Digwyddiadau

Mae Cysylltiadau Hynafol yn cynnal neu’n cefnogi nifer o brosiectau yn Wexford a Sir Benfro. Mae digwyddiadau a rhaglenni cymunedol sy’n galluogi gwir gysylltiad ac ymgysylltiad trwy ymchwilio’n ddyfnach i’r hanesion, y straeon a’r chwedlau sy’n gwneud Gogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford yn unigryw wrth wraidd pwrpas Cysylltiadau Hynafol.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cynulleidfaoedd a chyfranogwyr i ddigwyddiadau cyhoeddus a rhaglenni cymunedol o Wanwyn 2021. Mae prosiectau’n ymwneud ag ystod eang o themâu o Dreftadaeth, y Celfyddydau a Cherddoriaeth i Ymchwil, Pererindod a Chymuned. Mae llawer o’r prosiectau’n cynnig ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan fel cyfranogwr neu wirfoddolwr.I ddarganfod mwy am ein cyfleoedd diweddaraf, cliciwch yma..