Mae Cysylltiadau Hynafol yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain i gynnal symposiwm pererindod 11/12 Mawrth 2023.
Archebwch eich lle trwy Eventbrite
Bydd y symposiwm rhad ac am ddim hwn yn dathlu pererindod ac yn gofyn tri chwestiwn hollbwysig: ‘Sut mae creu llwybr pererindod llwyddiannus?’, ‘Beth yw’r fantais i ni?’ ac ‘A oes gwahaniaeth rhwng twrist a phererin? Mae’r digwyddiad yn nodi lansiad Llwybr Pererinion newydd Wexford-Sir Benfro a fydd yn cysylltu Ferns yng Ngogledd Wexford â Thyddewi yn Sir Benfro ac mae’n rhan o brosiect Cysylltiadau Hynafol ehangach a ariennir gan yr UE sy’n cysylltu’r ddau ranbarth hyn drwy gelfyddydau, treftadaeth a thwristiaeth.
Mae’r rhaglen yn dechrau ddydd Sadwrn 11 Mawrth gyda’r prif anerchiad gan Satish Kumar, ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain. Ymgymerodd Kumar â phererindod heddwch o India i Moscow, Llundain, Paris, ac America yn 1962 ac ers hynny mae wedi cysegru ei fywyd i ymgyrchu dros adfywiad ecolegol, cyfiawnder cymdeithasol a boddhad ysbrydol. Bellach yn ei 80au, mae Kumar yn siaradwr, athro ac awdur ysbrydoledig. Dilynir hyn gan ddiwrnod llawn o weithgareddau, sy’n cyfuno sesiynau wedi’u cadeirio yn ogystal â fforymau trafod cynhwysol. Bydd cynrychiolydd o Croeso Cymru ac Andrew Smith a Ciara Byrne o Fáilte Ireland yn siarad am dwristiaeth ysbrydol yng Nghymru ac Iwerddon. Ymhlith y siaradwyr eraill mae Ruben Heijloo, Cyfarwyddwr Nordic Pilgrim, Y Tra Barchedig Dr Sarah Rowland-Jones, Deon Eglwys Gadeiriol Tyddewi a John G O’Dwyer, Cadeirydd Pilgrim Paths Ireland. Bydd cyfleoedd i archwilio arferion pererindod yn ogystal ag amser i sgwrsio a rhwydweithio gyda mynychwyr eraill. Mae’r ail ddiwrnod, ddydd Sul 12 Mawrth yn opsiwn ychwanegol, lle bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i gerdded rhywfaint o’r llwybr pererinion newydd yn Wexford neu gymryd rhan mewn gweithdy canu pererindod a myfyrio ar syniadau sy’n codi o’r diwrnod cynt.
Disgwylir y bydd y symposiwm yn apelio at ac yn denu ystod eang o bobl o wahanol gefndiroedd gan gynnwys busnesau lleol yn y diwydiannau lletygarwch, tywyswyr teithiau a llety, arbenigwyr twristiaeth ysbrydol a llunwyr polisi, academyddion ac ymchwilwyr, cynrychiolwyr llywodraeth leol ac aelodau o’r gymuned.
Mae sbectrwm eang o randdeiliaid a phartneriaid wedi bod yn rhan o lunio rhaglen y digwyddiad, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain sy’n arwain ar ddatblygu’r llwybr pererinion newydd ynghyd â Pilgrim Paths Ireland, Journeying a Guided Pilgrimage. Mae staff Eglwys Gadeiriol ac Esgobaeth Tyddewi, sy’n dathlu Blwyddyn Bererindod yn 2023, hefyd wedi bod yn rhanddeiliaid allweddol yn y broses. Mae nifer o arbenigwyr unigol hefyd wedi cyfrannu megis Bernadette Flanagan: Athro Cyswllt mewn Ysbrydolrwydd Prifysgol South East Technological (Wexford), Christopher Catling: Prif Weithredwr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chadeirydd Mannau Addoli Cymru. Jaeyeon Choe, Darlithydd mewn Twristiaeth a Digwyddiadau ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian.
