Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain a'u partneriaid yn chwilio am ddau berson arbennig sy'n adnabod Swydd Wexford a Sir Benfro yn dda er mwyn cynllunio a chyflwyno rhaglen bererindod lawn ac ysbrydoledig trwy drafod â phobl o bob cymuned.
Mae cyfleoedd yn codi o fewn y prosiect Cysylltiadau Hynafol ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn ogystal ag aelodau o’r gymuned a gwirfoddolwyr ac mae’r prosiect yn cefnogi polisi Cyfle Cyfartal. Bydd pob cytundeb proffesiynol yn cael ei hysbysebu yma, yn ogystal â chomisiynau celf a chyfleoedd i wirfoddoli.
Os hoffech glywed am Gyfleoedd trwy e-bost wrth iddynt godi, ymunwch â’n rhestr bostio.
Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain a'u partneriaid yn chwilio am ddau berson arbennig sy'n adnabod Swydd Wexford a Sir Benfro yn dda er mwyn cynllunio a chyflwyno rhaglen bererindod lawn ac ysbrydoledig trwy drafod â phobl o bob cymuned.
Mae Cyngor Swydd Wexford yn gwahodd cyflwyniadau ar gyfer prosiect celfyddydau cyfranogol trawsffiniol uchelgeisiol sy’n ymwneud â’r thema gyffredinol ‘Pwy sy’n Bererin?’ sy’n cysylltu cymunedau Wexford a Sir Benfro, yn ogystal â diasporas rhyngwladol y rhanbarthau yma.
Mae Cyngor Sir Penfro yn gwahodd dyfynbrisiau gan fusnesau, unigolion hunangyflogedig a mentrau cymdeithasol ar gyfer cynigion i ddatblygu a phrofi cynhyrchion newydd yn ymwneud â phererindod a fydd yn cyd-fynd â llwybr pererindod newydd sy’n cael ei greu rhwng Ferns a Thyddewi.
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP
E: ancientconnections@pembrokeshire.gov.uk
T: +44 (0)7798925695
Wexford County Council: County Hall, Carricklawn, Wexford, Y35 WY93
E: ancient.connections@wexfordcoco.ie
T: +353 (0) 87 338 6005
© 2021 All Rights Reserved
Mae Cyngor Sir Penfro, ynghyd â phartneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford yn cydweithio ar Gysylltiadau Hynafol, prosiect celfyddydau, treftadaeth a thwristiaeth gynaliadwy trawsffiniol cyffrous a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen gydweithredu Iwerddon Cymru.