Categories
Cyfle Newyddion

Call Out – Holy Wells- music, literature and arts commissions

Cyfle

Yn galw artistiaid - Ffynhonnau Sanctaidd Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro

Mae Cysylltiadau Hynafol yn gwahodd Mynegiannau o Ddiddordeb gan artistiaid, cerddorion a phobl greadigol ar gyfer:

  1. Comisiynau cerddoriaeth a sain (cyfanswm y gyllideb sydd ar gael €15,000)
  2. Comisiynau llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol (cyfanswm y gyllideb sydd ar gael €15,000)

Bydd pob comisiwn yn archwilio thema Ffynhonnau Sanctaidd yng Ngogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford. Bydd y cyllidebau’n cael eu rhannu’n gyfartal rhwng Sir Benfro a Wexford. Mae’n debygol y bydd rhwng 4-6 comisiwn yn cael eu dyfarnu, o werthoedd amrywiol rhwng €2000 a €10,000, yn dibynnu ar natur y prosiect ac i ba raddau y mae’n cynnwys pobl greadigol trawsffiniol Gwahoddir cynigion ar gyfer prosiectau ar raddfa fach yn ogystal â chynigion ar raddfa fwy, mwy uchelgeisiol.

Hoffai tîm Cysylltiadau Hynafol glywed am unrhyw brosiectau rydych chi’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd, neu eisiau eu datblygu sy’n ymwneud â thema Ffynhonnau Sanctaidd trwy gyfrwng sain a/neu gerddoriaeth. NEU lenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol. Nid oes angen cynigion manwl ar hyn o bryd, dim ond amlinelliad o’r weledigaeth ar gyfer prosiect a chyllideb fras. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni ystyried pwy sydd â diddordeb, o ble maen nhw’n dod, beth maen nhw’n ei wneud, a sut y gallen nhw weithio’n greadigol gyda, neu ategu, prosiectau tebyg neu gysylltiedig dros y ffin. Cymaint â phosibl rydym eisiau annog cydweithredu trawsffiniol rhwng artistiaid sy’n gweithio gyda dulliau a/neu gyfryngau tebyg. O ganfyddiadau’r alwad agored, gwahoddir nifer fechan o ymgeiswyr i wireddu eu syniad gyda’r gyllideb a ddyrannwyd iddynt.

Mae dau friff, un ar gyfer cerddoriaeth a sain a’r llall ar gyfer llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol – gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho’r briff a’r ffurflen gais gywir os gwelwch yn dda.

Lawrlwytho’r Briff Cerddoriaeth a Sain

Lawrlwytho’r ffurflen gais Cerddoriaeth a Sain

Lawrlwytho’r briff Llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol

Lawrlwytho’r ffurflen gais Llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol

Ymholiadau: e-bostiwch ruth.jones@pembrokeshire.gov.uk

Dyddiad cau: Dydd Mercher 20fed Hydref 5 pm 2021

Allbynnau’r Prosiect: gweithiau celf – celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, cerddoriaeth a sain

Categories
Newyddion

Y murlun newydd yn Theatr Gwaun wedi’i gwblhau!

Newyddion

Y murlun newydd yn Theatr Gwaun wedi'i gwblhau!

Mae Cysylltiadau Hynafol wrth eu bodd gyda’r murlun newydd yn Theatr Gwaun, Abergwaun! Yn dilyn proses gystadleuol, rhoddwyd y contract i Accent London, dan arweiniad Grant Radford, sy’n wreiddiol o Bort Talbot ond sydd bellach yn byw yn Llundain. Dros yr haf, bu ymgynghoriadau cymunedol o gymorth i fireinio’r syniadau cychwynnol a dewiswyd y dyluniad terfynol. Gweithiodd Grant a Zoe yn galed iawn yr wythnos ddiwethaf i orffen y murlun, cyn lansiad ‘Ar Ymyl y Tir’, sef gŵyl newydd yn y theatr. Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu ynghlwm â’r gwaith. Rydym yn meddwl bod y murlun yn edrych yn gain ac yn chwaethus, ac yn cyfeirio’r un pryd at symud a mudo dros Fôr Iwerddon, sy’n themâu allweddol i Gysylltiadau Hynafol. Bydd taflen newydd sydd ar fin ymddangos yn darparu mwy o wybodaeth am hanesion lleol, llên gwerin a threftadaeth Abergwaun ac Wdig i ymwelwyr chwilfrydig.