Mae’r symposiwm yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys cinio dydd Sadwrn a swper dewisol ond nid yw’n cynnwys llety na theithio. Bydd archebu ar sail cyntaf i’r felin.
Rhaglen Lawn
Diwrnod 1 – 11 Mawrth 2023
8:30am | Cofrestru – (Edwards Suite – dull theatr) | |||
9:30 | Cadw tŷ a rheolau sylfaenol – Nessie Reid, hwylusydd symposiwm | |||
9:35 | Nodyn agoriadol / Croeso – (Edwards Suite) · Michael Cavanagh (Cyngor Sir Penfro) · a’r Cyng. Michael Whelan (Leas-Chathaoirleach Cyngor Swydd Wexford) | |||
9:45 | Prif Anerchiad (Sgwrs 30 munud / Holi ac Ateb 15 munud ) – (Edwards Suite) Enw: Satish Kumar Teitl: Pwysigrwydd Pererindod | |||
10.30 | Cwestiwn 1: Sut mae creu llwybr pererinion llwyddiannus? – arfer gorau o Iwerddon a Phrydain – Linden (40), Spencer (40), Seamus Rafter (100) | |||
A Pererindod yn Iwerddon – Linden
Llwybrau Pererinion yn Iwerddon – diwygiad yr 21ain ganrif – John G O’Dwyer, Pilgrim Paths of Ireland
Canfyddiadau o gyfweliadau ag Arweinwyr teithiau pererindod yn Iwerddon – Bernadette Flanagan Prifysgol South East Technological.
A new path for Celtic spirituality, Sean O Nuallain University of Ireland
Hwylusydd: Nessie Reid Cyflwyniad 10 munud ac yna sesiwn holi ac ateb 15 munud | B Pererindod a Thwristiaeth – Seamus Rafter Hyrwyddo Pererindod trwy Brofiadau Bwyd mewn Cymunedau Gwledig Daniel Olsen, Prifysgol Brigham Young, UDA Strategaethau ar gyfer denu ymwelwyr a phererinion i gymunedau ac eglwysi Anne Bailey, Prifysgol Rhydychen The Intimate Relationship between Pilgrimage and Tourism, John Eade, Roehampton and Toronto Hwylusydd: Jaeyeon Choe Cyflwyniadau 10 munud ac yna sesiwn holi ac ateb 15 munud | C Pererindod yng Nghymru – Spencer Blwyddyn o Bererindota, Parchg Ganon Sheridan Angharad James, Canon Bugeiliiol y Plwyf a Phererinion, Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Cyd-greu Cymunedol ym mhrosiect Llwybr Sant Thomas. Yr Athro Catherine Clarke, Prifysgol Llundain (cyfarwyddwr prosiect Llwybr Sant Thomas) Hwylusydd: Iain Tweedale Cyflwyniadau 15 munud ac yna sesiwn holi ac ateb 15 munud | ||
11.20 | Egwyl te/coffi – 30 munud – (Hilton Suite – dull caffi) | |||
11.50 | Sesiwn 1 awr wedi’i hwyluso (Model Caffi Byd?) – yn ateb y cwestiwn uchod (Hilton Suite – dull caffi) Cyflwyniad 5 munud · Sialens 1 · Sialens 2 · Sialens 3 · Grwpiau’n treulio 15 munud wrth bob bwrdd
20 munud o adborth wedi’i hwyluso | |||
13.05 | Cinio – 55 munud – cinio bys a bawd fydd hwn. Fel bod pobl yn cymysgu – (Hilton Suite – dull caffi 15 bwrdd o 10)) | |||
