Categories
Newyddion

Lansio cyfres lyfrau ac Albwm Ffynhonnau Sanctaidd

NEWYDDION

Lansio cyfres lyfrau ac albwm Ffynhonnau Sanctaidd yn Theatr Gwaun

Nos Iau 22 Mehefin 7.30 pm, Theatr Gwaun

Ymunwch â ni i ddathlu lansiad Ffynhonnau Sanctaidd Wexford a Sir Benfro, cyfres dairieithog o lawlyfrau a gomisiynwyd gan Gysylltiadau Hynafol ac a gyhoeddwyd gan Parthian. Mae pob llyfr yn trafod ffynhonnau o wahanol bersbectif ac yn cynnwys ysgrifau, cerddi a straeon byrion ochr yn ochr â ffotograffau a phrintiau gan gyfranwyr o Gymru ac Iwerddon. Bydd darlleniadau gan Michelle Dooley Mahon, Diana Powell a Phil Cope a sesiwn holi-ac-ateb gyda Caitriona Dunnet, un o’r artistiaid sydd wedi cyfrannu.
Ar ôl yr egwyl, bydd Jo MacGregor a Dan Messore ynghyd â cherddorion o’r ddwy ochr i Fôr Iwerddon yn perfformio caneuon o’u halbwm newydd Voice of the Wells, sydd wedi’i hysbrydoli gan eu hymweliadau â ffynhonnau sanctaidd yn Wexford a Sir Benfro a’r bobl y gwnaethon nhw gwrdd â nhw ar hyd y daith.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond archebwch trwy Theatr Gwaun i gadw lle neu ffoniwch 01348 873421.
Gallwch brynu’r llyfrau Ffynhonnau Sanctaidd yn y digwyddiad. Maen nhw’n £6 yr un a £25 am y gyfres o 5 llyfr. ARIAN PAROD YN UNIG
Neu os na allwch chi ddod i’r digwyddiad, gallwch brynu’r llyfrau trwywefan Parthian
Categories
Newyddion

Gŵyl Ferns 5 Mehefin 2023 – croeso i bawb!

NEWYDDION

Gŵyl Ferns 5 Mehefin 2023 - croeso i bawb!

Gwyn Ferns 4ydd a 5ed Mehefin

Bydd y digwyddiad hwn yn ddathliad cymunedol go iawn, ac yn nodi penllanw’r prosiect Cysylltiadau Hynafol wrth iddo dynnu i’w derfyn yr haf hwn.

Ysbrydoliaeth Cysylltiadau Hynafol oedd y cyfeillgarwch rhwng Sant Aeddan a Dewi Sant. Mae Gŵyl Ferns wedi mabwysiadu’r thema hon a’r nifer o fythau a chwedlau a rennir gennym ac yn dod â hi’n fyw yn y ffordd mwyaf ysblennydd gyda gorymdaith o bypedau anferth, cerddoriaeth, perfformiadau canoloesol, talent leol a mwy.

Bydd cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Sant Aeddan o 7.30pm, gyda The Allabair Trio a’r côr lleol Chord On Blues Archebwch docynnau yma

Fe welwch chi byped 12 troedfedd o Dewi Sant wedi dod o Sir Benfro; anghenfil môr yn cynrychioli Sant Aeddan yn croesi i Gymru a chwch gwenyn enfawr a haid o wenyn yn cynrychioli Sant Aeddan yn gadael Cymru gyda bendith Dewi a sefydlu’r fynachlog yn Ferns. Gallwch ddisgwyl hyn i gyd a mwy yng Ngorymdaith Gŵyl Ferns fydd yn plethu ei ffordd i’r castell am hanner dydd ar gyfer digwyddiadau’r dathlu.

Bydd yr Horsemen of Éire, a fydd yn marchogaeth gyda’r orymdaith mewn
gwisgoedd canoloesol, yn creu’r naws ar gyfer y dathliadau i ddilyn yn y castell. Yn arwain yr orymdaith fydd Bloco Garman, band drymio Celtaidd lleol.

Awydd cymryd rhan? Ymunwch yn y gweithdai gyda’r artist Caoimhe Dunn.