Categories
Newyddion

Gorymdaith Aberjazz – haul, dreigiau a band pres

Prosiect Cymunedol

Gorymdaith Aberjazz - haul, dreigiau a band pres

Roedd Gorymdaith Aberjazz yn llwyddiant ysgubol ddydd Sul 29 Awst! Cynhaliwyd yr Orymdaith yng nghanol rhaglen ardderchog o jazz cyfoes yn Theatr Gwaun, Fwrn a lleoliadau eraill yn y dref. Roedd yr haul yn disgleirio yn Abergwaun wrth i Fand Pres Llarregug chwarae eu cymysgedd eclectig o jazz arddull New Orleans wedi’i ysbrydoli gan hip hop, gan ddilyn pyped draig Gymreig enfawr a grëwyd gan Invisible Octopus Yn gynharach yn y dydd, cynhaliwyd gweithdai lle gallai pobl ifanc wneud offerynnau cerdd allan o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Dechreuodd y ddraig a’r band o’r cylch cerrig ar Marine Walk, gan wneud eu ffordd i ganol y dref, i fyny’r Filltir Aur a rownd i gefn Neuadd y Dref, lle buont yn chwarae ychydig mwy ganeuon. Roedd y strydoedd yn llawn o bobl leol ac ymwelwyr ac roedd yr awyrgylch bwiog yn heintus.

Dyddiad: Awst 2021

Allbynnau’r Prosiect:Gorymdaith Aberjazz

Categories
Newyddion

Capel Sant Padrig – modelau 3D yn datgelu allor o fewn lloc cerrig

Prosiect Archeoleg

Capel Sant Padrig - modelau 3D yn datgelu allor o fewn lloc cerrig

Achosodd y gwaith cloddio yng Nghapel St Patricks, a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf, gyffro a diddordeb enfawr ymhlith bobl leol sy’n byw yn ardal Gorllewin Cymru, yn ogystal ag ymwelwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt.

Datgelodd y cloddiad dros gant o sgerbydau gan gynnwys dynion, menywod a babanod. Bydd dadansoddiad o’r esgyrn, sy’n digwydd ym Mhrifysgol Sheffield, yn datgelu mwy am bwy oedd y bobl hyn ac o ble y daethant.

Mae’r tîm yn Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed wedi creu dau fodel 3D, un yn dangos yr hyn sy’n ymddangos i fod yn allor a’r llall yn dangos y lloc carreg crwn gyda’r allor yn ei chanol. Mae rhagor o ymchwiliadau yn parhau er mwyn deall y nodweddion hyn yn well a sut maen nhw’n ymwneud â’i gilydd.

Bydd y dolenni hyn yn mynd â chi i’r modelau 3D:

Lloc Carreg

Allor

Disgwylir y bydd adroddiad llawn o’r cloddiad wedi’i gwblhau ddiwedd 2021.

(delwedd: argraff arlunydd o sut y byddai Capel Sant Padrig wedi edrych pan fyddai’n cael ei ddefnyddio)

