Categories
Newyddion Pererindod

Ffair Pererinion yn Llys yr Esgob, Tyddewi

NEWYDDION

Ffair Pererinion yn Llys yr Esgob, Tyddewi

Dydd Llun 29ain Mai – Ffair Pererinion Llys yr Esgob, Tyddewi

AM DDIM a chroeso cynnes i bawb!
Mae’r Ffair Pererinion yn argoeli i fod yn achlysur arbennig ar 29ain Mai yn Llys yr Esgob, Tyddewi o 11am-6pm gyda rhaglen o berfformiadau, canu, teithiau tywys, marchnad ganoloesol, arddangosiadau sgiliau traddodiadol a dangosiadau ffilmiau. Mae’n nodi llwyddiannau prosiect Cysylltiadau Hynafol yng Nghymru a lansiad Llwybr Pererinion Wexford Sir Benfro, gyda dathliad o gymunedau ddoe a heddiw a chysylltiadau’r gorffennol a’r dyfodol rhwng Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro.
Mae diwrnod y Ffair Pererinion yn dechrau gydag Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro yn ymuno i arwain taith dywys sy’n cysylltu Aeddan Sant a Dewi Sant. Bydd y grŵp yn dechrau gyda pherfformiad cerddorol gan Gôr Pawb a’r prosiect Pererin Wyf / I’m a pilgrim, gan fynd ar ei ffordd ar hyd llwybr at lwybr yr arfordir ac ymweld â ffynnon sanctaidd y Santes Non. Os fyddwch wedi methu taith gerdded y bore, bydd cyfleoedd i ymuno â meicro-bererindodau o amgylch Eglwys Gadeiriol Tyddewi drwy gydol y dydd. Archebwch eich lle ar daith gerdded
Mae Côr Pawb, Span Arts yn eich gwahodd i’r Canu Mawr / The Big Sing, rhaglen fer o ganeuon pererindod a berfformir yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé / I am a Pilgrim a bydd yn gorffen drwy ganu ‘Pererin Wyf’ gan William Williams, Pantycelyn, yn ddigyfeiliant. Bydd yr Eglwys Gadeiriol ym ffrydio’r cyngerdd yn fyw. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno cliciwch yma.
Mae’n bleser gan Ganolfan Byd Bychan ddychwelyd gyda’r pyped anferth o Dewi Sant ac anghenfil môr newydd 6m o hyd mewn gorymdaith gyda cherddorion a disgyblion o Ysgol Penrhyn Dewi. Dewch i ymuno â’r hwyl am 2pm mewn Gorymdaith Bererinion o Sgwâr y Groes i dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Bydd Dewi Sant yn ymweld â chychod gwenyn anferth gwaith celf Bedwyr Williams, ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ ar ei ffordd i’r dathliadau yn y Ffair. Darganfyddwch fwy am y cychod gwenyn yma.
Bydd amrywiaeth o stondinau cyffrous sy’n arddangos rhai o’r nwyddau gorau sydd gan yr ardal i’w cynnig mewn marchnad ganoloesol fywiog. Bydd stondinau’n gwerthu bwyd a diod blasus hefyd, wedi’u gwneud o gynhwysion lleol. Bydd yna ddidanwyr direidus, cerddorion crwydrol a gwerthwyr creiriau sanctaidd a pherfformiadau annisgwyl. Manylion am y farchnad ganoloesol a’r hyn fydd ar gael i ddod yn fuan.
Cewch olwg ar y crefftau a’r sgiliau traddodiadol a ddefnyddiwyd i adeiladu Llys yr Esgob ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ymunwch â chrefftwyr Canolfan Tywi yn eu pabell fawr wrth iddyn nhw rannu eu gwybodaeth am adeiladau hanesyddol ac arddangos gwaith plastr addurniadol, cerfio carreg, toi, a gwneud ffenestri traddodiadol ymhlith pethau eraill. Cewch fwy o wybodaeth yma canolfantywi.org.uk
Gallwch fwynhau effaith y prosiect Cysylltiadau Hynafol trwy gyfres o ffilmiau a ddangosir yng naeargelloedd y Llys. Mae’r ffilmiau’n cynnwys comisiynau artistiaid a chymunedol o Gymru ac Iwerddon. Bydd rhestr o ddangosiadau ffilm a gwneuthurwyr ffilm yn dod yn fuan.
Ac yn olaf, dewch draw i’r cyngherdd awyr agored gyda cherddoriaeth hynafol o Gymru a’r gwledydd Celtaidd yn cael ei pherfformio gan y cerddorion gwerin enwog Julie Murphy, Ceri Rhys Matthews a Jess Ward. Cyfeiliant cerddorol perffaith i ddathliad godidog yn lleoliad hanesyddol trawiadol adfeilion y Llys.
Categories
Newyddion Pererindod

