Categories
Cyfle

Cysylltiadau Hynafol – Llysgenhadon Twristiaeth a Chroesawyr

Cyfle

Llysgenhadon Twristiaeth
a Chroesawyr

Mae’n hanfodol bwysig bod straeon, hanes a threftadaeth leol yn aros yn fyw yn eu cymunedau ac yn gwasanaethu’r economi leol hefyd. Gwaith ein Llysgenhadon Twristiaeth yw dysgu am eu hanes lleol a datblygu sgiliau er mwyn rhannu eu gwybodaeth â’u cymunedau, gydag ymwelwyr a’r diwydiant twristiaeth.

Byddwn yn cynnig hyfforddiant Llysgennad yn 2021 dros 2-3 diwrnod i Lysgenhadon – y rhai sydd ar reng flaen ein diwydiant twristiaeth yn ogystal â gwirfoddolwyr lleol sydd ag amser i ymroi i rannu eu brwdfrydedd am eu milltir sgwâr. Yn ogystal, byddwn yn cynnig  rhaglen fyrrach, hanner diwrnod  o’r enw Croesawyr i’r rhai hynny sy’n chwarae rhan bwysig yn hyrwyddo eu milltir sgŵar, e.e. gyrwyr tacsi, siopwyr, perchnogion bwytai, darparwyr hamdden ac ati.

Y pwrpas yw estyn croeso gwybodus a chynnes sy’n cefnogi ymwelwyr a’r economi dwristiaeth leol. A heb os, mae’n help i gadw gwybodaeth, hanes a straeon yn fyw hefyd.

Rhaglen Cyflenwi Contractwyr:
Dewch yn Llysgennad Twristiaeth
Rhannwch wybodaeth leol ag ymwelwyr.
I wneud cais i ddod yn Llysgennad Twristiaeth a Welcomer, cwblhewch y ffurflen isod a bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad â chi.
Ble rydych chi’n byw?
...
I agree with the Privacy policy
Diolch am y diddordeb, bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.

Dyddiad: Mai 2021

Ariannwyd gan: Cysylltiadau Hynafol

Mewn Partneriaeth â:Cysylltiadau Hynafol

Allgynnyrch Prosiect:
Pecynnau Llysgenhadon
Modiwlau Hyfforddi Llysgenhadon
Modiwlau Hyfforddi Croesawyr
Deunyddiau Adnabod Llysgenhadon / Croesawyr e.e. bathodynnau, siacedi llachar a thystysgrifau
Datganiadau i’r wasg ac erthyglau
Cyfryngau Cymdeithasol

Dysgwch fwy: www.ancientconnections.net/ambassadors

Categories
Celfyddydau

David Begley – Artist Preswyl Wexford


Artistiaid Preswyl

David Begley – Artist Preswyl Wexford

Meddyliwch: cyn i Aeddan Sant gyrraedd, ac yna’r Normaniaid, beth ddenodd pobl yr henfyd i Ferns yn y lle cyntaf? Ai ar hap datgelodd aradr Tom Breen y crair cyntaf yn Clone, a’n harweiniodd ni i brocio tyllau yn y dywarchen, a dyfalu? Pwy blanodd yr hedyn cyntaf? Beth wnaeth i’r llwyth cyntaf fwrw’u gwreiddiau yma, gan adael siarcol a serameg ar eu hôl?”

Roedd y ffermwyr cyntaf yn dilyn tymhorau amlwg. Heddiw, mae’n bwrw eira ym mis Mawrth, mae’r tir yn llosgi ym mis Ebrill ac mae’n tywallt y glaw ym mis Gorffennaf. Felly sut fydd ffermwyr y dyfodol yn ymdopi? Yn ystod sychder 2018, hedfanodd yr archeolegydd Barry Lacey ddrôn dros gae Tom Breen gan ddarganfod lloc eglwysig yn amgylchynu eglwys Clone. O hyn, trefnwyd cloddiad cymunedol yn 2019. Beth fydd cloddiadau’r dyfodol yn ei ddatguddio?

