Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain a'u partneriaid yn chwilio am ddau berson arbennig sy'n adnabod Swydd Wexford a Sir Benfro yn dda er mwyn cynllunio a chyflwyno rhaglen bererindod lawn ac ysbrydoledig trwy drafod â phobl o bob cymuned.
Mae Cysylltiadau Hynafol yn cynnal neu’n cefnogi nifer o brosiectau yn Wexford a Sir Benfro. Mae’r prosiectau’n ymdrin ag ystod eang o themâu o Dreftadaeth, y Celfyddydau a Cherddoriaeth, Ymchwil, Pererindod a’r Gymuned. Mae llawer o’r prosiectau’n cynnig ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan fel cyfranogwr neu wirfoddolwr. I ddarganfod mwy am ein cyfleoedd diweddaraf, cliciwch yma.
Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain a'u partneriaid yn chwilio am ddau berson arbennig sy'n adnabod Swydd Wexford a Sir Benfro yn dda er mwyn cynllunio a chyflwyno rhaglen bererindod lawn ac ysbrydoledig trwy drafod â phobl o bob cymuned.
Mae Cyngor Swydd Wexford yn gwahodd cyflwyniadau ar gyfer prosiect celfyddydau cyfranogol trawsffiniol uchelgeisiol sy’n ymwneud â’r thema gyffredinol ‘Pwy sy’n Bererin?’ sy’n cysylltu cymunedau Wexford a Sir Benfro, yn ogystal â diasporas rhyngwladol y rhanbarthau yma.
Mae Cyngor Sir Penfro yn gwahodd dyfynbrisiau gan fusnesau, unigolion hunangyflogedig a mentrau cymdeithasol ar gyfer cynigion i ddatblygu a phrofi cynhyrchion newydd yn ymwneud â phererindod a fydd yn cyd-fynd â llwybr pererindod newydd sy’n cael ei greu rhwng Ferns a Thyddewi.
Cwblhaodd ein criw cyntaf o Lysgenhadon Cysylltiadau Hynafol ar gyfer Gogledd Sir Benfro a Swydd. Wexford eu hyfforddiant fis diwethaf, ac am griw gwych! Nawr, rydyn ni'n lansio mwy o hyfforddiant er mwyn cynyddu eu niferoedd. Oes gennych chi ddiddordeb?
Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer Gŵyl Cwtsh, Tyddewi, Sir Benfro, 28 - 30 Hydref 2022
Mae Cyngor Sir Wexford yn awyddus i benodi contractwr(wyr) i gynnal a chyflwyno Rhaglen Hyfforddi Busnes, Marchnata a Chymorth Rhwydweithio i Wyliau a Digwyddiadau, ar gyfer gwyliau a digwyddiadau lleol bychain sy'n bodoli eisoes yn rhanbarthau prosiect Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro.
Pererin Wyf: prosiect celfyddydau cyfranogol trawsffiniol yn cysylltu Cymry ar wasgar ac Iwerddon yn cael ei lansio ddydd Iau 29 Medi 6-8 pm
Mae Cysylltiadau Hynafol yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain i gynnal symposiwm 11/12 Mawrth 2023. Gofynnir am geisiadau ar gyfer papurau ac ymatebion creadigol i'r themâu
Mae Cysylltiadau Hynafol yn gwahodd Mynegiannau o Ddiddordeb gan artistiaid, cerddorion a phobl greadigol ar gyfer comisiynau sy'n archwilio thema Ffynhonnau Sanctaidd yng Ngogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford.
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP
E: ancientconnections@pembrokeshire.gov.uk
T: +44 (0)7798925695
Wexford County Council: County Hall, Carricklawn, Wexford, Y35 WY93
E: ancient.connections@wexfordcoco.ie
T: +353 (0) 87 338 6005
© 2021 All Rights Reserved
Mae Cyngor Sir Penfro, ynghyd â phartneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford yn cydweithio ar Gysylltiadau Hynafol, prosiect celfyddydau, treftadaeth a thwristiaeth gynaliadwy trawsffiniol cyffrous a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen gydweithredu Iwerddon Cymru.