Categories
Newyddion Pererindod

Ffair Pererinion yn Llys yr Esgob, Tyddewi

NEWYDDION

Ffair Pererinion yn Llys yr Esgob, Tyddewi

Dydd Llun 29ain Mai – Ffair Pererinion Llys yr Esgob, Tyddewi

AM DDIM a chroeso cynnes i bawb!
Mae’r Ffair Pererinion yn argoeli i fod yn achlysur arbennig ar 29ain Mai yn Llys yr Esgob, Tyddewi o 11am-6pm gyda rhaglen o berfformiadau, canu, teithiau tywys, marchnad ganoloesol, arddangosiadau sgiliau traddodiadol a dangosiadau ffilmiau. Mae’n nodi llwyddiannau prosiect Cysylltiadau Hynafol yng Nghymru a lansiad Llwybr Pererinion Wexford Sir Benfro, gyda dathliad o gymunedau ddoe a heddiw a chysylltiadau’r gorffennol a’r dyfodol rhwng Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro.
Mae diwrnod y Ffair Pererinion yn dechrau gydag Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro yn ymuno i arwain taith dywys sy’n cysylltu Aeddan Sant a Dewi Sant. Bydd y grŵp yn dechrau gyda pherfformiad cerddorol gan Gôr Pawb a’r prosiect Pererin Wyf / I’m a pilgrim, gan fynd ar ei ffordd ar hyd llwybr at lwybr yr arfordir ac ymweld â ffynnon sanctaidd y Santes Non. Os fyddwch wedi methu taith gerdded y bore, bydd cyfleoedd i ymuno â meicro-bererindodau o amgylch Eglwys Gadeiriol Tyddewi drwy gydol y dydd. Archebwch eich lle ar daith gerdded
Mae Côr Pawb, Span Arts yn eich gwahodd i’r Canu Mawr / The Big Sing, rhaglen fer o ganeuon pererindod a berfformir yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim a bydd yn gorffen drwy ganu ‘Pererin Wyf’ gan William Williams, Pantycelyn, yn ddigyfeiliant. Bydd yr Eglwys Gadeiriol ym ffrydio’r cyngerdd yn fyw. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno cliciwch yma.
Mae’n bleser gan Ganolfan Byd Bychan ddychwelyd gyda’r pyped anferth o Dewi Sant ac anghenfil môr newydd 6m o hyd mewn gorymdaith gyda cherddorion a disgyblion o Ysgol Penrhyn Dewi. Dewch i ymuno â’r hwyl am 2pm mewn Gorymdaith Bererinion o Sgwâr y Groes i dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Bydd Dewi Sant yn ymweld â chychod gwenyn anferth gwaith celf Bedwyr Williams, ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ ar ei ffordd i’r dathliadau yn y Ffair. Darganfyddwch fwy am y cychod gwenyn yma.
Bydd amrywiaeth o stondinau cyffrous sy’n arddangos rhai o’r nwyddau gorau sydd gan yr ardal i’w cynnig mewn marchnad ganoloesol fywiog. Bydd stondinau’n gwerthu bwyd a diod blasus hefyd, wedi’u gwneud o gynhwysion lleol. Bydd yna ddidanwyr direidus, cerddorion crwydrol a gwerthwyr creiriau sanctaidd a pherfformiadau annisgwyl. Manylion am y farchnad ganoloesol a’r hyn fydd ar gael i ddod yn fuan.
Cewch olwg ar y crefftau a’r sgiliau traddodiadol a ddefnyddiwyd i adeiladu Llys yr Esgob ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ymunwch â chrefftwyr Canolfan Tywi yn eu pabell fawr wrth iddyn nhw rannu eu gwybodaeth am adeiladau hanesyddol ac arddangos gwaith plastr addurniadol, cerfio carreg, toi, a gwneud ffenestri traddodiadol ymhlith pethau eraill. Cewch fwy o wybodaeth yma canolfantywi.org.uk
Gallwch fwynhau effaith y prosiect Cysylltiadau Hynafol trwy gyfres o ffilmiau a ddangosir yng naeargelloedd y Llys. Mae’r ffilmiau’n cynnwys comisiynau artistiaid a chymunedol o Gymru ac Iwerddon. Bydd rhestr o ddangosiadau ffilm a gwneuthurwyr ffilm yn dod yn fuan.
Ac yn olaf, dewch draw i’r cyngherdd awyr agored gyda cherddoriaeth hynafol o Gymru a’r gwledydd Celtaidd yn cael ei pherfformio gan y cerddorion gwerin enwog Julie Murphy, Ceri Rhys Matthews a Jess Ward. Cyfeiliant cerddorol perffaith i ddathliad godidog yn lleoliad hanesyddol trawiadol adfeilion y Llys.
Categories
Newyddion Pererindod