David headshot 2 2

Datguddiadau'r Trywel

“Am ganrifoedd mae mynachod ac artistiaid wedi bod yn chwilio am lonydd ac unigedd er mwyn myfyrio a chreu. Gan ymateb i’r safleoedd mynachaidd yn Fearna a drwy’r weithred o gloddio ac archwilio hanes a threftadaeth ffermio yn Fearna, fy nymuniad yw taro golau ar brydferthwch y lle a’i phobl.

Yn ystod y breswylfa byddaf yn creu fideo ddogfen ar dreftadaeth ffermio yn Fearna, hwyluso prosiect celf weledol, adrodd straeon a garddio 12-wythnos gydag Ysgol Genedlaethol Sant Edan, a chreu corff o with mewn darluniau, print, paentiadau ac ysgrifen. O ddistawrwydd a myfyrdod daw mynegiant. Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i gael penlinio mewn cae a thyrchu o dan y wyneb, cael gogru’r pridd, a chael gweld yr hyn y mae’r trywel yn ei ddatgelu a sut efallai y gallai’r rhain lithro i mewn i fy ngwaith, drwy arsylwi a chofnodi, a thrwy gyfarfod pobl, llefydd, gwrthrychau a straeon. Rwy’n edrych ymlaen at gael rhannu’r hynny rydw i wedi ei ddysgu.

Dwi wedi dechrau ar gerdded a dogfennu gwrych mewn cae 24 erw yn Fearna, gan gasglu deunyddiau a chynhwysion wrth fynd, a chreu inciau gyda’r rhain er mwyn ymateb i gae’r ffermwr yma a’i hanes teuluol cyfareddol.” – David Begley

Dyddiad: Gorffennaf 2020 – Awst 2022

Ariennir gan: Wexford Percent for Art

Dysgwch fwy:
www.davidbegley.com
www.instagram.com/davidbegleyartist
www.facebook.com/davidbegleyartist

Allbwn Prosiect:
Arddangosfa
Gardd Newydd
Ffilm Ddogfen

Categories
Archeoleg

Datguddio’r Gorffennol

Prosiect Archeoleg

Datguddio'r Gorffennol

Bydd prosiect archeolegol ‘Datguddio’r Gorffennol’ yn archwilio safleoedd ym Mhenfro a Gogledd Wexford drwy dirfesur geoffisegol er mwyn datguddio gwybodaeth ynglŷn â’r Eglwys Geltaidd gynnar, Seintiau Celtaidd, eu dilynwyr a’u pererindodau a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddwy ardal, ac felly’n cyfrannu at y stori drawsffiniol. Techneg yw geoffiseg sy’n mesur arwyneb y ddaear a’r hyn sydd oddi tanodd drwy greu signal trydanol sy’n cofnodi ac yn mapio’r archeoleg danddaearol.

O fewn ei heglwysi, ei chapeli a’i mynwentydd, mae tirwedd eglwysig Sir Benfro a Wexford yn cofnodi’r straeon a’r cysylltiadau â Dewi Sant ac Aeddan Sant – atgof o bwysigrwydd lonydd môr yr Iwerydd a gysylltai eglwysi Cymru ac Iwerddon..

Y safleoedd a dargedwyd hyd yn hyn yw:-

Sir Benfro Chwefror 2021.

Fel canolfan esgobol roedd Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ganolbwynt cryn dipyn o weithgaredd eglwysig yn y mileniwm 1af OC, roedd y posibilrwydd o oroesiad nodweddion canoloesol cynharach wedi’i ystyried a chwblhawyd y geoffiseg ar Berllan y Cantor i’r de-orllewin o’r Gadeirlan yn Awst 2020. Mae’r canfyddiadau’n datgelu llawer o weithgaredd gyda nodweddion diddorol sydd o bosibl yn ymwneud â llociau cynharach, wal ffiniol bosib a nodweddion yn gysylltiedig â’r nawdd.

Eglwys Mathri– lloc cylchol mawr o’r canoloesoedd cynnar o amgylch safle sydd o bosib yn rhagflaenydd, o’r 5ed neu 6ed ganrif, y safle eglwysig yn Nhyddewi.

Amgylchoedd Eglwys Llanrhian – lloc eglwys ganoloesol gynnar potensial.

