadodd y Santes Non a Dewi Sant, Nawddsant Cymru, ar ledaeniad Cristnogaeth ar draws y byd Celtaidd yn y 6ed ganrif, gan gynnwys yng Nghymru, Iwerddon, Cernyw a Llydaw.
Y lleoliad ysblennydd, hanesyddol a gwyllt hwn fydd man cychwyn yr awduron/darlledwyr gwobredig Laura Barton a Horatio Clare, a gomisiynwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i greu podlediad taith gerdded sain ar hanes, pobl a thirwedd yr ardal. Bydd Horatio a Laura’n gweithio ochr yn ochr â’r cynhyrchydd ymgynghorol Graham Da Gama Howells, sy’n byw yn sir Benfro a’r peiriannydd Sain gyda’r BBC, Andy Fells.
Bydd taith gerdded Santes Non yn brofiad clywedol gyda lleisiau a cherddoriaeth y lle a’r gymuned arbennig hon. Bydd gwrandawyr yn dysgu am ffynhonnau, seintiau, capeli, pererinion, hanes naturiol, iaith, archeoleg, ffermio a defnydd tir, moderniaeth, cadwraeth ac arwyddocâd ehangach y lle hwn i hunaniaeth Gymraeg a diwylliant Ewropeaidd. Bydd y darn gorffenedig ar gael fel podlediad i’w lawrlwytho o unrhyw le yn y byd, gyda’r nod o ddod â’r lle, ei hanes a’i bobl i gynulleidfa ryngwladol.
Yn galw am gyfranwyr a chyfle i ddysgu sgiliau newydd!
Gwahoddir awduron, artistiaid, cerddorion, archeolegwyr, amgylcheddwyr, syrffwyr, storïwyr, cerddwyr, dringwyr, cychwyr a physgotwyr lleol i adrodd eu straeon. Mae’r tîm cynhyrchu hefyd yn cynnig cyfleoedd i drigolion ifanc yr ardal gael hyfforddiant, datblygiad a phrofiad gwaith mewn darlledu, recordio sain ac ymchwil. Cysylltwch â Horatio Clare ar horatioclare@hotmail.com
Mae Horatio Clare wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru ddwywaith, ac mae ei waith yn cynnwys Running for the Hills (Gwobr Somerset Maugham), A Single Swallow, Down to the Sea in Ships (Llyfr Taith y Flwyddyn Stanford Dolman), Aubrey and the Terrible Yoot (Gwobr Branford Boase), The Light in the Dark, Orison for a Curlew a Something of his Art: Walking to Lubeck with J S Bach. Ei lyfr diweddaraf yw Heavy Light: a story of madness, mania and healing. Mae Horatio’n cyflwyno cyfres flynyddol enwog Sound Walks ar Radio 3, sydd wedi mynd â gwrandawyr ar hyd Clawdd Offa, ar draws yr Almaen yn ôl troed JS Bach, i’r Goedwig Ddu ar gyfer Winter Wanderer, ar hyd Llwybr Cylch yr Arctig yr Ynys Las ac yn fwyaf diweddar i arfordir dwyreiniol Lloegr ar gyfer taith sain Sunrise Sound Walk.

Mae Laura Barton yn ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddiadau gan gynnwys The Guardian, The Observer, a The Independent. Mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar gerddoriaeth, rhywedd a thirwedd. Mae hi’n cyfrannu’n rheolaidd at BBC Radio 4 ac mae wedi gwneud rhaglenni dogfen ar bynciau sy’n amrywio o tomboys i hyder, i gerddoriaeth ac afonydd. Bu tair cyfres o Notes From a Musical Island, yn archwilio’r berthynas rhwng cerddoriaeth a thirwedd Prydain.