14.00 14:40 | Trafodaeth banel: Beth yw’r fantais i ni? Sut y gall asiantaethau twristiaeth cenedlaethol helpu. 40 munud – (Hilton Suite – dull caffi 15 bwrdd o 10)) Andrew Smith, Swyddog Datblygu Cynnyrch Fáilte Ireland. Ciara Byrne CP&I A Lucy Von Weber, Pennaeth Marchnata Croeso Cymru yn ymuno â ni’n rhithwir. Cadeirydd: Andrew Campbell Athro Ymarfer mewn Twristiaeth Coleg y Drindod Dewi Sant, Cadeirydd Bwrdd Cynghori Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar yr Economi a Chyn-Gadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru Cyflwyniad gan Andrew Campbell, 2 gyflwyniad 10 munud gyda thrafodaeth banel 15 munud i ddilyn | |||
Cwestiwn 2: Beth yw’r fantais i ni? Manteision llwybrau pererinion i gymunedau lleol, darparwyr llety a lletygarwch, awdurdodau lleol ac asiantaethau twristiaeth. Sut mae busnesau’n denu pererinion o ran amwynderau, cyfleusterau, awyrgylch, cynnyrch a marchnata. – Linden (40), Spencer (40), Seamus Rafter (100) | ||||
A Pecyn Cymorth Busnes – Linden Dawn Champion, Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain Cynghorion ar sut i addasu eich busnes er mwyn cwrdd ag anghenion pererinion o ran llety a lletygarwch, masnach a chynnyrch. Hwylusydd: Dawn Champion Sesiwn dull gweithdy | B Pererindod a Chymuned – Spencer Rolau Gwyliau ar gyfer Hyrwyddo Pererindod yr Alban, Martin Robertson, Prifysgol Edinburgh Napier, yr Alban Digwyddiadu Treftadaeth Grefyddol yn Iwerddon, Ruth Dowson, Prifysgol Leeds Beckett, Lloegr Hwylusydd: Kevin Griffin Cyflwyniadau 15 munud ac yna sesiwn holi ac ateb 15 munud | C Modelau ar gyfer Pererindod Dan Arweiniad – Seamus Rafter Iain Tweedale, Journeying Ruben Heijloo, Nordic Pilgrim Phil Brennan, Waterford Camino Tours Hwylusydd: Nessie Reid Cyflwyniadau 5 munud, 20 munud o drafodaeth wedi’i hwyluso a sesiwn holi ac ateb 10 munud | ||
15:30 | Cwestiwn 3: Bod yn Bererin! A oes gwahaniaeth rhwng twrist a phererin? Pa fanteision unigol sydd o fynd ar bererindod a sut a phryd mae profiadau trawsnewidiol yn digwydd ar deithiau? – Linden (40), Spencer (40), Seamus Rafter (100) | |||
A Pererindod a Thrawsnewid – Seamus Rafter Materoldeb, Ystyr ac Arfer: traethawd gweledol o Ffynnon Dewi Sant, Swydd Wexford, Samantha Morris, TU Dublin, Iwerddon Beth Mae Ysbrydolrwydd Modern yn Ei Geisio yn Iwerddon, Cymru a’u Cysylltiadau ‘Celtaidd’? Jonathan M. Wooding, Cymru Cymhellion ar gyfer pererindod,Eleanor O’Keefe. National Centre for Social Research Hwylusydd: Kevin Griffin Cyflwyniadau 10 munud ac yna sesiwn holi-ac-ateb 10 munud | B Pererinion Digidol – Linden Pererin Wyf / I am a Pilgrim –cyflwyniad am yr artist Rowan O’Neill a phrosiect Span Arts yn cysylltu pererinion yn Wexford, Sir Benfro ac ar draws y diaspora Celtaidd. Pererindod a Digidoleiddio Jaffer