Mynwent Waun y Beddau/Carreg Nymllwyd – mae’r enwau’n awgrymu safle claddu canoloesol cynnar lle mae beddi o ddyddiau canoloesol cynnar eisoes wedi’u canfod.

Capel yr Hen Fynwent – mae’r enw’n awgrymu gweithgaredd canoloesol cynharach neu gynnar ar y safle.

Rosina Vallis/Hodnant – rhagflaenydd posib i’r safle eglwysig diweddarach yn Nhyddewi, wedi’i ddiffinio gan loc gyda darnau o deils llawr canoloesol.

Wexford Awst 2021

Abaty FearnaSefydlwyd ar ddechrau’r 7fedganrif gan Aeddan Sant (a fu farw yn 624), a gai hefyd ei adnabod fel Máedhóg Sant. Bu’n ddisgybl i Dewi Sant, yn ôl yr hanes. Mae tair croes wenithfaen blaen a charreg groes sy’n amlygu gwreiddiau cynharach Fearna. Yn ôl y son, bu farw Diarmait MacMurrough, Brenin Leinster yn Fearna yn 1171 ac fe ddywedir bod darn o groes uchel addurnedig yn y fynwent yn nodi man ei gladdu. Yn ddiweddarach daeth Fearna yn adnabyddus fel Abaty’r Santes Fair, ac mae’n debyg bod y cae yn cynnwys mynachlog gynnar a lloc mynachaidd sydd eisoes wedi ei dargedu fel safle cloddio gan yr Irish Archaeological Field School, a bydd geoffiseg yn helpu gyda’r cloddio.

Eglwys Toombe– mynachlog gynnar mae’n debyg, gyda lloc eglwysig hirgrwn sy’n cynnwys lloc mewnol ac allanol.

Ballyorley Upper– lloc eglwysig cynnar   gyda thraddodiad o fod yn safle eglwys gynnar.

Kilmyshall – safle eglwys  gynnar, mynwent a ffynnon gysegredig mewn lloc hirgrwn.

Dyddiad: Hydref 2019 – Chwefror 2022

Mewn partneriaeth â: DigVentures/MetGeo i Gyngor Sir Penfro, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Wexford a Visit Wexford.

Allbynnau’r Prosiect:
Adroddiad Geoffisegol
Tudalen Brosiect ar wefan DigVentures
Blogiau
Trydariadau
Cymryd rhan mewn Digwyddiadau Geoffisegol
Gweithdai ar sut i wneud Geoffiseg

Dysgwch fwy:
www.archaeology.ie

Categories
Archeoleg

Darganfod Mynachlog Aeddan Sant – Ferns

Prosiect Archeoleg

Darganfod Mynachlog Aeddan Sant - Ferns

Fis Mehefin 2021 bydd IAFS (Ysgol Faes Archeoleg Iwerddon) yn lansio eu cloddiad archeolegol nesaf ar safle Mynachlog Aeddan Sant, Fearna, Swydd Wexford. Nod y prosiect, a sefydlwyd fel partneriaeth rhwng IAFS, Cyngor Swydd Wexford a’r gymuned leol, yw asesu un o’r safleoedd Canoloesol Cynnar mwyaf arwyddocaol yn hanesyddol yn ne-ddwyrain Iwerddonl, sydd heb ei asesu hyd yma. Mae prosiect Mynachlog Aeddan Sant yn canolbwyntio ar gloddiad ymchwil sylweddol y fynachlog o’r 7fed ganrif a’r Abaty Awstinaidd o’r 12fed ganrif, gan obeithio creu ‘atyniad treftadaeth allweddol’ i dref Ferns, ac o ganlyniad rhoi gwerth economaidd ac amwynder ychwanegol i’r gymuned leol.