Caminos Creadigol Byr yn Sir Benfro

NEWYDDION

Caminos Creadigol Bach yn Sir Benfro

Dydd Sadwrn 20fed Mai a 10fed Mehefin

Dau olwg artistig ar hanfod pererindod ar hyd Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro gydag Ailsa Richardson a Suzi MacGregor

Dydd Sadwrn 20fed Mai
(yn Neuadd Bentref St Nicholas)

teimlo’ch traed (gwyllt) ar y ddaear gydag Ailsa

mae talu sylw yn fath o sicrhau cydbwysedd â’r byd byw, gan dderbyn rhoddion â llygaid agored a chalon agored
(Robin Wall Kimmerer)

Bydd Ailsa’n cynnig arferion syml o’i phecyn wildfeet i wella presenolrwydd, ymwybyddiaeth ofalgar a’r dychymyg. Mae’r arferion hyn yn tynnu sylw at yr holl leisiau a doethineb sydd ar gael i ni yn yr amgylchedd/byd byw, y gellir ‘mynd â nhw adref’ er mwyn cyfoethogi eich profiad o gerdded a phererindod. Mae hyn yn aml yn golygu rhoi rhai o’n ffyrdd arferol o ymateb o’r neilltu er mwyn caniatáu i’n perthynas â natur ac a’n gilydd ymddangos yn llawnach. Yn chwareus ac o ddifrif, byddwn yn archwilio cerdded ac ysgrifennu, yn cynnwys gwahanol ffyrdd o dalu sylw, ac yn cynnwys agwedd benodol Ailsa at ‘gerdded gyda chwestiwn’.

Cysylltwch ag Ailsa ailsajr@btinternet.com

Dydd Sadwrn 10fed Mehefin
(yn Neuadd Bentref Llanrhian)

Darganfod Lleisiol a Chân gyda Suzi

“Eich llais yw’r enaid, yr hunan wedi’i gorffori. Gallwn ei drin sut bynnag yr hoffwn ni: sibrydion tawel, crawciau deniadol, treiddgar, swnllyd, taer, cariadus, melys, canu. Ond … gall y llais fod fel gwên ffug: yn sownd ac yn anghyfforddus. Felly’n araf bach, ymestynwch, heriwch ac archwiliwch eich llais – mae ganddo’r potensial i gynnwys pob mynegiant.”

Gan ddefnyddio ei hyfforddiant lleisiol, ei dawn gerddorol a’i phrofiad o fyrfyfyrio, mae Suzi’n eich gwahodd i ddechrau ymchwiliad i ‘lais’ – mewn ymateb i’n gwlad a hanfod pererindod/camino. Cyfieithiad Camino yw “y llwybr” neu “y ffordd”, ac mae Suzi’n aml wedi canfod bod y llais, a chanu yn arbennig, wedi bod yn llwybr neu’n ffordd i ddarganfod a dyfnhau perthynas â chi’ch hun, ag eraill, ac â’ch amgylchedd. Mae hwn yn weithdy hwyliog a chynhwysol, ar gyfer POB llais. Gallwch ddisgwyl ymarferion lleisiol, archwiliadau dychmygus o wead a thôn lleisiol, cylchoedd rhannu, gemau byrfyfyr hwyliog, a chanu harmonïau twymgalon gyda’ch gilydd yn y gwyllt!

Cysylltwch â Suzi suzinaomi@gmail.com

Cost – mae’r gost ar raddfa symudol o £45-£90 am bob diwrnod
neu’r ddau weithdy am £80-£170, a chofiwch ddal i gysylltu â ni os na allwch chi fforddio’r gost.

Categories
Celfyddydau

Sylvia Cullen – Smugglers and Summer Snowflakes

Comisiwn Celf

Sylvia Cullen

Bydd Smugglers and Summer Snowflakes yn gasgliad newydd o straeon byrion sy’n ymateb yn arbennig i themâu Cysylltiadau Hynafol o deithio, lleoedd cysegredig, y diaspora Celtaidd a hiraeth. Wedi fy ysbrydoli gan Hel Straeon 2019, a gan ddefnyddio fy mhroses benodol fy hun o Gyfnewidiadau Creadigol gyda chymunedau lleol, byddaf yn creu’r casgliad newydd hwn, gan leoli dwy stori yn Wexford a dwy arall yn Sir Benfro.

