Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith ac efallai y byddwn hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus i sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, gellir rhannu gwybodaeth ag adrannau mewnol eraill yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru.
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon ar gyfer marchnata oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a dim ond y wybodaeth bersonol sy’n ofynnol i chi ddarparu ar gyfer ein gwasanaeth y byddwn yn ei chasglu.
Mae Cyngor Sir Penfro yn gwneud ei orau i gyrraedd y safonau uchaf posib wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a dderbyniwn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i dynnu ein sylw os ydyn nhw o’r farn bod ein ffyrdd o gasglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol.
Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn darparu manylion cynhwysfawr o bob agwedd ar ein casgliad a’n defnydd o wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i’r cyfeiriad isod:
Jo Hendy, Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Benfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk
Rhif ffôn: 01437 764551
Os ydych chi am gwyno am y ffordd rydyn ni wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio’r gyfraith diogelu data:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
E-bost: case worker@ico.org.uk
Rhif ffôn: 0303 123 1113