Safle Hanesyddol o Bwys

Mae’r safle’n gasgliad o nifer o adeiladau, o sawl cyfnod, a sefydlwyd yn wreiddiol gan Aeddan Sant ar droad y 7fed ganrif, sydd hefyd yn cynnwys croesau Canoloesol Cynnar a cherrig croes, Abaty Awstinaidd o’r ddeuddegfed ganrif (a sefydlwyd gan Frenin Leinster, Diarmuid McMurrough), ac eglwys gadeiriol ganoloesol o’r drydedd ganrif ar ddeg (Eglwys Gadeiriol Aeddan Sant) o fewn y safle ehangach. Fodd bynnag, er gwaethaf pwysigrwydd hanesyddol y safle, a’r gwaith archeolegol a gynhaliwyd yno’n ddiweddar, nid yw’r safle’n atyniad treftadaeth amlwg; mae ein gwaith felly yn gam allweddol tuag at sefydlu pwysigrwydd haeddiannol y mynachlogydd o fewn hanesion canoloesol Swydd Wexford y cyfnod Canoloesol Cynnar a’r cyfnod Canoloesol.

Mae lansiad swyddogol yr elfen gloddio yn ystod haf 2021. Fodd bynnag, gwnaed datblygiadau sylweddol yn 2019 o ran arolygon ar yr arwyneb (sganio Lidar 3D ar y safle a Chastell Ferns), asesiadau geoffisegol (ar safle posibl Eglwys Clone) a chloddiad cymunedol fis Rhagfyr 2019 (sydd bellach yn cael ei gwblhau ar gyfer ei gyhoeddi). Rhagwelwyd cynnal Cam 1 y prosiect am dri thymor cloddio, o 2020-2022, ond mae pandemig Covid-19 wedi atal hyn. Ariannwyd cam cyntaf y prosiect yn rhannol gan y fenter Cysylltiadau Hynafol, prosiect celfyddydol a threftadaeth trawsffiniol newydd sy’n cysylltu Gogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford; y gobaith yw cynnal y prosiect am nifer o flynyddoedd i ddod.

Dyddiad: 2021 – 2022

Ariannwyd gan: Cysylltiadau Hynafol, Cyngor Swydd Wexford ac IAFS (Ysgol Faes Archeoleg Iwerddon)

Am fwy o wybodaeth ewch i:
www.iafs.ie/ferns
www.iafs.ie/clone
www.iafs.ie/blog-ferns

Mewn Partneriaeth gyda: Cysylltiadau Hynafol, Cyngor Swydd Wexford ac IAFS (Ysgol Faes Archeoleg Iwerddon)

Allgynnyrch Prosiect: Flog, Blog, Fideos Bach Dogfennol, Adroddiadau, Allgymorth Cyfryngau Cymdeithasol, Digwyddiadau Cymunedol, Cyhoeddiadau, Darlithoedd Cyhoeddus ac ati.

Categories
Cyfle

Helwyr Hanes

Cyfle

Helwyr Hanes

Ydych chi erioed wedi bod ag awydd ymchwilio i’ch hanes teuluol neu leol? Allwch chi ddychmygu’ch hun fel ditectif hanesyddol yn darganfod hanesion coll o lwch hen, hen archifau? A fyddech chi’n mwynhau ymchwilio, ysgrifennu a chyhoeddi blogiau ac erthyglau am archeoleg neu fytholeg eich rhanbarth, neu oes yna storïwr sy’n ysu am ddod i’r golwg? Os felly, mae rhaglen Helwyr Hanes Cysylltiadau Hynafol yn berffaith i chi.

Adrodd Straeon Lleol

Y nod yw cefnogi unigolion chwilfrydig a’r rhai sydd â diddordeb yn eu hanes a’u straeon lleol, i ddatblygu sgiliau a chael eu mentora i gloddio’n effeithiol i orffennol eu cymuned, a rhannu eu dargynfyddiadau. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol ac mae’n gymaint o hwyl. Bydd Helwyr Hanes yn ffurfio grwpiau a rhwydweithiau lleol i gefnogi ei gilydd ac i rannu gwybodaeth a bydd cymorth a mentora gan dîm Cysylltiadau Hynafol.

Mae cyfres o bedwar modiwl hyfforddi rhad ac am ddim wedi’u datblygu i sicrhau bod gan y cyfranogwyr bopeth sydd ei angen arnynt ar gyfer casglu, recordio a rhannu trysorfa o hanes a straeon eu milltir sgwâr. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys sut i gasglu a chofnodi hanes llafar, sut i chwilio ffynonellau archif ar-lein a chyhoeddedig ar gyfer Cymru ac Iwerddon, sut i rannu a chyhoeddi ymchwil ar ffurf erthyglau a blogiau, a sut i adrodd y straeon hyn.