Caminos Creadigol Byr yn Sir Benfro

NEWYDDION

Caminos Creadigol Bach yn Sir Benfro

Dydd Sadwrn 20fed Mai a 10fed Mehefin

Dau olwg artistig ar hanfod pererindod ar hyd Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro gydag Ailsa Richardson a Suzi MacGregor

Dydd Sadwrn 20fed Mai
(yn Neuadd Bentref St Nicholas)

teimlo’ch traed (gwyllt) ar y ddaear gydag Ailsa

mae talu sylw yn fath o sicrhau cydbwysedd â’r byd byw, gan dderbyn rhoddion â llygaid agored a chalon agored
(Robin Wall Kimmerer)

Bydd Ailsa’n cynnig arferion syml o’i phecyn wildfeet i wella presenolrwydd, ymwybyddiaeth ofalgar a’r dychymyg. Mae’r arferion hyn yn tynnu sylw at yr holl leisiau a doethineb sydd ar gael i ni yn yr amgylchedd/byd byw, y gellir ‘mynd â nhw adref’ er mwyn cyfoethogi eich profiad o gerdded a phererindod. Mae hyn yn aml yn golygu rhoi rhai o’n ffyrdd arferol o ymateb o’r neilltu er mwyn caniatáu i’n perthynas â natur ac a’n gilydd ymddangos yn llawnach. Yn chwareus ac o ddifrif, byddwn yn archwilio cerdded ac ysgrifennu, yn cynnwys gwahanol ffyrdd o dalu sylw, ac yn cynnwys agwedd benodol Ailsa at ‘gerdded gyda chwestiwn’.

Cysylltwch ag Ailsa ailsajr@btinternet.com

Dydd Sadwrn 10fed Mehefin
(yn Neuadd Bentref Llanrhian)

Darganfod Lleisiol a Chân gyda Suzi

“Eich llais yw’r enaid, yr hunan wedi’i gorffori. Gallwn ei drin sut bynnag yr hoffwn ni: sibrydion tawel, crawciau deniadol, treiddgar, swnllyd, taer, cariadus, melys, canu. Ond … gall y llais fod fel gwên ffug: yn sownd ac yn anghyfforddus. Felly’n araf bach, ymestynwch, heriwch ac archwiliwch eich llais – mae ganddo’r potensial i gynnwys pob mynegiant.”

Gan ddefnyddio ei hyfforddiant lleisiol, ei dawn gerddorol a’i phrofiad o fyrfyfyrio, mae Suzi’n eich gwahodd i ddechrau ymchwiliad i ‘lais’ – mewn ymateb i’n gwlad a hanfod pererindod/camino. Cyfieithiad Camino yw “y llwybr” neu “y ffordd”, ac mae Suzi’n aml wedi canfod bod y llais, a chanu yn arbennig, wedi bod yn llwybr neu’n ffordd i ddarganfod a dyfnhau perthynas â chi’ch hun, ag eraill, ac â’ch amgylchedd. Mae hwn yn weithdy hwyliog a chynhwysol, ar gyfer POB llais. Gallwch ddisgwyl ymarferion lleisiol, archwiliadau dychmygus o wead a thôn lleisiol, cylchoedd rhannu, gemau byrfyfyr hwyliog, a chanu harmonïau twymgalon gyda’ch gilydd yn y gwyllt!

Cysylltwch â Suzi suzinaomi@gmail.com

Cost – mae’r gost ar raddfa symudol o £45-£90 am bob diwrnod
neu’r ddau weithdy am £80-£170, a chofiwch ddal i gysylltu â ni os na allwch chi fforddio’r gost.

Categories
Newyddion Pererindod

Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro

Pererindod

Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro

Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain wedi creu partneriaeth gyda Pilgrim Paths of Ireland, Journeying a Guided Pilgrimage i reoli’r llwybr pererinion newydd rhwng Tyddewi, Sir Benfro a Ferns yn Sir Wexford. Llwybr y pererinion fydd prif waddol y prosiect Cysylltiadau Hynafol.

