Ffair Pererinion yn Llys yr Esgob, Tyddewi 29ain Mai - am ddim a chroeso cynnes i bawb!
Mae Cysylltiadau Hynafol yn cynnal neu’n cefnogi nifer o brosiectau yn Wexford ac yn Sir Benfro. Mae’r prosiectau’n ymwneud ag ystod eang o themâu gan gynnwys Treftadaeth, y Celfyddydau a Cherddoriaeth, Ymchwil, Pererindod a’r Gymuned. Mae llawer o’r prosiectau’n cynnig ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan fel cyfranogwr neu wirfoddolwr. I ddarganfod mwy am ein cyfleoedd diweddaraf, cliciwch yma.
Ffair Pererinion yn Llys yr Esgob, Tyddewi 29ain Mai - am ddim a chroeso cynnes i bawb!
Dau olwg bach artistig i hanfod pererindod ar hyd Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro gydag Ailsa Richardson a Suzi MacGregor
Mae’n bleser gan Gysylltiadau Hynafol gyhoeddi penodiad partneriaeth o sefydliadau a fydd yn cydweithio i reoli’r llwybr pererinion newydd rhwng Tyddewi, Sir Benfro a Ferns yn Sir Wexford.
Mae Cysylltiadau Hynafol yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain i gynnal symposiwm 11/12 Mawrth 2023. Gofynnir am geisiadau ar gyfer papurau ac ymatebion creadigol i'r themâu
Mae Cysylltiadau Hynafol yn falch iawn o fod wedi comisiynu pedwar artist perfformio i ymuno â phererindodau Camino Creadigol (dyddiadau i'w cadarnhau). Bydd yr artistiaid hyn yn teithio o Ferns i Dyddewi dros gyfnod o wyth diwrnod, gan ymweld ag ambell safle o ddiddordeb ar hyd y ffordd.
Mae Pererindota'n gysyniad hynafol sy'n ymestyn yn ôl drwy hanes ar draws ffiniau diwylliannol a chrefyddol, hanesyddol ac economaidd, gan anwybyddu hil a rhywedd.
Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP
E: ancientconnections@pembrokeshire.gov.uk
T: +44 (0)7798925695
Wexford County Council: County Hall, Carricklawn, Wexford, Y35 WY93
E: ancient.connections@wexfordcoco.ie
T: +353 (0) 87 338 6005
© 2021 All Rights Reserved
Mae Cyngor Sir Penfro, ynghyd â phartneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford yn cydweithio ar Gysylltiadau Hynafol, prosiect celfyddydau, treftadaeth a thwristiaeth gynaliadwy trawsffiniol cyffrous a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen gydweithredu Iwerddon Cymru.