Rhaglen Cyflenwi Contractwyr:

Byddwch yn Heliwr Hanes
Ymchwilio a rhannu straeon.
I wneud cais i fod yn Heliwr Hanes, cwblhewch y ffurflen isod a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi.
Ble rydych chi’n byw?
...
I agree with the Privacy policy
Diolch am eich diddordeb, bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Dyddiad; Ionawr 2020

Ariannwyd gan: Cysylltiadau Hynafol

Cynnyrch y Prosiect:
Pecynnau Hyfforddi Helwyr Hanes
Rhaglen Hyfforddi Helwyr Hanes
Mentora Helwyr Hanes
Datganiadau’r Wasg ac Erthyglau
Cyfryngau Cymdeithasol

Am fwy o wybodaeth ewch i:
www.ancientconnections.net/history-hunters

Categories
Celfyddydau

Fern Thomas Artist Preswyl Sir Benfro

Artist Preswyl

Fern Thomas – Artist Preswyl Sir Benfro

YNYS: “… ac wrth i greiriau, cerrig, esgyrn a straeon o’r ddau le olchi allan i’r môr, ffurfiwyd ynys newydd yn y canol. Man lle mae diwylliant, hanes, breuddwydion, barddoniaeth a chaneuon o bob cyfnod yn cyd-fyw. Ac o’r lle hwn, crëwyd gorsaf radio a ddechreuodd ddarlledu … “

“Ar gyfer y prosiect hwn rwy’n creu gorsaf radio sy’n ‘darlledu’ o YNYS, sef ynys ddychmygol sydd wedi’i lleoli rhwng Sir Benfro a Wexford. Daeth y syniad cychwynol am YNYS o’r erydiad ym Mhorth Mawr, a ddatgelodd gapel Sant Padrig, oedd wedi’i gladdu yno. Mae’r prosiect yn ystyried y posibilrwydd, trwy erydiad arfordirol, y gallai’r holl hanes hwn gael ei olchi i ffwrdd – bod y lleoedd arfordirol hyn yn byw ar ymyl y dibyn, neu ar ymylon hanes.” – Fern Thomas

Cliciwch yma i wrando ar ddarllediadau radio Fern

Man ar gyfer y Gorffennol a'r Dyfodol

“Gan ystyried hyn fel delwedd ehangach rwy’n dychmygu hanes Sir Benfro yn golchi i’r môr a’r un peth yn digwydd yr un pryd i hanes Wexford, ac oddi yma maen nhw’n symud tuag at ei gilydd ac yn cwrdd rhywle yn y canol i greu ynys ddychmygol. Ynys lle gall Dewi Sant eistedd ochr yn ochr â’r tri dyn ifanc o Wexford yn eu canŵ benthyg; lle mae tân bryngaer Boia neu’r môr-forynion oddi ar Borth y Rhaw yr un mor bresennol â’r tywod sy’n erydu ym Mhorth Mawr. Man lle mae’r gorffennol a’r dyfodol yn cyd-gwrdd.

Bydd y gwaith clywedol hwn ar gael fel sawl pennod a fydd yn dilyn datblygiad y prosiect Cysylltiadau Hynafol lle byddaf yn plethu darnau o gyfweliadau gydag aelodau o’r gymuned a chyfranogwyr i’r prosiect Cysylltiadau Hynafol ochr yn ochr â llên gwerin, ymchwil hanesyddol, chwedlau, recordiadau maes o’r safleoedd, a synau o’r gorffennol yn ogystal â’r presennol er mwyn creu stori sain o’r wlad dragwyddol hon. “

“Yn rhan o’r darllediadau byddaf yn cynnig ymatebion barddonol wedi’u hysbrydoli gan y cwestiynau a ofynnir o fewn y prosiect wrth iddo ddatblygu, gan ddilyn dirgelion, straeon a datgeliadau Cysylltiadau Hynafol.