Dywedodd Guy Hayward, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain:

“Nod Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain yw hwyluso gweithgaredd ar lawr gwlad o gwmpas Prydain trwy gynnig ein harbenigedd yn rhad ac am ddim i bawb sydd ei angen, ac mae cymaint mwy o’r gweithgaredd cymunedol lleol hwn nawr eu bod yn gweld potensial deniadol pererindod i’w hardal leol y maen nhw’n ei hadnabod ac yn ei charu. Rydyn ni hefyd am i fwy o bobl gerdded y llwybrau go iawn, nid dim ond fel cysyniad hanesyddol, a dyna pam ein bod mor gyffrous ynglŷn â’r prosiect hwn, sy’n creu hen lwybr fel newydd gyda’r holl seilwaith sydd ei angen ar bererinion modern. Mae dod at ei gilydd a gweithio gyda’r holl bartneriaid gwahanol hyn – Pilgrim Paths Ireland, Journeying, Guided Pilgrimage, Cysylltiadau Hynafol – sydd i gyd yn frwd dros ffurfio cysylltiad pererindota rhwng Iwerddon a Chymru, yn mynd i arwain at y math o arloesi a ffresni sydd ond yn digwydd pan fydd diwylliannau gwahanol yn dod i gysylltiad â’i gilydd ac yn rhannu eu doethineb. Rydyn ni yng nghyfnod cynharaf y prosiect hwn, ond rwy’n gallu dweud yn barod ein bod yn mynd i greu rhywbeth hardd iawn gyda’n gilydd sy’n pontio dwy ochr y Môr Celtaidd, a rhywbeth y bydd cymaint yn ei fwynhau ac yn dod o hyd i ystyr drwyddo am genedlaethau i ddod.”

Yn gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain ac yn cynrychioli diddordeb Iwerddon yn y prosiect mae Pilgrim Paths Ireland. Dywedodd y Cadeirydd John G O’Dwyer ei fod yn: “falch iawn o fod yn rhan o’r tîm sydd â’r dasg o ddatblygu llwybr pererinion fel rhan o’r prosiect Cysylltiadau Hynafol a fydd yn coffáu taith Aeddan Sant yn y 6ed ganrif i astudio fel disgybl i Dewi Sant yng Nghymru.” Mae’n credu y bydd y prosiect yn adfywio’r hen gysylltiadau rhwng cymunedau yn Sir Benfro a Wexford drwy ddefnyddio treftadaeth gyffredin i rannu gwybodaeth, profiad a sgiliau lleol. “Dylai’r llwybr pererinion newydd olygu llawer o wariant ychwanegol i Wexford a Sir Benfro a thynnu sylw at y dreftadaeth gyfoethog sydd gan y ddwy ardal i’w chynnig i ymwelwyr,”

Hefyd yn ymuno â’r tîm bydd dau gwmni nid-er-elw o Orllewin Cymru. Mae Journeying wedi bod yn mynd â grwpiau bach o bererinion ar deithiau cerdded tywys i rannau mwy pellennig Prydain ac Iwerddon ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae Guided Pilgrimage yn cynnig pererindodau Celtaidd undydd neu sawl diwrnod sy’n creu gofod i bobl ailgysylltu’r corff a’r enaid drwy’r tirweddau Celtaidd gwyllt a hardd.

Yn dilyn ymgynghoriad cymunedol ac ymchwil marchnad, enw’r llwybr fydd Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro Mae’r arbenigwyr marchnata cyrchfan o Gaerdydd, Heavenly, ynghyd â chwmni dylunio graffeg Orchard wedi creu brand unigryw ar gyfer y llwybr a fydd yn ysbrydoli ymwelwyr o’r DU, Iwerddon a thramor i fod yn bererinion a chael profiad a allai newid eu bywydau. Bydd y brandio’n cynnwys arwyddion ar y llwybr, mapiau a thaflenni yn ogystal â phasbortau pererinion ac ap pererinion.