Dysgwch fwy am hyn a beth arall sy’n digwydd ar gyfer Gŵyl Ferns ar Facebook

neu ar wefan pentref Ferns

Categories
Newyddion Pererindod

Ffair Pererinion yn Llys yr Esgob, Tyddewi

NEWYDDION

Ffair Pererinion yn Llys yr Esgob, Tyddewi

Dydd Llun 29ain Mai – Ffair Pererinion Llys yr Esgob, Tyddewi

AM DDIM a chroeso cynnes i bawb!
Mae’r Ffair Pererinion yn argoeli i fod yn achlysur arbennig ar 29ain Mai yn Llys yr Esgob, Tyddewi o 11am-6pm gyda rhaglen o berfformiadau, canu, teithiau tywys, marchnad ganoloesol, arddangosiadau sgiliau traddodiadol a dangosiadau ffilmiau. Mae’n nodi llwyddiannau prosiect Cysylltiadau Hynafol yng Nghymru a lansiad Llwybr Pererinion Wexford Sir Benfro, gyda dathliad o gymunedau ddoe a heddiw a chysylltiadau’r gorffennol a’r dyfodol rhwng Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro.
Mae diwrnod y Ffair Pererinion yn dechrau gydag Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro yn ymuno i arwain taith dywys sy’n cysylltu Aeddan Sant a Dewi Sant. Bydd y grŵp yn dechrau gyda pherfformiad cerddorol gan Gôr Pawb a’r prosiect Pererin Wyf / I’m a pilgrim, gan fynd ar ei ffordd ar hyd llwybr at lwybr yr arfordir ac ymweld â ffynnon sanctaidd y Santes Non. Os fyddwch wedi methu taith gerdded y bore, bydd cyfleoedd i ymuno â meicro-bererindodau o amgylch Eglwys Gadeiriol Tyddewi drwy gydol y dydd. Archebwch eich lle ar daith gerdded
Mae Côr Pawb, Span Arts yn eich gwahodd i’r Canu Mawr / The Big Sing, rhaglen fer o ganeuon pererindod a berfformir yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim a bydd yn gorffen drwy ganu ‘Pererin Wyf’ gan William Williams, Pantycelyn, yn ddigyfeiliant. Bydd yr Eglwys Gadeiriol ym ffrydio’r cyngerdd yn fyw. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno cliciwch yma.
Mae’n bleser gan Ganolfan Byd Bychan ddychwelyd gyda’r pyped anferth o Dewi Sant ac anghenfil môr newydd 6m o hyd mewn gorymdaith gyda cherddorion a disgyblion o Ysgol Penrhyn Dewi. Dewch i ymuno â’r hwyl am 2pm mewn Gorymdaith Bererinion o Sgwâr y Groes i dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Bydd Dewi Sant yn ymweld â chychod gwenyn anferth gwaith celf Bedwyr Williams, ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ ar ei ffordd i’r dathliadau yn y Ffair. Darganfyddwch fwy am y cychod gwenyn yma.
Bydd amrywiaeth o stondinau cyffrous sy’n arddangos rhai o’r nwyddau gorau sydd gan yr ardal i’w cynnig mewn marchnad ganoloesol fywiog. Bydd stondinau’n gwerthu bwyd a diod blasus hefyd, wedi’u gwneud o gynhwysion lleol. Bydd yna ddidanwyr direidus, cerddorion crwydrol a gwerthwyr creiriau sanctaidd a pherfformiadau annisgwyl. Manylion am y farchnad ganoloesol a’r hyn fydd ar gael i ddod yn fuan.
Cewch olwg ar y crefftau a’r sgiliau traddodiadol a ddefnyddiwyd i adeiladu Llys yr Esgob ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ymunwch â chrefftwyr Canolfan Tywi yn eu pabell fawr wrth iddyn nhw rannu eu gwybodaeth am adeiladau hanesyddol ac arddangos gwaith plastr addurniadol, cerfio carreg, toi, a gwneud ffenestri traddodiadol ymhlith pethau eraill. Cewch fwy o wybodaeth yma canolfantywi.org.uk
Gallwch fwynhau effaith y prosiect Cysylltiadau Hynafol trwy gyfres o ffilmiau a ddangosir yng naeargelloedd y Llys. Mae’r ffilmiau’n cynnwys comisiynau artistiaid a chymunedol o Gymru ac Iwerddon. Bydd rhestr o ddangosiadau ffilm a gwneuthurwyr ffilm yn dod yn fuan.
Ac yn olaf, dewch draw i’r cyngherdd awyr agored gyda cherddoriaeth hynafol o Gymru a’r gwledydd Celtaidd yn cael ei pherfformio gan y cerddorion gwerin enwog Julie Murphy, Ceri Rhys Matthews a Jess Ward. Cyfeiliant cerddorol perffaith i ddathliad godidog yn lleoliad hanesyddol trawiadol adfeilion y Llys.
Categories
Newyddion Pererindod