Cymunedau Sir Benfro a Wexford fydd yn penderfynnu ar gynnwys yr orsaf radio trwy ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a sgyrsiau un i un.”-. Fern Thomas

Dyddiad: Gorffennaf 2020 – Awst 2022

Am fwy o wybodaeth ewch i:

www.fernthomas/ynys.com

Allbynnau’r Prosiect:
Podlediadau, digwyddiad seremonïol ac arddangosfa

Categories
Celfyddydau

Seán Vicary

Comisiwn Celf

Seán Vicary

“Rwy’n mynd i fynd ar daith drwy dirwedd sy’n frith o leoedd a threftadaeth fy hynafiaid ar drywydd gwreiddiau fy hen fam-gu ger Ferns.

Gan ddefnyddio iaith a phrosesau archaeoleg fel trosiad, byddaf yn mynd ati i grafu haenau’r dirwedd o’r neilltu er mwyn datgelu naratifau cudd, gan eu casglu i lunio cyfrol bersonol, ddiddorol a chreadigol sy’n symud o ogledd Sir Benfro i ogledd Swydd Wexford a ‘gartref’ eto. Bydd llais, testun, cerddoriaeth, ffilm ac animeiddio’n cyfuno i gynrychioli’r lleoedd hyn, gan greu ymdeimlad dyfnach o hunaniaeth drwy rannu profiadau o ailgysylltu.”

'Nodiadau Maes RAF Tyddewi'

“Darganfyddais yn ddiweddar fod fy hen fam-gu wedi’i geni ym 1874, dim ond 3.5 milltir o Ferns yn Camolin. Roedd hi’n un o ddeg o blant; wn i ddim byd arall amdani hi na’i theulu. Yn yr oes sydd ohoni, lle mae aflonyddwch a gwleidyddiaeth hunaniaeth ffyrnig yn corddi’r dyfroedd, mae’n teimlo’n briodol ystyried o ble y daethon ni er mwyn myfyrio ar ble rydyn ni am fynd. Mae fy ngwreiddiau Gwyddelig i’w gweld yn fy enw, ac eto dydw i erioed wir wedi cydnabod y rhan honno ohonof. Hoffwn i ddod i ddeall y grymoedd a arweiniodd ata’ i’n byw yma draw dros y dŵr o gartref fy hen fam-gu. Drwy fynd ati i gloddio drwy fy ngorffennol fy hun, fe fydda i’n cychwyn proses sy’n adlewyrchu’r gwaith ymchwil archaeolegol a hanesyddol sy’n mynd ymlaen yn y ddwy gymuned.

Fe fydda i’n edrych ar wahanol ymatebion personol i le a thirwedd, lle maen nhw’n gorgyffwrdd, a sut y gallai cynrychiolaeth artistig eu hagor nhw er mwyn i bobl eraill gael eu deall. Dwi’n arbennig o gyffrous am y defnydd o geoffiseg ar gyfer datgelu strwythurau/olion cudd yn y dirwedd ac fe fydda i’n archwilio sut y gellir trin y data a gynhyrchir gan y technegau geoffiseg (gradiometreg magnetig, dargludedd electromagnetig a radar sy’n treiddio’r ddaear) i lunio canlyniad artistig.

Mae rhywbeth deniadol am y broses archaeolegol a dwi’n gweld llawer yn debyg i fy ngwaith fy hun gyda’r ceflfyddydau. Mae pyllau profi a dilyniannau stratigraffig archaeoleg yn mapio cyfnodau yn hanes lleoedd dros amser, gan dorri ar draws ein tirweddau mewnol ac allanol a’n gorfodi i ddychmygu ein dyfodol fel rhan o’r cofnod hwn. Mae meddwl ar raddfeydd amser sy’n ymestyn y tu hwnt i’n hoes ein hunain yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau. Sut allai hyn hefyd effeithio ar ein dealltwriaeth o bryderon y byd modern, tybed?”