Bydd y llwybr ar agor i’r cyhoedd yn 2023 ar gyfer teithiau tywys a hunan-dywys. Mae yna nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn pererindodau undydd ar y llwybr newydd.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

Mae hwn yn llwybr sy’n cael ei ddatblygu ac ar hyn o bryd mae’n mynd drwy broses achredu Sport Ireland. Er bod rhai rhannau o’r llwybr ar Lwybrau Cerdded achrededig Wexford (Ferns Village, Oulart Hill, Three Rocks Trail a Carne i Rosslare), mae pob rhan arall o lwybr Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro eto i’w hachredu. Felly, nid yw Cyngor Sir Wexford a’i bartneriaid datblygu llwybr yn derbyn cyfrifoldeb ac nid ydynt yn atebol am unrhyw golled, difrod neu anaf a all ddigwydd a dylai pob defnyddiwr a chyfranogwr gymryd pob gofal angenrheidiol i fodloni eu hunain ynglŷn ag addasrwydd a diogelwch y llwybr.

Allbynnau Prosiect: Dwy swydd cyfateb i amser llawn newydd. Llwybr pererindod newydd rhwng Ferns, Wexford a Thyddewi, Sir Benfro

 

Categories
Cyfle Newyddion Pererindod

Galwad am Bapurau – Symposiwm ‘Pilgrimage and Flourish’

NEWYDDION

Galwad am Bapurau - Symposiwm 'Pilgrimage and Flourish'

Mae Cysylltiadau Hynafol yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain i gynnal symposiwm 11/12 Mawrth 2023.

Galwad am Bapurau
Symposiwm ‘Pilgrimage and Flourish’:
The multi-layered benefits and challenges of pilgrimage
Mawrth 11-12, 2023
Lleoliad: The Riverside Park Hotel, Enniscorthy, Iwerddon

Yn ystod pandemig COVID-19, mae twristiaeth pererindod wedi ffynnu ledled y byd. Mae llwybrau pererindod newydd ac wedi’u hadfywio wedi dod i’r amlwg mewn llawer o leoedd gan gynnwys yr Eidal, Japan, Nepal, a’r DU. Mae gwahanol fathau o bererindod wedi bod yn denu twristiaid seciwlar, megis y niferoedd cynyddol o dwristiaid o Dde Corea sy’n cerdded y Caminos yn Sbaen. Mae pererindod rhithwir wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn ystod y pandemig, a fyddai’n cynnal yn arbennig y rhai sy’n cael anhawster symud oherwydd anabledd / salwch. Mae teithiau cerdded pererindod wedi bod yn arbennig o boblogaidd yn ystod y pandemig fel modd o wella lles meddyliol, corfforol a seicolegol, rhyngweithio cymdeithasol, hunanfyfyrio, adfywiad ysbrydol, ac ati.

Rydyn ni hefyd wedi gweld pererindodau’n cyfrannu at les cymunedau lleol, trwy ddarparu bywoliaeth a bywiogrwydd; a helpu adfywiad diwylliannol. Mae rhai pererindodau newydd yn cael eu creu’n fwriadol gan awdurdodau ac elusennau mewn ffyrdd sydd o fudd i gymunedau lleol ac sy’n ymwneud â nhw. Er enghraifft, mae’r prosiect Cysylltiadau Hynafon sy’n cysylltu Sir Benfro yng Nghymru â Swydd Wexford yn Iwerddon, yn cynnwys amrywiol weithgareddau sy’n cynnwys y gymuned, a chydweirhrediadau ag artistiaid lleol. Er bod manteision twristiaeth pererindod i gymunedau lleol/gwledig wedi’u cydnabod yn ystod y pandemig a thu hwnt, mae diffyg ymwybyddiaeth a chefnogaeth gan lywodraethau ac awdurdodau ar gyfer seilwaith cynhaliol a marchnata, yn ogystal â chyfranogiad cymunedau lleol, a busnesau bach. Mae angen ymdrech ar y cyd, lle mae rhanddeiliaid amrywiol yn cyfathrebu’n weithredol ac yn helpu i wneud y gorau o fanteision posibl twristiaeth pererindod mewn cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig yn economaidd, ac ymylol.
Er mwyn archwilio’r ffenomen sy’n dod i’r amlwg o ran twristiaeth pererindod a’i ddyfodol cynaliadwy, gwydn ac adfywiol, hoffem eich gwahodd i symposiwm, “Pilgrimage and Flourishing” lle bydd ysgolheigion, ymarferwyr, swyddogion y llywodraeth, pobl greadigol a rhanddeiliaid eraill yn trafod y materion cyfredol, yn rhannu gwybodaeth a mewnwelediadau, a dyfodol economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gynaliadwy twristiaeth pererindod.