Caminos Creadigol Byr yn Sir Benfro

NEWYDDION

Caminos Creadigol Bach yn Sir Benfro

Dydd Sadwrn 20fed Mai a 10fed Mehefin

Dau olwg artistig ar hanfod pererindod ar hyd Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro gydag Ailsa Richardson a Suzi MacGregor

Dydd Sadwrn 20fed Mai
(yn Neuadd Bentref St Nicholas)

teimlo’ch traed (gwyllt) ar y ddaear gydag Ailsa

mae talu sylw yn fath o sicrhau cydbwysedd â’r byd byw, gan dderbyn rhoddion â llygaid agored a chalon agored
(Robin Wall Kimmerer)

Bydd Ailsa’n cynnig arferion syml o’i phecyn wildfeet i wella presenolrwydd, ymwybyddiaeth ofalgar a’r dychymyg. Mae’r arferion hyn yn tynnu sylw at yr holl leisiau a doethineb sydd ar gael i ni yn yr amgylchedd/byd byw, y gellir ‘mynd â nhw adref’ er mwyn cyfoethogi eich profiad o gerdded a phererindod. Mae hyn yn aml yn golygu rhoi rhai o’n ffyrdd arferol o ymateb o’r neilltu er mwyn caniatáu i’n perthynas â natur ac a’n gilydd ymddangos yn llawnach. Yn chwareus ac o ddifrif, byddwn yn archwilio cerdded ac ysgrifennu, yn cynnwys gwahanol ffyrdd o dalu sylw, ac yn cynnwys agwedd benodol Ailsa at ‘gerdded gyda chwestiwn’.

Cysylltwch ag Ailsa ailsajr@btinternet.com

Dydd Sadwrn 10fed Mehefin
(yn Neuadd Bentref Llanrhian)

Darganfod Lleisiol a Chân gyda Suzi

“Eich llais yw’r enaid, yr hunan wedi’i gorffori. Gallwn ei drin sut bynnag yr hoffwn ni: sibrydion tawel, crawciau deniadol, treiddgar, swnllyd, taer, cariadus, melys, canu. Ond … gall y llais fod fel gwên ffug: yn sownd ac yn anghyfforddus. Felly’n araf bach, ymestynwch, heriwch ac archwiliwch eich llais – mae ganddo’r potensial i gynnwys pob mynegiant.”

Gan ddefnyddio ei hyfforddiant lleisiol, ei dawn gerddorol a’i phrofiad o fyrfyfyrio, mae Suzi’n eich gwahodd i ddechrau ymchwiliad i ‘lais’ – mewn ymateb i’n gwlad a hanfod pererindod/camino. Cyfieithiad Camino yw “y llwybr” neu “y ffordd”, ac mae Suzi’n aml wedi canfod bod y llais, a chanu yn arbennig, wedi bod yn llwybr neu’n ffordd i ddarganfod a dyfnhau perthynas â chi’ch hun, ag eraill, ac â’ch amgylchedd. Mae hwn yn weithdy hwyliog a chynhwysol, ar gyfer POB llais. Gallwch ddisgwyl ymarferion lleisiol, archwiliadau dychmygus o wead a thôn lleisiol, cylchoedd rhannu, gemau byrfyfyr hwyliog, a chanu harmonïau twymgalon gyda’ch gilydd yn y gwyllt!

Cysylltwch â Suzi suzinaomi@gmail.com

Cost – mae’r gost ar raddfa symudol o £45-£90 am bob diwrnod
neu’r ddau weithdy am £80-£170, a chofiwch ddal i gysylltu â ni os na allwch chi fforddio’r gost.

Categories
Celfyddydau

Comisiynau Artistiaid

Prosiect Celfyddydau

Comisiynau Artistiaid

Mae Cysylltiadau Hynafol wedi comisiynu comisiynau newydd gan bedwar artist, sy’n archwilio themâu cydgysylltiedig sydd wrth graidd y prosiect, gan gynnwys: pererindod, cysylltu gyda diaspora Celtaidd Iwerddon a Chymru, a’n perthynas â mannau sanctaidd megis ffynhonnau, capeli a safleoedd hynafol.