Mae’r Summer Snowflake’ neu eirïaidd yr haf yn flodyn prydferth, prin a gwenwynig sy’n gynhenid i Wexford; mae’n symbol o’r elfennau dylai pob stori fer dda eu cynnwys. Mae Smyglwyr yn awgrymu’n ddigon amlwg o ble y bydda i’n cael ysbrydoliaeth ar gyfer y casgliad yma – o’r straeon dramatig am fôr-ladrata a smyglo ar hyd arfordir Cymru ac Iwerddon.

Caiff y straeon eu dosbarthu’n ddigidol a’u rhannu ar-lein fel cyfres o bodlediadau ar gyfer y diaspora Celtaidd, yn ogystal â chael ei gyhoeddi ar ffurf llyfr. Byddant hefyd yn cael eu darlledu ar radio leol yng Nghymru a Wexford.

Rhannu Gorffennol

“Dwi’n awdur cefn gwlad, yn byw yng Ngogledd Wexford. Ar gyfer Cysylltiadau Hynafol, byddaf yn llunio gwaith newydd sydd wedi ei ysbrydoli gan yr hanes sy’n gyffredin i ddwy ochr Mor Iwerddon, er mwyn ysbrydoli ein presennol. Mae’r comisiwn yn gyfle gwych i archwilio’r cydgysylltiad rhwng y ddwy ardal, gan greu straeon sy’n swyno ac yn aros ym meddyliau’r rhai hynny sy’n gwrando arnyn nhw neu’n eu darllen, ble bynnag yn y byd maen nhw’n byw.”

Cyfnewid Creadigol

“Fel rhan o’r broses ymchwil, byddaf yn hwyluso nifer o Gyfnewidfeydd Creadigol gyda grwpiau cymunedol yng Nghymru ac yn Wexford. Rwy’n gweld y rhyngweithio yma fel cyfnewid dwyffordd o hanes llafar ac ymchwil lleol. Byddaf yn hwyluso gweithdy ysgrifennu creadigol ar gyfer nifer o grwpiau ac yn gyfnewid, bydd cyfranogwyr yn cynnig eu persbectif a’u barn ar bedair   thema   Cysylltiadau Hynafol.” – Sylvia Cullen

Clawr drama Sylvia Cullen, The Thaw, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon, a gynhyrchwyd gan Ganolfan Gelfyddydau Courthouse yn Tinahely, a gyhoeddwyd gan New Island Books, ac a ysbrydolwyd gan bobl Gogledd Wexford, De Wicklow a Dwyrain Carlow.

Dyddiad: Medi 2020 – Rhagfyr 2022

Ariennir gan: Cysylltiadau Hynafol

Allbynnau’r Prosiect:
Straeon Byrion Newydd
Podlediadau a darllediadau radio
Lansiad llyfr yr arddangosfa derfynol

Categories
Celfyddydau

Fern Thomas Artist Preswyl Sir Benfro

Artist Preswyl

Fern Thomas – Artist Preswyl Sir Benfro

YNYS: “… ac wrth i greiriau, cerrig, esgyrn a straeon o’r ddau le olchi allan i’r môr, ffurfiwyd ynys newydd yn y canol. Man lle mae diwylliant, hanes, breuddwydion, barddoniaeth a chaneuon o bob cyfnod yn cyd-fyw. Ac o’r lle hwn, crëwyd gorsaf radio a ddechreuodd ddarlledu … “

“Ar gyfer y prosiect hwn rwy’n creu gorsaf radio sy’n ‘darlledu’ o YNYS, sef ynys ddychmygol sydd wedi’i lleoli rhwng Sir Benfro a Wexford. Daeth y syniad cychwynol am YNYS o’r erydiad ym Mhorth Mawr, a ddatgelodd gapel Sant Padrig, oedd wedi’i gladdu yno. Mae’r prosiect yn ystyried y posibilrwydd, trwy erydiad arfordirol, y gallai’r holl hanes hwn gael ei olchi i ffwrdd – bod y lleoedd arfordirol hyn yn byw ar ymyl y dibyn, neu ar ymylon hanes.” – Fern Thomas