Byddem hefyd yn hoffi trafod: y camau ymarferol wrth sefydlu llwybrau pererindod modern; sut i greu cynllun gwaith rhwng sefydliadau pererindod ac asiantaethau twristiaeth/llywodraethau lleol/canolog; sut i droedio’r gwahaniaeth rhwng profiad pererindod a thwristiaeth “arferol”. Sut gallwn ni annog grŵp mor amrywiol o bererinion â phosibl, boed hynny o gefndiroedd crefyddol neu anghrefyddol, hil ac economaidd-gymdeithasol? Pa fathau o bererinion ydyn “ni” eisiau eu gweld ar y llwybr, a faint o le ddylai amrywiaeth ei gael wrth wneud penderfyniadau?

Rydyn ni’n gwahodd cyfraniadau gan amrywiaeth o ddisgyblaethau a meysydd gan gynnwys y celfyddydau gweledol a chlywedol, ymarferwyr symud, anthropoleg, daearyddiaeth ddynol, cymdeithaseg, seicoleg, astudiaethau diwylliannol, economeg, hanes, astudiaethau datblygu, astudiaethau twristiaeth newydd, lletygarwch/rheoli digwyddiadau, llywodraeth a sefydliadau elusennol. Gallai pynciau gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • Tirweddau pandemig a thwristiaeth pererindod
  • Datblygu gwledig trwy dwristiaeth pererindod ar ôl y pandemig
  • Adfywio cymunedol a diwylliannol trwy bererindod mewn ardaloedd gwledig
  • Pererindod ac adfywio diwylliannol/treftadaeth/iaith.
  • Effaith twristiaeth pererindod ar yr amgylchedd a’r economi leol
  • Lliliaru tlodi a thwristiaeth pererindod mewn ardaloedd ymylol
  • Entrepreneuriaeth wledig a busnesau bach a chanolig (BBaChau)
  • Gwyrddu’r economi a thwristiaeth pererindod
  • Twristiaeth a phererindod agos at adref mewn ardaloedd gwledig
  • Y prif rwystrau i dwristiaeth pererindod (e.e. llety cost isel) ac atebion i hynny
  • Natur newidiol pererindod (twristiaeth diwylliannol niche neu ‘brif ffrwd’), a beth mae’n ei olygu ar gyfer datblygiad yn y dyfodol
  • Tensiynau a gwrthdaro ymhlith rhanddeiliaid pererindod
  • Ymatebion creadigol i bererindod
  • Datblygu offer creadigol er mwyn gwella profiad pererinion
  • Cyd-greu mewn prosiectau cymunedol pererindod (celfyddydau, gwyliau, ac ati)

    Rydyn ni’n annog siaradwyr yn gryf i gyflwyno mewn ffordd greadigol, a all gynnwys dangos ffilm fer, darllen barddoniaeth, adrodd straeon, symud/dawnsio, canu, Pecha Kucha, ac ati.

    Anfonwch eich crynodeb (dim mwy na 250 gair) at Jaeyeon Choe trwy e-bost (jaeyeon@jaeyeonchoe.com) erbyn y 15 Hydref. Nid oes ffi cofrestru ar gyfer cymryd rhan yn y digwyddiad hwn ond mae lleoedd yn gyfyngedig. Diolch!

Categories
Newyddion Pererindod

Dewis Artistiaid Pererindod Camino Creadigol

Dewis Artistiaid Pererindod Camino Creadigol

Mae Cysylltiadau Hynafol yn falch iawn o fod wedi comisiynu pedwar artist perfformio i ymuno â phererindodau Camino Creadigol (dyddiadau i’w cadarnhau). Bydd yr artistiaid hyn yn teithio o Ferns i Dyddewi dros gyfnod o wyth diwrnod, gan ymweld â nifer o safleoedd o ddiddordeb ar hyd y ffordd. Bydd yr artistiaid yn ymateb yn greadigol i’r profiad trwy berfformiadau yn Ferns, yn Abergwaun ac yn Nhyddewi.

Yr artistiaid o Sir Benfro yw Ailsa Richardson, arlunydd aml-ddisgyblaethol sy’n gweithio ym meysydd symud, canu, barddoniaeth a cherddoriaeth, a Suzi McGregor, cerddor, actor a chanwr-gyfansoddwr. Ac o Wexford, yn ymuno â’r grŵp fydd Bonnie Boux, dawnsiwr sy’n arbenigo mewn dawns burlesque a chymunedol a Kate Powell, cerddor aml-offerynnol a pherfformiwr stryd.