Dyddiad: Medi 2020 – Rhagfyr 2020

Categories
Celfyddydau

Linda Norris – what3sherds, Prosiect Archeoleg Dinasyddion

Comisiwn Celf

Linda Norris

Teilchion: Cyfystyron neu dermau cysylltiedig: talch, telchyn

Categori: Arteffact

Diffiniad: Unrhyw ddarn o grochenwaith neudarn o botyn neu lestr pridd arall wedi torri, sydd ag arwyddocâd archeolegol. Maen nhw’n rhan amhrisiadwy o’r cofnod archeolegol an eu bod mewn cyflwr da. Mae’r dadansoddiad o newidiadau cerameg a gofnodwyd mewn teilchion wedi dod yn un o’r technegau sylfaenol a ddefnyddir gan archeolegwyr wrth bennu cydrannau a chyfnodau i amseroedd a diwylliannau.
(Kipfer www.archaeologywordsmith.com 2020)

“Rwy’n arlunydd sy’n gweithio ar draws ffurfiau celf, gan symud o baentio i chwythu gwydr, o gastio i serameg yn fy ymchwiliadau i genius loci, neu ysbryd gwarchodol y dirwedd. Ar gyfer y Comisiwn Cysylltiadau Hynafol, mae gen i ddiddordeb mewn archwilio sut y galla i ddefnyddio archeoleg i ddatgelu ac astudio cysylltiadau dynol â lleoedd eraill, Iwerddon a’r Diaspora Celtaidd yn bennaf. Rydw i bob amser yn chwilio am bethau sy’n fy nghysylltu â’r dirwedd a’r bobl a oedd yn byw yma o’m blaen ac rwy’n cael fy nenu fwyfwy at ‘ddarganfyddiadau’ bach, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, sy’n adrodd straeon sydd heb eu datgelu o’r blaen ac sy’n fy nghysylltu i â’r dirwedd ac â phobl yr ardal.” – Linda Norris

Cysylltiadau gyda'r Gorffennol

“Yn ddiweddar bûm yn canolbwyntio ar deilchion cerameg rwyf wedi dod o hyd iddyn nhw yn fy ngardd ac ar draethau a gwelyau afon wrth i mi fynd am dro’n ddyddiol. Ymhell o swyn metelau gwerthfawr neu henebion enwog, mae teilchion yn adrodd hanesion domestig anhysbys ac yn ein cysylltu â’r bobl oedd yn byw yn ein cartrefi yn y gorffennol.

Ar gyfer y Comisiwn Cysylltiadau Hynafol rwy’n bwriadu cychwyn prosiect ‘archeoleg dinasyddion’ yng Ngogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford yn Iwerddon, ac ymestyn i’r Diaspora Celtaidd. Byddaf yn gwahodd pobl i anfon talch y maen nhw wedi’i ddarganfod yn eu gardd, neu ar deithiau cerdded yn eu hardal leol. Byddaf yn cofnodi, yn ymchwilio ac yn archifo’r darganfyddiadau, ac yn eu hychwanegu at fap ar-lein sydd wedi’i greu ar gyfer y prosiect. Byddaf yn ymgynghori ag archeolegwyr ar y darganfyddiadau a gyflwynwyd rhag ofn bod unrhyw beth a gyflwynir o ddiddordeb archeolegol.”

Diasporas a Disgynyddion

“Fel rhan o’r prosiect hwn, rwyf hefyd yn gobeithio ymchwilio i bobl a ymfudodd o Sir Benfro a Wexford i’r Diaspora yn y 19eg ganrif gan geisio cysylltu â’u disgynyddion. Byddaf yn chwilio am ddarnau bach cerameg o’r lleoedd lle mae’r teuluoedd hynny bellach yn byw ac yn gofyn iddyn nhw anfon ffotograffau, a allai o bosibl ysbrydoli gweithiau celf newydd.

Bydd ffurf y gweithiau celf ffisegol terfynol yn cael eu datblygu mewn perthynas â’r deunydd a ddatgelir yn y broses ymchwil, ond – yn ychwanegol i’r map rhithiol – rwy’n rhagweld ail-greu rhai o’r teilchion mewn gwydr a fydd yn cael ei ymgorffori mewn gwaith celf newydd i’w arddangos ar ddiwedd y Prosiect Cysylltiadau Hynafol.”- Linda Norris

Dyddiad: Medi 2020 – Rhagfyr 2022

Dysgwch fwy ar:www.linda-norris.com

Categories
Archeoleg

Cloddfa Capel Sant Padrig

Prosiect Archeoleg

Cloddfa Capel Sant Padrig

Mae Capel Sant Padrig mewn twmpath tywodlyd, glaswelltog rhwng Llwybr Arfordir Sir Benfro a thraeth sy’n union i’r gogledd o faes parcio ym Morth Mawr, Tyddewi. Yn rhyfeddol o ychydig a wyddir am y capel cyn y cloddio diweddar.