Idris, Prifysgol Sheffield Hallam, Lloegr Defnyddio Arloesedd Digidol ar gyfer Pererindod, Michael Di Giovine, West Chester University of Pennsylvania, UDA Hwylusydd: Nessie Reid Cyflwyniadau 10 munud ac yna sesiwn holi-ac-ateb 15 munud | C Sut i fod yn bererin – Lobi Taith gerdded-gweithdy arbrofol dan arweiniad cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain, Guy Hayward Cynnal defod yn y dirwedd, Nick Mayhew-Smith, Prifysgol Roehampton
Hwylusydd: Guy Hayward Cerdded i Eglwys Gadeiriol Enniscorthy 45 munud | ||
16.30 | ‘Fishbowl’ – antidôt i drafodaethau panel. – (Edwards Suite – dull ‘fishbowl’) Bydd hwn yn gyfle i bawb drafod y 3 phrif gwestiwn ac unrhyw rai eraill sy’n codi ar y diwrnod. Bydd Nessie yn arwain y gwaith hwyluso hwn ac yn cael ei bwydo gan gwestiynau a gasglwyd gan y rhai sy’n cymryd nodiadau o bob un o’r sesiynau. Bwrdd swper wedi’i osod, digon o olau, 3 4neu meicroffôn, gall pobl ddewis cymryd rhan yn y drafodaeth neu eistedd yn ôl a gwrando. Byddwn yn dewis/curadu 8-10 o bobl i eistedd o amgylch y bwrdd i gychwyn y drafodaeth. Mwy o wybodaeth yma: Hwylusydd: Nessie Reid | |||
17:30-19:00 | Amser rhydd | |||
19:00-20:30 | Swper (Hilton Suite) | |||
20:30-21:30 | Dangos Ffilm a Pherfformiad/Cyflwyniad Artistiaid y Camino Creadigol – ( Dangos y ffilm yn yr Hilton/ Edwards Suite) Y bardd Grahame Davies: rhannu cerddi o’r gyfres o 6 cân werin a ysgrifennwyd ar gyfer Cysylltiadau Hynafol Perfformiad gan Artistiaid y Camino Creadigol: Bonnie Boux, Kate Powell, Ailsa Richardson a Suzi MacGregor Film y Camino Creadigol: Will Philpin o ‘When it Rains’ Hwylusydd: Ruth Jones | |||
Diwrnod 2 – 12 March 2023
10:00 – 12:00 | Opsiwn 1 – Gweithdy Canu Pererin Wyf – Gweithdy Canu Pererin Wyf – Mae Pererin Wyf / Is Oilthreach Mé / I am a pilgrim yn brosiect celfyddydau cyfranogol, wedi’i ysbrydoli gan yr emyn o’r 18fed ganrif, sy’n ceisio cysylltu â’r diaspora Cymreig a Gwyddelig. Mae pobl o gwmpas y byd wedi cael gwahoddiad i ganu’r gân Pererin Wyf neu unrhyw gân sydd â’r pŵer i’ch galw’n ôl adref. Ymunwch â’r gantores, y perfformiwr a’r arweinydd côr ysbrydoledig o Sir Benfro, Molara Awen, a fydd yn arwain gweithdy yn dysgu ei threfniant cyfoes o’r emyn yng nghwmni arweinydd y prosiect Rowan O’Neill a’r cyd-hwyluswyr o Wexford Rachel Uí Fhaoláin a John Ó Faoláin. Bydd y cyfranogwyr yn cynnwys ymwelwyr cyfnewid o Gymru, aelodau o gantorion traddodiadol Gogledd Wexford. a chôr Ferns, Chord on Blues. Croeso i bawb. Recordiwch eich cân a’i hychwanegu at y map digidol a/neu ymwelwch â Chymru a chanwch y gân fel rhan o ddigwyddiad olaf Cysylltiadau Hynafol ym Mhalas yr Esgob, Tyddewi ar 29 Mai 2023.