Bydd yr artistiaid yn cynhyrchu gweithiau celf newydd dros y ddwy flynedd nesaf, wedi’u ysbrydoli gan eu hymchwil bersonol yn ogystal â chanfyddiadau timau Cysylltiadau Hynafol o helwyr straeon, ymchwilwyr cymunedol ac archeolegwyr. Bydd disgwyl i bob artist greu gwaith all gael ei rannu ar-lein, er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd lleol a phobl sydd lawer ymhellach, er enghraifft yn Awstralia neu Ogledd America, lle mae poblogaethau sylweddol o bobl o dras Cymreig a Gwyddelig. Bydd yr artistiaid hefyd yn cyflwyno’u gwaith mewn arddangosfa gyhoeddus derfynol yn Wexford a Sir Benfro yn 2022.

Y pedwar artist yw Seán Vicary a Linda Norris, dau artist gweledol o Orllewin Cymru, a’r artist/archeolegydd John Sunderland a’r awdures Sylvia Cullen, o dde-ddwyrain Iwerddon.

Linda Norris

‘Plât Williams Leatham’ o gyfres Cân yr Oer Wynt, decal seramig ar hen lestr

Bwriad Linda Norris yw defnyddio ‘teilchion’ neu ddarnau o grochenwaith fel man dechrau ei phrosiect, ac mae’n annog pobl i anfon teilchion ati a’u lleoli ar fap ar-lein. Meddai:

“Ymhell o swyn metelau gwerthfawr neu henebion enwog, mae teilchion yn adrodd hanesion domestig anhysbys ac yn ein cysylltu â’r bobl oedd yn byw yn ein cartrefi yn y gorffennol. Rwy’n bwriadu dechrau prosiect ‘archeoleg dinasyddion’ yn Sir Benfro a Wexford, ac yna’i ymestyn i’r Diaspora Celtaidd. Byddaf yn ymchwilio’r bobl a ymfudodd o’r ardaloedd hyn i’r Diaspora yn y 19eg ganrif ac yn ceisio dod o hyd i’w disgynyddion.”

Seán Vicary

'Nodiadau Maes RAF Tyddewi'

Yn ddiweddar, darganfyddodd yr artist aml-gyfrwng Seán Vicary bod ei hen fam-gu wedi ei geni yn 1874, a hynny dim ond 3.5 milltir o Ferns yn Camolin ac mae’n gobeithio gallu:

“Deall y grymoedd a arweiniodd ata i’n byw yma draw dros y dŵr o gartref fy hen fam-gu. Drwy fynd ati i gloddio drwy fy ngorffennol fy hun, fe fydda i’n cychwyn proses sy’n adlewyrchu’r gwaith ymchwil archeolegol a hanesyddol sy’n mynd ymlaen yn y ddwy gymuned.”

Fe fydd yn darganfod y ‘straeon cudd’ yn y dirwedd ac yn eu gweithio’n greadigol i mewn i deithlyfr personol gafaelgar sy’n symud yn ôl ac ymlaen rhwng Sir Benfro a Wexford.

“Bydd llais, testun, cerddoriaeth, ffilm ac animeiddiad yn cyfuno i ddangos y llefydd hyn mewn modd cyffrous a chyfoes; gan adeiladu ymdeimlad dyfnach o hunaniaeth drwy rannu profiadau o ailgysylltu.”

John Sunderland

'The Shooting Hut' (Site 1, Visit 9) o brosiect 'Touching Darkness' (2019)

Bydd yr archeolegydd hyfforddedig ac artist gweledol John Sunderland yn ymgymryd â phererindod o Borth Mawr i Ferns, ac yn cloddio gwrthrychau ar hyd y daith er mwyn creu creirfa ynghyd â ffotograffiaeth twll pin. Yn hytrach na defnyddio dull archeoleg dadansoddol modern, mae’n gobeithio archwilio ei ganfyddiadau gan ddefnyddio meddylfryd canoloesol, gan dynnu sylw at y “goruwchnaturiol neu’r cysegredig, i gwestiynu’r da a drwg, yr arwyddion a’r argoelion”.

Sylvia Cullen

Clawr drama Sylvia Cullen, The Thaw, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon, a gynhyrchwyd gan Ganolfan Gelfyddydau Courthouse yn Tinahely, a gyhoeddwyd gan New Island Books, ac a ysbrydolwyd gan bobl Gogledd Wexford, De Wicklow a Dwyrain Ceatharlach

Mae’r awdures Sylvia Cullen yn bwriadu creu cyfres newydd o straeon byrion ar gyfer podlediadau a ffrydio byw, gan dynnu ar “hanesion cyffrous am fôr-ladrata a smyglo ar hyd arfordiroedd Cymru ac Iwerddon” a straeon atgofus am fannau cysegredig neu am hiraethu am adref. Bydd hi hefyd yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol yn y ddwy gymuned.