Dyddiad: Awst 2021

Allbynnau’r Prosiect: Adroddiad erbyn diwedd 2021

Categories
Cyfle Newyddion

Cysylltiadau Hynafol yn chwilio am gontractwr i gyflenwi Cynnyrch Pererindod

Prosiect Cymunedol

Cysylltiadau Hynafol yn chwilio am gwmni i gyflenwi Cynnyrch Pererindod

Mae Cysylltiadau Hynafol yn dymuno contractio endid dielw neu gwmni masnachol i oruchwylio, datblygu a hyrwyddo llwybr pererinion newydd arfaethedig rhwng Ferns yn Wexford, Iwerddon a Thyddewi yn Sir Benfro, Cymru. Bydd ffocws cryf ar ddatblygu’r cynnyrch pererindod gan ddefnyddio’r seilwaith presennol (llwybr arfordir Sir Benfro ac atyniadau cysylltiedig yn Wexford) yn ogystal ag ar gydlynu a marchnata cynhyrchion twristiaeth cysylltiedig. Mae’r gyllideb a ddyrennir ar gyfer y contract hwn ar gyfer cyflawni allbynnau tymor byr penodol a nodwyd yn ogystal â gweithredu fel arian sbarduno ar gyfer y weledigaeth mwy hirdymor ar gyfer y fenter. Bydd angen i’r contractwr llwyddiannus, p’un ai ei bod yn endid nid er elw neu’n fasnachol, ddangos brwdfrydedd am weledigaeth hirdymor y prosiect y tu hwnt i gwmpas cyflawni’r contract a dangos pa fesurau y byddent yn eu rhoi ar waith yn ystod cyfnod y contract i sicrhau cynaliadwyedd ac annibyniaeth ariannol unwaith y bydd y prosiect Cysylltiadau Hynafol yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2023.

Bydd y contractwr llwyddiannus yn gallu dangos gwybodaeth gefndir drylwyr a dealltwriaeth o gyd-destun hanesyddol a chyfoes pererindod yng Nghymru, y DU, Iwerddon ac Ewrop. Bydd ganddynt brofiad sylweddol o weithio o fewn cyd-destun pererindod NEU brofiad trosglwyddadwy mewn diwydiannau twristiaeth cysylltiedig (ee cerdded llwybrau, twristiaeth cyrchfan).

Rhaid derbyn pob ymholiad a chais trwy Etender Bravo Solutions

https://etenderwales.bravosolution.co.uk/web/login.shtml

Bydd angen i ymgeiswyr gofrestru er mwyn gweld yr holl gyfleoedd tendro. Ar ôl mewngofnodi byddwch yn gallu gweld y briff llawb a manylion y tendr llawn trwy edrych yn yr adran Gwahoddiad i Dendro (ITT). Chwiliwch o fewn yr adran ‘ITT open to all suppliers’ a chwiliwch am ‘Development and Management of new cross-border pilgrimage route between Ferns and St Davids and associated tourism products’ neu nodwch y cod 87231

Dyddiad: Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau 15 Medi 2021

Allbynnau’r Prosiect: Cynhyrchion Pererindod a datblygu llwybr

Categories
Cyfle Cymuned Newyddion

Horatio Clare yn creu taith gerdded sain ar gyfer ardal Santes Non – galwad am gyfraniadau cyhoeddus

Prosiect Cymunedol

Horatio Clare yn creu taith sain newydd ar gyfer ardal St Non's

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i gyfrannu at brosiect newydd cyffrous, gyda’r nod o ddathlu hanes, tirwedd a phobl ardal eiconig Santes Non, Sir Benfro trwy gyfrwng sain.

Yn eistedd uwchben y clogwyni lai na milltir y tu allan i Dyddewi, gyda golygfeydd ar draws Bae San Ffraid a thuag at ynysoedd Sgomer a Gwales, Capel a Ffynnon Sanctaidd Santes Non yw’r man, yn ôl y traddodiad, y ganed Dewi i’w fam, Non. Dylanwadodd y Santes Non a Dewi Sant, Nawddsant Cymru, ar ledaeniad Cristnogaeth ar draws y byd Celtaidd yn y 6ed ganrif, gan gynnwys yng Nghymru, Iwerddon, Cernyw a Llydaw.

Y lleoliad ysblennydd, hanesyddol a gwyllt hwn fydd man cychwyn yr awduron/darlledwyr gwobredig Laura Barton a Horatio Clare, a gomisiynwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i greu podlediad taith gerdded sain ar hanes, pobl a thirwedd yr ardal. Bydd Horatio a Laura’n gweithio ochr yn ochr â’r cynhyrchydd ymgynghorol Graham Da Gama Howells, sy’n byw yn sir Benfro a’r peiriannydd Sain gyda’r BBC, Andy Fells.