Ym mis Ionawr 2014 cafodd y safle ei ddifrodi pan darodd cyfres o stormydd arfordir gorllewinol Prydain. Cloddiodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Phrifysgol Sheffield, gyda chefnogaeth ariannol gan Cadw a sefydliadau eraill, y rhan o’r safle a ddifrodwyd waethaf dros gyfanswm o wyth wythnos yn 2014, 2015 a 2016. Dengys y cloddiadau bod mynwent wedi bod yno ers diwedd yr wythfed ganrif OC a’i bod wedi dal i gael ei defnyddio tan yr unfed ganrif ar ddeg o leiaf. Codwyd capel o gerrig ar y safle yn y ddeuddegfed neu’r drydedd ganrif ar ddeg – a oedd yn adfail erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Mae tri thymor arall o gloddio yn digwydd fel rhan o’r prosiect Cysylltiadau Hynafol. Digwyddodd y cyntaf o’r rhain dros dair wythnos yn 2019, gyda dau dymor tair wythnos arall wedi’u cynllunio ar gyfer 2021. Yn ystod cyfnod cloddio 2019 cofnodwyd waliau sylfaen pen gorllewinol y capel cerrig, fe’u datgymalwyd yn ofalus ac fe storiwyd y cerrig yn ddiogel – bydd y sylfeini’n cael eu hail-adeiladu ar ôl cwblhau’r cloddio yn 2021. Bydd datgymalu’r sylfeini yn caniatáu cloddio’r beddau a’r dyddodion archeolegol o dan y capel yn ystod 2021. Y tu allan i’r capel, datgelodd cloddiad 2019 sawl claddedigaeth, a nifer ohonynt mewn beddau wedi’u leinio â cherrig, o’r enw beddau cist hir, gan gynnwys rhai â chroesau wedi’u crafu’n ysgafn ar y slabiau gorchudd yn nodi credoau Cristnogol y bobl a gladdwyd ar y safle.

Cyfranogiad y Gymuned

Mae aelodau o’r gymuned leol yn ogystal â gwirfoddolwyr o ymhellach i ffwrdd yn cymryd rhan yn y cloddio o dan oruchwyliaeth archeolegwyr proffesiynol. Y tu hwnt i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r cyfranogwyr ar y cloddio, mae allgymorth cymunedol yn elfen bwysig o’r prosiect ac mae un aelod o staff wedi ymrwymo i gynnal teithiau tywys o gwmpas y gwaith cloddio i ymwelwyr. Rhagwelir y bydd 6000 o ymwelwyr yn cael eu tywys o amgylch y safle yn ystod pob tymor cloddio o dair wythnos.

I ddysgu mwy am ein cloddiadau ewch i:
www.youtube.com

Mae Ymddiriedolaeth Archeoleg Dyfed yn croesawu gwirfoddolwyr ar gyfer cloddiadau Capel St Padrig yn 2021. Yn sgil y niferoedd uchel sy’n awyddus i wirfoddoli ar safleoedd cloddio, bydd manylion ar sut i ddysgu mwy am y cyfle hwn yn cael eu hysbysebu pan fydd y dyddiadau wedi’u cadarnhau ar gyfer y cloddio.

Dyddiad: Gorffennaf 2019 – Mawrth 2022

Ariannwyd gan: Ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gronfa cydweithredol Iwerddon a Cadw

Mewn Partneriaeth gyda:
Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, Prifysgol Sheffield, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Allbynnau’r Prosiect:
Adroddiadau prosiect interim a therfynol. (Cliciwch i lawrlwytho)

‘Dyddiaduron cloddio’ o bob un o’r cyfnodau cloddio blynyddol
Darperir teithiau tywys yn ystod pob cyfnod cloddio
Sgyrsiau â grwpiau a chymdeithasau lleol a chenedlaethol
Eitemau byr ar newyddion a rhaglenni teledu

Dysgwch fwy ar:www.dyfedarchaeology.org.uk