Prosiect Celfyddydau
Comisiynau Artistiaid
Mae Cysylltiadau Hynafol wedi comisiynu comisiynau newydd gan bedwar artist, sy’n archwilio themâu cydgysylltiedig sydd wrth graidd y prosiect, gan gynnwys: pererindod, cysylltu gyda diaspora Celtaidd Iwerddon a Chymru, a’n perthynas â mannau sanctaidd megis ffynhonnau, capeli a safleoedd hynafol.
Bydd yr artistiaid yn cynhyrchu gweithiau celf newydd dros y ddwy flynedd nesaf, wedi’u ysbrydoli gan eu hymchwil bersonol yn ogystal â chanfyddiadau timau Cysylltiadau Hynafol o helwyr straeon, ymchwilwyr cymunedol ac archeolegwyr. Bydd disgwyl i bob artist greu gwaith all gael ei rannu ar-lein, er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd lleol a phobl sydd lawer ymhellach, er enghraifft yn Awstralia neu Ogledd America, lle mae poblogaethau sylweddol o bobl o dras Cymreig a Gwyddelig. Bydd yr artistiaid hefyd yn cyflwyno’u gwaith mewn arddangosfa gyhoeddus derfynol yn Wexford a Sir Benfro yn 2022.
Y pedwar artist yw Seán Vicary a Linda Norris, dau artist gweledol o Orllewin Cymru, a’r artist/archeolegydd John Sunderland a’r awdures Sylvia Cullen, o dde-ddwyrain Iwerddon.
Linda Norris

Bwriad Linda Norris yw defnyddio ‘teilchion’ neu ddarnau o grochenwaith fel man dechrau ei phrosiect, ac mae’n annog pobl i anfon teilchion ati a’u lleoli ar fap ar-lein. Meddai:
“Ymhell o swyn metelau gwerthfawr neu henebion enwog, mae teilchion yn adrodd hanesion domestig anhysbys ac yn ein cysylltu â’r bobl oedd yn byw yn ein cartrefi yn y gorffennol. Rwy’n bwriadu dechrau prosiect ‘archeoleg dinasyddion’ yn Sir Benfro a Wexford, ac yna’i ymestyn i’r Diaspora Celtaidd. Byddaf yn ymchwilio’r bobl a ymfudodd o’r ardaloedd hyn i’r Diaspora yn y 19eg ganrif ac yn ceisio dod o hyd i’w disgynyddion.”
Seán Vicary

Yn ddiweddar, darganfyddodd yr artist aml-gyfrwng Seán Vicary bod ei hen fam-gu wedi ei geni yn 1874, a hynny dim ond 3.5 milltir o Ferns yn Camolin ac mae’n gobeithio gallu:
“Deall y grymoedd a arweiniodd ata i’n byw yma draw dros y dŵr o gartref fy hen fam-gu. Drwy fynd ati i gloddio drwy fy ngorffennol fy hun, fe fydda i’n cychwyn proses sy’n adlewyrchu’r gwaith ymchwil archeolegol a hanesyddol sy’n mynd ymlaen yn y ddwy gymuned.”
Fe fydd yn darganfod y ‘straeon cudd’ yn y dirwedd ac yn eu gweithio’n greadigol i mewn i deithlyfr personol gafaelgar sy’n symud yn ôl ac ymlaen rhwng Sir Benfro a Wexford.
“Bydd llais, testun, cerddoriaeth, ffilm ac animeiddiad yn cyfuno i ddangos y llefydd hyn mewn modd cyffrous a chyfoes; gan adeiladu ymdeimlad dyfnach o hunaniaeth drwy rannu profiadau o ailgysylltu.”
John Sunderland

Bydd yr archeolegydd hyfforddedig ac artist gweledol John Sunderland yn ymgymryd â phererindod o Borth Mawr i Ferns, ac yn cloddio gwrthrychau ar hyd y daith er mwyn creu creirfa ynghyd â ffotograffiaeth twll pin. Yn hytrach na defnyddio dull archeoleg dadansoddol modern, mae’n gobeithio archwilio ei ganfyddiadau gan ddefnyddio meddylfryd canoloesol, gan dynnu sylw at y “goruwchnaturiol neu’r cysegredig, i gwestiynu’r da a drwg, yr arwyddion a’r argoelion”.
Sylvia Cullen

Mae’r awdures Sylvia Cullen yn bwriadu creu cyfres newydd o straeon byrion ar gyfer podlediadau a ffrydio byw, gan dynnu ar “hanesion cyffrous am fôr-ladrata a smyglo ar hyd arfordiroedd Cymru ac Iwerddon” a straeon atgofus am fannau cysegredig neu am hiraethu am adref. Bydd hi hefyd yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol yn y ddwy gymuned.
Bydd cael gwylio’r prosiectau hyn yn esblygu ar wahan ac yna’n plethu ynghyd mewn cyflwyniad terfynol yn daith gyffrous i dîm y prosiect ac i’n cynulleidfaoedd.
Dyddiad: Awst 2020 – Rhagfyr 2022
Ariennir gan: Cysylltiadau Hynafol