| Opsiwn 2 – Cerdded rhan o Lwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro – Taith Gerdded Pererinion Bryn Oulart , Tulach a’tSolais a thŷ adrodd straeon Bygone Days House of Stories. Taith gerdded hawdd 4km Byddwn yn mynd ar daith fer 20 munud ar fws o Westy Riverside i ymuno â Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro ym Mryn Oulart, gan adael am 8.45. Byddwn yn cyrraedd Pen Llwybr Bryn Oulart ac yn dilyn llwybr y pererinion ar hyd y lôn laswelltog ar ben y bryn tuag at Tulach a’tSolais – bryn y goleunio – sydd â golygfeydd godidog tuag at ogledd Wexford ac i’r de i Fôr Iwerddon. Dyma safle Brwydr Oulart yng Ngwrthryfel 1798 ac mae’r gofeb yn coffáu gwerthoedd yr oes Oleuedig a’r trawsnewidiad wrth i ni gerdded drwy’r siambr sy’n atgoffa rhywun o feddrodau cyntedd Neolithig sy’n cyd-fynd â Chyhydnosau’r Gwanwyn a’r Hydref. Ar ôl sgwrs fer gan y bobl sydd ynghlwm â chreu’r gofeb byddwn yn cerdded i lawr ochr arall Bryn Oulart trwy goetir a lonydd porthmyn hynafol i Dŷ Adrodd Straeon Bygone Days. Mae’r bwthyn to gwellt hardd hwn gyda’i waliau gwyngalchog yn un o dai adrodd straeon enwog Iwerddon sy’n parhau â’r traddodiad barddol o adrodd barddoniaeth a cherddoriaeth Wyddelig draddodiadol. Bydd tanllwyth o dân ynghyd â the a chacennau i’n croesawu a bydd digon o gyfle i berfformio stori a chân pererinion. Yna bydd y bws yn mynd â ni yn ôl i Westy Riverside erbyn amser cinio. |
13:00 | Cinio – bydd angen i bobl dalu am eu cinio eu hunain. Mae carferi ar gael yn y Gwesty. | |
14:00 – 15:00 | 2-3pm Sesiwn grynhoi / rwydweithio wedi’i hwyluso – Seamus Rafter Suite |
Archebwch eich lle trwy Eventbrite
Cyfrifoldeb y mynychwyr yw teithio a llety. Isod mae rhywfaint o wybodaeth i helpu gyda hyn:
OPSIYNAU:
Mewn Car wedi’i Logi o Faes Awyr Dulyn i Westy Riverside Park, Enniscorthy
Dolen i Gyfarwyddiadau Google Maps
Ar y Bws o Faes Awyr Dulyn
https://www.dublinairport.com/to-from-the-airport/by-bus
https://www.dublinairport.com/to-from-the-airport/by-bus/all-ireland-bus-routes
https://www.dublinairport.com/to-from-the-airport/by-bus/plan-your-journey
Bus Eireann (Expressway Route 2) > Maes Awyr Dulyn i Wexford (gyda stop yn Enniscorthy) https://www.expressway.ie/route/2-X2/2-x2-dublin-airport-to-wexford/2023-01-24 O Barth Coch 13 Stop 9
Wexford Bus Route 740 > Maes Awyr Dulyn i Wexford (gyda stop yn Enniscorthy) Amserlen – Wexford Bus 740 Route, O’r Maes Parcio Coetsys, Parth 16 (gweler map https://www.dublinairport.com/to-from-the-airport/by-bus)
Ar y Trên
Siwrnai enghreifftiol o orsaf drenau Dulyn (Connolly), i Enniscorthy. Er ei bod yn daith fwy cyfforddus na’r bws, mae’n anoddach cyrraedd yr orsaf drenau, sydd yng nghanol Dinas Dulyn, ar gyfer llinell Wexford/Rosslare (sy’n stopio ynEnniscorthy). https://journeyplanner.irishrail.ie/webapp/#!P|TP!histId|1!histKey|H692786
Fferi o’r DU
Abergwaun i Rosslare – Stenaline
Dublin – Holyhead route – Stena line
Llety
Bydd y rhan fwyaf o’r mynychwyr yn aros yn y Riverside Park Hotel & Leisure Club
The Promenade, Enniscorthy, Swydd Wexford, Y21 T2F4
Llety arall yn Enniscorthy
Treacy’s Hotel https://www.treacyshotel.com/
Llety yn Nhref Wexford (Sylwer: 20 munud mewn car i Enniscorthy)
Clayton Whites Hotel https://www.claytonwhiteshotel.com/
Crown Quarter https://www.crownquarter.com/
Ferrycarrig Hotel https://www.ferrycarrighotel.ie/
Maldron Hotel https://www.maldronhotelwexford.com/
Talbot Hotel https://www.talbotwexford.ie/
Riverbank House Hotel https://www.riverbankhousehotel.com/
Whitford House Hotel https://www.whitfordhotelwexford.ie/
Am opsiynau llety eraill ewch i Visit Wexford