Bydd pedwar aelod o’r gymuned sydd eto i’w dewis yn ymuno â’r artistiaid a bydd y grŵp cyfan yn cael ei arwain gan dywyswyr o Journeying a Wexford Trails. Mae’r daith yn argoeli i fod yn brofiad hwyliog, creadigol a thrawsnewidiol a bydd cyfleoedd i aelodau o’r cyhoedd ymuno am ddiwrnod neu hanner diwrnod.

Categories
Pererindod

Trosolwg o bererindota – y resymeg dros lwybr newydd

Prosiect Celf

Trosolwg o bererindota - y resymeg dros lwybr newydd

Mae Pererindota’n gysyniad hynafol sy’n ymestyn yn ôl drwy hanes ar draws ffiniau diwylliannol a chrefyddol, hanesyddol ac economaidd, gan anwybyddu hil a rhywedd. Mae llawer yn dadlau bod pererindota’n diwallu angen sylfaenol sydd gan bobl am ailgysylltu â’u hunain drwy’r broses syml o roi un droed o flaen y llall ar y daith i fan cysegredig neu arbennig.

Mae Cysylltiadau Hynafol yn ailddarganfod cysylltiadau hanesyddol a straeon hynafol sy’n cysylltu cymunedau a diwylliant Gogledd Sir Benfro â’u cymheiriaid ar arfordir Dwyreiniol Swydd Wexford. Yn benodol, mae’n archwilio’r cysylltiad rhwng dinas Tyddewi a phentref Fearna, dau safle arwyddocaol sy’n gysylltiedig â’r eglwys Geltaidd gynnar. Astudiodd Aeddan Sant yng Nghymru gyda Dewi Sant ac yna fe deithiodd i Swydd Wexford lle sefydlodd ei fynachlog ei hun yn Ferns.

Mae Tyddewi wedi bod yn gyrchfan i bererinion ers yr oesoedd canol ac mae’n dal i fod felly heddiw. Mae pobl yn cael eu denu i’r ardal am lawer o resymau, er mwyn adfywio’r corff, y meddwl a’r enaid. Fe’i cydnabyddir fel lle arbennig, lle ‘tenau’ i’r Celtiaid: man lle mae calonnau’n cael eu hagor ac emosiynau’n cael eu cyffwrdd.

Nid yw pererindod fodern o reidrwydd yn grefyddol na hyd yn oed yn ysbrydol; yn hytrach, mae’n gyfle i fyfyrio, cysylltu a darganfod, gan efallai ddod o hyd i ymdeimlad newydd o bwrpas, cyfeiriad a llesiant. Mae pererindota’n dod yn fwyfwy poblogaidd heddiw gyda rhaglenni teledu fel Pilgrimage; The Road to Rome a The Road to Santiago. Mae llwybr pererinion Santiago de Compostella, a gafodd hwb gan gyllid gan yr UE ym 1987, wedi bod yn llwyddiant mawr gyda niferoedd y teithwyr yn cynyddu o lai na 3,000 y flwyddyn i dros 300,000 erbyn hyn.

Llwybr Newydd - Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro

Bydd 2023 yn nodi 900 mlynedd ers i’r Pab Callixtus II ddatgan bod dau bererindod i Dyddewi gyfystyr ag un i Rufain. Mae’r dyddiad hwn a’r prosiect Cysylltiadau Hynafol yn fan lansio ar gyfer dechrau adeiladu llwybr pererindod ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon. Tybed allai twristiaeth pererindota/drawsnewidiol fod mor llwyddiannus yn Swydd Wexford a Sir Benfro ag yng Ngogledd Sbaen?

Mae Cysylltiadau Hynafol yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain i greu’r llwybr newydd. Ym Mai 2022, cynhaliwyd y Camino Creadigol arloesol, taith arbrofol dan arweiniad tywyswyr Journeying sydd wedi’u lleoli yn Sir Benfro a Wexford Trails. Yn teithio gyda nhw roedd criw o artistiaid a phererinion cymunedol, a ymatebodd yn greadigol i’r profiad.