Bydd taith gerdded Santes Non yn brofiad clywedol gyda lleisiau a cherddoriaeth y lle a’r gymuned arbennig hon. Bydd gwrandawyr yn dysgu am ffynhonnau, seintiau, capeli, pererinion, hanes naturiol, iaith, archeoleg, ffermio a defnydd tir, moderniaeth, cadwraeth ac arwyddocâd ehangach y lle hwn i hunaniaeth Gymraeg a diwylliant Ewropeaidd. Bydd y darn gorffenedig ar gael fel podlediad i’w lawrlwytho o unrhyw le yn y byd, gyda’r nod o ddod â’r lle, ei hanes a’i bobl i gynulleidfa ryngwladol.

Yn galw am gyfranwyr a chyfle i ddysgu sgiliau newydd!

Gwahoddir awduron, artistiaid, cerddorion, archeolegwyr, amgylcheddwyr, syrffwyr, storïwyr, cerddwyr, dringwyr, cychwyr a physgotwyr lleol i adrodd eu straeon. Mae’r tîm cynhyrchu hefyd yn cynnig cyfleoedd i drigolion ifanc yr ardal gael hyfforddiant, datblygiad a phrofiad gwaith mewn darlledu, recordio sain ac ymchwil. Cysylltwch â Horatio Clare ar horatioclare@hotmail.com

Mae Horatio Clare wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru ddwywaith, ac mae ei waith yn cynnwys Running for the Hills (Gwobr Somerset Maugham), A Single Swallow, Down to the Sea in Ships (Llyfr Taith y Flwyddyn Stanford Dolman), Aubrey and the Terrible Yoot (Gwobr Branford Boase), The Light in the Dark, Orison for a Curlew a Something of his Art: Walking to Lubeck with J S Bach. Ei lyfr diweddaraf yw Heavy Light: a story of madness, mania and healing. Mae Horatio’n cyflwyno cyfres flynyddol enwog Sound Walks ar Radio 3, sydd wedi mynd â gwrandawyr ar hyd Clawdd Offa, ar draws yr Almaen yn ôl troed JS Bach, i’r Goedwig Ddu ar gyfer Winter Wanderer, ar hyd Llwybr Cylch yr Arctig yr Ynys Las ac yn fwyaf diweddar i arfordir dwyreiniol Lloegr ar gyfer taith sain Sunrise Sound Walk.

Mae Laura Barton yn ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddiadau gan gynnwys The Guardian, The Observer, a The Independent. Mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar gerddoriaeth, rhywedd a thirwedd. Mae hi’n cyfrannu’n rheolaidd at BBC Radio 4 ac mae wedi gwneud rhaglenni dogfen ar bynciau sy’n amrywio o tomboys i hyder, i gerddoriaeth ac afonydd. Bu tair cyfres o Notes From a Musical Island, yn archwilio’r berthynas rhwng cerddoriaeth a thirwedd Prydain.

Categories
Cymuned Newyddion

Ar Ymyl y Tir – gŵyl newydd i Sir Benfro

Prosiect Cymunedol

Ar Ymyl y Tir - gŵyl newydd i Sir Benfro

Gyda chymorth Cysylltiadau Hynafol bydd yr ŵyl newydd bwysig hon yn cael ei lansio fis Medi 2021 gan ddefnyddio lleoliadau yn ac o amgylch Abergwaun ac Wdig gan ei wneud yn brofiad atmosfferig a chofiadwy.

Bydd yr ŵyl dridiau yn rhoi cyfleoedd newydd i bawb ar draws cymunedau Gogledd Sir Benfro ddathlu’r straeon sydd wedi’u hymgorffori yn eu hanes, y dirwedd, a’u profiad personol. Bydd perfformwyr proffesiynol ac amatur yn y cymunedau yn cymryd rhan, gyda’r awdur a’r darlledwr Jon Gower a’r cyfansoddwr David Pepper yn darparu cyfeiriad a chynnwys i’r artistiaid.

