Llên Gwerin
Môr-forynion Ahoi!
Mae llên gwerin mor hudolus O amgylch arfordir Cymru ac yn wir, Ynysoedd Prydain, mae straeon, themâu a chreaduriaid rhyfeddol yn ymddangos dro ar ôl tro. Mae’n creu ymdeimlad o orffennol yn llawn coblynnod a gwrachod, tylwyth teg a seirenau. Wrth gwrs mae rhai o’r rhain yn ymddangos mewn straeon gwledydd eraill hefyd, gyda gogwydd diwylliannol ychydig yn wahanol wrth gwrs. Rydw i’n storïwr, felly dydw i ddim am fentro i’r ddadl ynglŷn ag a yw’r creaduriaid hyn yn ‘wir’ neu beidio. I mi, maen nhw’n fyw yn ein dychymyg storïol, yn ein tirwedd ac yn y dyfroedd bas a’r dyfnderoedd o gwmpas ein harfordir.
Stori Wych i'w Hadrodd
Mae arfordir gogledd Sir Benfro rhwng Tyddewi ac Abergwaun yn hafan i fôr-forynion! Mae’n ymddangos bod gan bob yn ail gildraeth chwedl am môr-forwyn neu am weld fôr-forwyn yn gysylltiedig â hi. Yn ol pob sôn, soniodd y capten Daniel Huws, iddo weld tref fôr-forynion o dan y dŵr ger Trefin pan yn cysgodi yno ym 1858. Ychydig yn nes at Dyddewi mae Porth y Rhaw, lle soniodd chwarelwyr o Benbiri’n gynharach, yn 1780, eu bod hwythau hefyd wedi cwrdd â Môr-forwyn. Dyma’u stori ryfeddol …..
Ar ddiwrnodau braf o haf roedd yn arferiad ganddynt gerdded i lawr at y môr i fwyta’u cinio. Roedd hi’n ddiwrnod arbennig o hyfryd, heb yr un cwmwl yn yr awyr nac awel dros wyneb glas y môr a dim ond tonnau bychain yn torri ar y traeth. Wrth iddynt sgwrsio a bwyta’u cinio, sylwodd un o’r chwarelwyr ar wenhadwy- môr-forwyn yn eistedd ar graig yng nghysgod y clogwyni.
Yn ôl y chwarelwyr, roedd hi wedi llwyr ymgolli yn y gwaith o gribo’i gwallt hir, euraidd. Sylwodd y dynion nad oedd fawr ddim gwahaniaeth rhwng rhan uchaf ei chorff â ‘merched eraill Cymru’, ond bod ei hanner isaf yn amlwg yn gorff pysgodyn. Mentrodd rhai o’r chwarelwyr dewraf yn nes – yn ddigon agos i gyfnewid ambell air â hi. Ceisio’n ofer a wnaethant i gynnal sgwrs â hi, ac er ei bod yn amlwg ei bod yn deall Cymraeg, y cyfan a ddywedai wrthynt oedd “medi yn Sir Benfro a chwynnu yn Sir Gâr”. Yna fe lithrodd oddi ar ei chraig a diflannu i donnau Bae Aberteifi, gan adael y chwarelwyr wedi drysu’n llwyr o ran beth yr oedd hi’n ei olygu … ond gyda stori wych i’w hadrodd!

Cofiwch chwilio am Fôr-forynion!
Gellir ymweld â Phorth y Rhaw ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru. Mae yna hefyd daith gylchol y gallwch chi ei gwneud gan ddilyn llwybrau troed o bentref bach Yspytty, gan basio safle hen Chwarel Peaberry sydd bellach yn segur – man gwaith chwarelwyr ein stori – i ymuno â Llwybr Arfordir Sir Benfro. Trwy ddilyn y daith hon ar hyd yr arfordir i gyfeiriad y gogledd ddwyrain, gallwch ddilyn ôl troed y chwarelwyr gan fwynhau tamaid o ginio a chwilio am y fôr-forwyn ym Mhorth y Rhaw!
Ar ôl cinio, ewch ymlaen ar hyd y llwybr tuag at Ynys Gwair a chaer Castell Coch. Mae’r heneb hon yn cynnwys olion lloc amddiffynedig, sydd yn ôl pob tebyg yn dyddio nôl i gyfnod yr Oes Haearn (tua 800 CC – OC 43). Mae ei leoliad ar bentir arfordirol cul uwchben y môr, yn creu rhan o’r gylched amddiffynnol. Mae adeiladu’r ddwy linell o ragfuriau a osodwyd ar draws agoriad y pentir i’r de yn ei rannu o’r tir mawr. Mae’r pen gogleddol hwn yn arwain yn serth i lawr i’r môr. Gorweddai’r fynedfa wreiddiol ym mhen gorllewinol yr amddiffynfeydd lle roedd gan y clawdd mewnol dro bach am i mewn; mae hwn wedi’i golli o ganlyniad i erydiad arfordirol.
Ar ôl bwrw golwg ar y gaer, ewch ymlaen ar hyd llwybr yr arfordir am ryw chwarter cilomedr cyn troi tua’r tir ar hyd llwybr a ganiateir tuag at fferm Tremynydd Fawr lle byddwch yn ymuno â llwybr troed cyhoeddus tuag at bentrefan Waun Beddau a’r lôn a fydd yn eich arwain yn ôl i Yspytty lle ddechreuodd eich taith. Mae’n daith gerdded o ryw 6.5km i gyd.
Mwynhewch … a chofiwch roi gwybod i ni os fyddwch chi’n cwrdd ag unrhyw fôr-forynion!