Mae’r llwybr bellach wedi’i fapio a bydd ar agor i’r cyhoedd yn 2023 ar gyfer teithiau tywys a hunan-dywys. Ar hyn o bryd, mae cyfleoedd i dreialu’r llwybr ar deithiau dydd dan arweiniad tywyswyr profiadol. Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth am y llwybr a sut y gallwch chi gymryd rhan

Dyddiad: Parhaus

Categories
Celfyddydau Pererindod

Camino Creadigol

Prosiect Celf

Camino Creadigol

Mae Cysylltiadau Hynafol yn cynnal pererindod arbrofol a chreadigol o Ferns i Dyddewi ym mis Mai 2022 – y Camino Creadigol. Bydd pedwar artist, pedwar aelod o’r gymuned, awdur taith a gwneuthurwr ffilmiau yn gwneud y daith wyth diwrnod ar droed o Ferns i Dyddewi gan ddechrau ar 1 Mai a gorffen ar 8 Mai. Bydd ffilm ddogfen yn adrodd hanes eu taith ac yn annog eraill i ddilyn yn ôl eu troed.

Yr artistiaid yw: Bonnie Boux, Kate Powell, Suzi MacGregor ac Ailsa Richardson

Mae’r prosiect yn partneru â Journeying, cwmni tywyswyr cerdded a phererindod Celtaidd yn Sir Benfro sy’n gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Pererindod Prydeinig ar ddatblygu’r llwybr pererinion newydd o Ferns i Dyddewi, sef prif waddol y Prosiect Cysylltiadau Hynafol a gaiff ei lansio’n swyddogol yn 2023.

Mae 2023 yn nodi 900fed pen-blwydd rhoi braint i Dyddewi gan y Pab Callixtus II, a ddatganodd fod dwy bererindod i Gadeirlan Tyddewi gyfystyr ag un daith i Rufain. Mae’n teimlo felly fel blwyddyn addas i lansio’r llwybr newydd!

Bydd y llwybr yn annog cysylltiadau cryfach rhwng y ddau ranbarth Celtaidd hyn, yn ogystal â denu ymwelwyr tramor mewn ffurf gynaliadwy o dwristiaeth drawsffiniol.

Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain (BPT) wedi creu rhestr bostio ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r llwybr newydd hwn. Cliciwch ar y botwm isod i ymuno.

Y Daith

Bydd y bererindod yn cychwyn gyda dathliadau cymunedol a’r perfformiad cyntaf erioed o ddarn cerddoriaeth Geltaidd draddodiadol (sydd wedi’i gyfansoddi’n arbennig ar gyfer y digwyddiad). Dechrau Nadoligaidd teilwng i grŵp o bererinion ar eu taith. Yna bydd y pererinion yn gwneud eu ffordd i Rosslare trwy Oulart, Olygate ac Ynys Ein Harglwyddes lle byddan nhw’n mynd ar fferi i Abergwaun. Yn olaf, byddan nhw’n cerdded llwybr arfordir Sir Benfro a rhai llwybrau mewndirol. Byddan nhw’n cyrraedd pen eu taith, tref fechan Tyddewi, ddydd Sul 8 Mai lle byddan nhw’n cael croeso bendigedig. Bydd pyped anferth o Dewi Sant yn ymuno â’r pererinion ac yn arwain y teithwyr i dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi gyda gorymdaith gôr arbennig. Golygfa wirioneddol ryfeddol! Arweinir y digwyddiad gan Small World Theatre. Bydd yr artistiaid yn cyflwyno perfformiad byrfyfyr i rannu hanes eu taith a’u profiadau ar hyd y daith.

Cyfryngau a Ffilm Ddogfen

Trwy gydol y daith, bydd profiadau’r pererinion yn ogystal â’r golygfeydd hyfryd, safleoedd treftadaeth a bywyd gwyllt yn cael eu dogfennu gan Llif: Flow, cwmni cyfryngau digidol o Ynys Mon. Bydd y ffotograffau a’r clipiau fideo yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r prosiect a chysyniad y llwybr pererinion newydd ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac mae ffilm ddogfen fer wedi’i chomisiynu er fel dull o hyrwyddo ac fel gwaddol.

Dilynwch y stori!

Dilynwch daith y pererinion ar ein tudalen Instagram a fydd yn cael ei diweddaru’n ddyddiol

Dyddiad: Mai 2022

Ariennir gan: Cysylltiadau Hynafol

Mewn Partneriaeth â: Journeying

Allbynnau’r Prosiect:
Perfformiadau gan artistiaid
Ffilm ddogfen
Cynnwys byr ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a ffotograffau

Dysgwch fwy yn: www.journeying.co.uk