Bydd Theatr Gwaun, theatr gymunedol Abergwaun yn cynnal yr ŵyl, gan gydlynu digwyddiadau mewn sawl lleoliad gan gynnwys rhai sy’n gallu cynnig lletygarwch sy’n cynnwys cynhyrchwyr bwyd a diod arbennig Sir Benfro.

Bydd rhaglen yr ŵyl yn arddangos deunydd newydd gwreiddiol ar gyfer ei gyflwyno ar lafar, cerddoriaeth, a ffilm ac yn cynnwys ymddangosiadau gwadd gan artistiaid creadigol sefydledig sydd wedi’u hysbrydoli gan y rhan unigryw hon o Orllewin Cymru.

Dyddiad: Mawrth 2020 – Mawrth 2021

Allbynnau’r Prosiect:  Digwyddiad cymunedol a gwisgoedd etifeddiaeth

Categories
Newyddion

Bedwyr Williams wedi’i ddewis ar gyfer prosiect celf gyhoeddus trawsffiniol

Yn dilyn yr ymgynghoriad cymunedol, mae’n bleser gan Gysylltiadau Hynafol gyhoeddi bod yr artist Bedwyr Williams mewn cydweithrediad â’r Contemporary Art Society wedi’i dewis i greu’r darn newydd o gelf gyhoeddus o’r enw ‘Gwnewch y Pethau Bychain’, fydd yn cysylltu Tyddewi â Ferns, Wexford.

Mae Bedwyr, sy’n byw yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru, wedi cynnig creu cyfres o gychod gwenyn anferth, tri ar dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi a thri yn Ferns (lleoliad i’w benderfynu). Bydd y strwythurau hardd hyn yn cael eu modelu ar gychod gwenyn traddodiadol, ac er y byddant yn llawer mwy na chychod gwenyn arferol, byddant yn gychod gwenyn go iawn ac yn gartref i heidiau o wenyn. Mae’r artist wedi cynnig y bydd y cymunedau ym mhob lleoliad yn gofalu am y gwenyn ac yn cymharu blas unigryw’r mêl a gynhyrchir gyda’u cymdogion ar draws Môr Iwerddon trwy ymweliadau cyfnewid.

Penderfynwyd dewis Bedwyr o’r rhestr fer o bum artist, gan banel trawsffiniol o arbenigwyr, a gytunodd yn unfrydol bod cynnig Bedwyr yn pontio traddodiadau hynafol â phryderon modern am yr amgylchedd a bioamrywiaeth yn ogystal â thynnu sylw at stori’r cyfeillgarwch rhwng Dewi Sant ac Aeddan Sant. Yn ôl y chwedl, cafodd Aeddan Sant ei fentora gan Dewi Sant, a roddodd wenyn iddo’n rhodd cyn i Aeddan ddychwelyd i Iwerddon i sefydlu’r fynachlog yn Ferns.

Cynnig Bedwyr oedd y ffefryn cyffredinol gyda’r cymunedau hefyd pan gafodd y sgorau eu cyfri, gyda phleidleisiwr o Sir Benfro’n dweud “Rwy’n hoffi’r ffaith bod hwn yn gerflun “byw”, ac y bydd yn gartref i heidiau o wenyn go iawn. Bydd hyn yn darparu pryfed peillio mawr eu hangen yn y ddwy gymuned ac yn parhau â’r traddodiad hynafol o gadw gwenyn ”. A phleidleisiwr o Wexford yn dweud “Mae’r prosiect hwn mor syml, rwy’n hoff iawn o’r syniad o’r gwenyn yn casglu’r paill i ddod ag ef yn ôl i’r cwch gwenyn a chael ei droi’n fêl hyfryd. Byddai’n syniad gwych a byddai’n helpu i warchod a diogelu ein hamgylchedd ”.

