Online Event - Three nights of storytelling that explore the friendship, folklore, and ancient stories connecting Wales and Ireland.
Click here to register with Eventbrite
Where do myths come from? And how do they bind people together?. This festival celebrates the friendship, folklore, and ancient stories that connect Pembrokeshire and Wexford across the Irish Sea.
For three nights, we'll be sharing myths, legends, and ancient tales involving saints, sea monsters, and intrepid journeys to rescue friends across the Irish Sea. Each night, our storyteller will be joined by an archaeologist who has been unearthing real evidence from the places these stories are about. Separated by storm-whipped seas, you'll discover that these two places are joined not only by shared stories, but by real cultural connections which are being uncovered by archaeologists today. Together, we'll discover the ‘real stories’ behind each tale, and look at the clues that suggest these myths and legends are rooted in events that took place over 1,000 years ago.
Tue 1st March / 18:30 GMT Story 1 – Ancient Connections, with DigVentures
Journeys, connections, and lives well-lived. Listen to the enchanting story of how two saints, David and Aidan, became friends. Following this an archaeologist from DigVentures will unpick a series of clues from early medieval church sites in Pembrokeshire and Wexford to reveal a new understanding of Waycross pilgrims’ routes and ports.
Wed 2nd March / 18:30 GMT Story 2 – Patrick sets sail, with Dyfed Archaeological Trust
Sea shells, skeletons, and setting sail. Listen to the rolling adventure of St Patrick’s journey to Ireland in the 5th century AD, before an archaeologist from Dyfed Archaeological Trust explores new evidence from the site where his journey is said to have begun. A place where storm-whipped seas and recent rescue excavations have revealed 1,000 year-old graves touchingly decorated with sea shells and shiny quartz pebble.
Thu 3rd March / 18:30 GMT Story 3 – Stormy seas, with IAFS
Angels, friendship, and sea monsters. Listen to the epic tale of how St Aidan rode to the rescue of his old friend St David across the Irish Sea, before an archaeologist from IAFS unveils new discoveries from Ferns Abbey and what these new clues can reveal about its foundation.
Everyone is encouraged to join the fun, as we listen to old tales, discover new archaeological evidence, and start weaving new stories from these ancient threads of evidence.
The event is free but you must book in advance. Please reserve a place through the Eventbrite link below. More details about each evening's theme are also included in the Eventbrite description
Click here to register with Eventbrite
Digwyddiad Ar-lein – tair noson o chwedleua sy’n archwilio’r cyfeillgarwch, y llên gwerin a’r straeon hynafol sy’n cysylltu Cymru ac Iwerddon.
Cliciwch yma i gofrestru gydag Eventbrite
O ble y daw mythau? A sut maen nhw’n rhwymo pobl gyda’i gilydd? Mae’r ŵyl yn dathlu’r cyfeillgarwch, y llên gwerin a’r straeon hynafol sy’n cysylltu Sir Benfro a Wexford y tu hwnt i Fôr Iwerddon.
Am dair noson, byddwn yn rhannu mythau, chwedlau a straeon hynafol sy’n ymwneud â seintiau, bwystfilod môr, a theithiau arwrol i achub ffrindiau yr ochr draw i Fôr Iwerddon. Bob nos, yn ymuno â’n chwedleuwr fydd archeolegydd, sydd wedi bod yn datgelu tystiolaeth go iawn o’r mannau y mae’r straeon hyn yn ymwneud â nhw. Er bod y ddau le hyn wedi’u gwahanu gan fôr tymhestlog, fe welwch nad straeon yn unig a rennir ganddynt, ond cysylltiadau diwylliannol go iawn sy’n cael eu datgelu gan archeolegwyr heddiw. Gyda’n gilydd, byddwn yn darganfod y ‘straeon go iawn’ y tu ôl i bob chwedl, ac yn edrych ar y cliwiau sy’n awgrymu bod gan y mythau a’r chwedlau hyn wreiddiau mewn digwyddiadau a ddigwyddodd dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl.
Anogir pawb i ymuno â’r hwyl, wrth i ni wrando ar hen chwedlau, darganfod tystiolaeth archeolegol newydd, a gwau straeon newydd o’r edau hynafol hyn o dystiolaeth.
Dydd Mawrth 1 Mawrth / 18:30 GMT Stori 1 – Cysylltiadau Hynafol gyda DigVentures
Teithiau, cysylltiadau, a byw bywydau da. Gwrandewch ar y stori swynol am sut y daeth dau sant, Dewi ac Aidan, yn ffrindiau. Yn dilyn hyn, bydd archeolegydd o DigVentures yn datrys cyfres o gliwiau o safleoedd eglwysig o’r Oesoedd Canol cynnar yn Sir Benfro a Llwch Garmon i ddatgelu dealltwriaeth newydd o borthladdoedd a llwybrau pererinion Waycross.
Dydd Mercher 2 Mawrth / 18:30 GMT Stori 2 – Padrig yn dechrau hwylio, gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
Cregyn y môr, sgerbydau, a dechrau hwylio. Gwrandewch ar stori gyffrous antur taith San Padrig i'r Iwerddon yn y 5ed ganrif OC, cyn i archeolegydd o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed archwilio tystiolaeth newydd o'r safle ble y dywedir i’w daith ddechrau. Dyma le ble mae moroedd tymhestlog a chloddiadau achub diweddar wedi datgelu beddau 1,000 mlwydd oed wedi eu haddurno’n deimladwy â chregyn y môr a cherrig bach cwarts sgleiniog.
Dydd Iau 3 Mawrth/ 18:30 GMT Stori 3 – Moroedd tymhestlog, gydag IAFS
Angylion, cyfeillgarwch, ac angenfilod y môr. Gwrandewch ar yr hanes epig yn adrodd am sut y gwnaeth Sant Aiden farchogaeth i achub ei hen ffrind Dewi Sant ar draws Môr Iwerddon, cyn i archeolegydd o IAFS ddatguddio darganfyddiadau newydd o Abaty Fearna a beth mae'r cliwiau newydd hyn yn gallu datgelu am sut y cafodd ei sefydlu.
Mae’r digwyddiad hwn yn gwbl rad ac am ddim ond rhaid archebu ymlaen llaw. Cadwch le drwy’r ddolen Eventbrite isod. Mae mwy o fanylion am thema pob noson hefyd wedi’u cynnwys yn y disgrifiad Eventbrite.
-
Organizer of Ancient Connections Storytelling Festival / Gŵyl adrodd stori Cysylltiadau HynafolDigVentures is a social business that specialises in crowdfunding, crowdsourcing and digital methods to increase public participation in archaeological research. We are a Chartered Institute for Archaeologists Registered Organisation, and the first-ever CIfA Accredited Fieldschool.
- Schedule
- Guests
- Attendance
- Forecast
- Comments
Weather data is currently not available for this location
Weather Report
Today stec_replace_today_date
stec_replace_current_summary_text
stec_replace_current_temp °stec_replace_current_temp_units
Wind stec_replace_current_wind stec_replace_current_wind_units stec_replace_current_wind_direction
Humidity stec_replace_current_humidity %
Feels like stec_replace_current_feels_like °stec_replace_current_temp_units
Forecast
Date
Weather
Temp
Next 24 Hours
Powered by openweathermap.org