Bydd cael gwylio’r prosiectau hyn yn esblygu ar wahan ac yna’n plethu ynghyd mewn cyflwyniad terfynol yn daith gyffrous i dîm y prosiect ac i’n cynulleidfaoedd.

Dyddiad: Awst 2020 – Rhagfyr 2022

Ariennir gan: Cysylltiadau Hynafol

Categories
Pererindod

Trosolwg o bererindota – y resymeg dros lwybr newydd

Prosiect Celf

Trosolwg o bererindota - y resymeg dros lwybr newydd

Mae Pererindota’n gysyniad hynafol sy’n ymestyn yn ôl drwy hanes ar draws ffiniau diwylliannol a chrefyddol, hanesyddol ac economaidd, gan anwybyddu hil a rhywedd. Mae llawer yn dadlau bod pererindota’n diwallu angen sylfaenol sydd gan bobl am ailgysylltu â’u hunain drwy’r broses syml o roi un droed o flaen y llall ar y daith i fan cysegredig neu arbennig.

Mae Cysylltiadau Hynafol yn ailddarganfod cysylltiadau hanesyddol a straeon hynafol sy’n cysylltu cymunedau a diwylliant Gogledd Sir Benfro â’u cymheiriaid ar arfordir Dwyreiniol Swydd Wexford. Yn benodol, mae’n archwilio’r cysylltiad rhwng dinas Tyddewi a phentref Fearna, dau safle arwyddocaol sy’n gysylltiedig â’r eglwys Geltaidd gynnar. Astudiodd Aeddan Sant yng Nghymru gyda Dewi Sant ac yna fe deithiodd i Swydd Wexford lle sefydlodd ei fynachlog ei hun yn Ferns.

Mae Tyddewi wedi bod yn gyrchfan i bererinion ers yr oesoedd canol ac mae’n dal i fod felly heddiw. Mae pobl yn cael eu denu i’r ardal am lawer o resymau, er mwyn adfywio’r corff, y meddwl a’r enaid. Fe’i cydnabyddir fel lle arbennig, lle ‘tenau’ i’r Celtiaid: man lle mae calonnau’n cael eu hagor ac emosiynau’n cael eu cyffwrdd.

Nid yw pererindod fodern o reidrwydd yn grefyddol na hyd yn oed yn ysbrydol; yn hytrach, mae’n gyfle i fyfyrio, cysylltu a darganfod, gan efallai ddod o hyd i ymdeimlad newydd o bwrpas, cyfeiriad a llesiant. Mae pererindota’n dod yn fwyfwy poblogaidd heddiw gyda rhaglenni teledu fel Pilgrimage; The Road to Rome a The Road to Santiago. Mae llwybr pererinion Santiago de Compostella, a gafodd hwb gan gyllid gan yr UE ym 1987, wedi bod yn llwyddiant mawr gyda niferoedd y teithwyr yn cynyddu o lai na 3,000 y flwyddyn i dros 300,000 erbyn hyn.

Llwybr Newydd - Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro

Bydd 2023 yn nodi 900 mlynedd ers i’r Pab Callixtus II ddatgan bod dau bererindod i Dyddewi gyfystyr ag un i Rufain. Mae’r dyddiad hwn a’r prosiect Cysylltiadau Hynafol yn fan lansio ar gyfer dechrau adeiladu llwybr pererindod ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon. Tybed allai twristiaeth pererindota/drawsnewidiol fod mor llwyddiannus yn Swydd Wexford a Sir Benfro ag yng Ngogledd Sbaen?

Mae Cysylltiadau Hynafol yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain i greu’r llwybr newydd. Ym Mai 2022, cynhaliwyd y Camino Creadigol arloesol, taith arbrofol dan arweiniad tywyswyr Journeying sydd wedi’u lleoli yn Sir Benfro a Wexford Trails. Yn teithio gyda nhw roedd criw o artistiaid a phererinion cymunedol, a ymatebodd yn greadigol i’r profiad.

Mae’r llwybr bellach wedi’i fapio a bydd ar agor i’r cyhoedd yn 2023 ar gyfer teithiau tywys a hunan-dywys. Ar hyn o bryd, mae cyfleoedd i dreialu’r llwybr ar deithiau dydd dan arweiniad tywyswyr profiadol. Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth am y llwybr a sut y gallwch chi gymryd rhan

Dyddiad: Parhaus