Meddai Bedwyr:

“Mae gen i ddiddordeb mewn gwrthrychau sy’n gwahodd cymunedau i ddod yn gyfranogwyr gweithredol er mwyn gwneud y gwaith celf yn gyflawn. Rydw i am i bobl gymryd rhan lawn yn y gwaith celf, gan wneud y pethau bychain er mwyn dod â’r gwaith celf yn fyw, ac anghofio’u hunain a’u gofidiau beunyddiol am ychydig oriau. Geiriau olaf Dewi Sant oedd “Gwnewch y pethau bychain. ” Mae’r ethos hwn wedi arwain datblygiad fy nghynnig sydd wedi’i seilio ar stori Dewi Sant a Aeddan Sant ac wedi’i drwytho yn hanes a hud a lledrith y ddau leoliad cyysylltiedig yma”.

Bydd Bedwyr nawr yn ymgysylltu â’r cymunedau yn y ddau ranbarth er mwyn ystyried yn fanwl sut i drosi’r cysyniad rhyfeddol hwn yn fenter ymarferol lwyddiannus.

Categories
Newyddion

Cloddiad yng Nghapel Sant Padrig, Porth Mawr yn datgelu gwrthrychau diddorol

Mae’r cloddiad archeolegol yng Nghapel Sant Padrig, Porth Mawr, Tyddewi bellach ar Ddiwrnod 24. Mae tîm Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a gwirfoddolwyr wedi gweithio’n galed iawn i gloddio’r safle datgelu straeon y bobl sydd wedi’u claddu yma. Pwy oedden nhw ac o ble roedden nhw’n dod?

Mae dros gant o sgerbydau wedi’u canfod, a llawer ohonyn nhw’n fabanod. Yn ogystal, canfyddwyd pin corn gyda rhwd aloi copr arno a rhan o freichled siâl yn ogystal â ffwrnais glai, a ddarganfuwyd wrth ochr wal y capel, ac a allai fod wedi’i ddefnyddio i doddi metel. Mae’r tîm hefyd wedi dod o hyd i fwrdd chwarae gemau posib gyda phatrwm sgwariau ar y gornel dde uchaf, a oedd wedi’i osod ar ben bedd cist.

Mae dyddio radiocarbon wedi dangos bod y fynwent yn cael ei defnyddio o’r 6ed ganrif hyd yr 11eg ganrif O.C. Mae dadansoddiad o’r sgerbydau ym Mhrifysgol Sheffield wedi datgelu poblogaeth gymysg o ddynion, menywod a phlant o bob oed. Mae’r beddau’n gorwedd i’r dwyrain/gorllewin gyda’r pen i’r gorllewin. Yn unol â’r traddodiad claddu Cristnogol, nid oedd unrhyw eiddo wedi’i gladdu gyda’r cyrff. Roedd rhai o’r sgerbydau mewn cistiau – beddau wedi’u leinio a’u capio â slabiau cerrig, traddodiad claddu a oedd yn gyffredin ledled gorllewin Prydain yn y cyfnod canoloesol cynnar. Nodwyd defod gladdu unigryw hefyd: claddedigaethau plant gyda cherrig mân cwarts gwyn wedi’u gosod ar ben y cistiau.

Mae’r cloddiad yn parhau tan 16eg o Orffennaf, mae croeso i ymwelwyr a chynhelir teithiau rhad ac am ddim bob dydd.

Categories
Newyddion

Y gymuned yn cyfrannu at ddyluniad murlun newydd ar gyfer Theatr Gwaun

Cychwynnodd prosiect murlun Theatr Gwaun yr wythnos hon gyda nifer o ddiwrnodau o ymgysylltu â’r gymuned yn y Theatr gyda’r artist dethol, Grant Radford o Accent London. Cymerodd tair ysgol ran yn y gweithdai, Ysgol Wdig, Ysgol Bro Gwaun ac Ysgol Glannau Gwaun, a chynhaliwyd nifer o sesiynau ymgynghori gyda gwirfoddolwyr ac aelodau’r cyhoedd.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Grant yn datblygu dyluniad drafft ar gyfer murlun atyniadol sy’n dathlu’r straeon a’r cysylltiadau hynafol rhwng Abergwaun a Wexford gan adlewyrchu hanfod hunaniaeth y dref a rhan Theatr Gwaun fel ei chanolfan ddiwylliannol. Caiff y murlun ei gwblhau ddiwedd yr haf neu ddechrau’r Hydref.