Cliciwch yma i wrando ar ddarllediadau radio Fern

Man ar gyfer y Gorffennol a'r Dyfodol

“Gan ystyried hyn fel delwedd ehangach rwy’n dychmygu hanes Sir Benfro yn golchi i’r môr a’r un peth yn digwydd yr un pryd i hanes Wexford, ac oddi yma maen nhw’n symud tuag at ei gilydd ac yn cwrdd rhywle yn y canol i greu ynys ddychmygol. Ynys lle gall Dewi Sant eistedd ochr yn ochr â’r tri dyn ifanc o Wexford yn eu canŵ benthyg; lle mae tân bryngaer Boia neu’r môr-forynion oddi ar Borth y Rhaw yr un mor bresennol â’r tywod sy’n erydu ym Mhorth Mawr. Man lle mae’r gorffennol a’r dyfodol yn cyd-gwrdd.

Bydd y gwaith clywedol hwn ar gael fel sawl pennod a fydd yn dilyn datblygiad y prosiect Cysylltiadau Hynafol lle byddaf yn plethu darnau o gyfweliadau gydag aelodau o’r gymuned a chyfranogwyr i’r prosiect Cysylltiadau Hynafol ochr yn ochr â llên gwerin, ymchwil hanesyddol, chwedlau, recordiadau maes o’r safleoedd, a synau o’r gorffennol yn ogystal â’r presennol er mwyn creu stori sain o’r wlad dragwyddol hon. “

“Yn rhan o’r darllediadau byddaf yn cynnig ymatebion barddonol wedi’u hysbrydoli gan y cwestiynau a ofynnir o fewn y prosiect wrth iddo ddatblygu, gan ddilyn dirgelion, straeon a datgeliadau Cysylltiadau Hynafol.

Cymunedau Sir Benfro a Wexford fydd yn penderfynnu ar gynnwys yr orsaf radio trwy ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a sgyrsiau un i un.”-. Fern Thomas

Dyddiad: Gorffennaf 2020 – Awst 2022

Am fwy o wybodaeth ewch i:

www.fernthomas/ynys.com

Allbynnau’r Prosiect:
Podlediadau, digwyddiad seremonïol ac arddangosfa

Categories
Celfyddydau

Comisiwn Celf Gyhoeddus ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ Bedwyr Williams, Tyddewi a Ferns

Prosiect Celf

Comisiwn Celf Gyhoeddus 'Gwnewch y Pethau Bychain' yn Ferns a Thyddewi gan Bedwyr Williams

Comisiynwyd yr artist Bedwyr Williams i greu gwaith celf cyhoeddus parhaol ar gyfer Tyddewi a Ferns fel gwaddol i’r raglen Cysylltiadau Hynafol.

Wedi’i ysbrydoli gan stori Sant Aidan, Dewi Sant a’r gwenyn, mae Williams wedi creu cyfres o gychod gwenyn anferth, tri ar dir Cadeirlan Tyddewi a tri yn Ferns. Mae’r strwythurau llawn atgofion hyn wedi’u modelu’n fras ar y math o gychod gwenyn gwellt traddodiadol y gallai Aeddan Sant fod wedi’u defnyddio i ofalu am wenyn Dewi Sant.

Er eu bod yn llawer mwy o ran maint ac yn symlach eu ffurf, mae’r cerfluniau cychod gwenyn hyn yn gartref i wenyn go iawn mewn cychod gwenyn arferol, yn gerfluniau byw, gweithredol ar gyfer y ddau safle. Mae gwenynwyr yn y ddwy gymuned wedi bod yn brysur gyda’r gwaith o gynllunio’r cychod gwenyn ​​ac yn gofalu am y gwenyn. Ymhen amser, bydd Tyddewi a Ferns yn cynhyrchu eu mêl eu hunain, a fydd yn cael ei gasglu a’i roi mewn jariau i’w werthu ar y ddau safle a’i rannu ar draws Môr Iwerddon rhwng y cymunedau cyfagos.

Yn ôl yr hanes, pan adewodd Aeddan Sant Dewi fe’i dilynwyd deirgwaith i’r llong gan wenyn Dewi wrth iddo geisio dychwelyd i Iwerddon. Bob tro dychwelodd Aeddan Sant y gwenyn i’r fynachlog ond y trydydd tro, wrth weld caredigrwydd Aeddan Sant, cytunodd Dewi Sant i’r gwenyn fynd gydag ef i Iwerddon. Teimla Williams fod y stori hon, boed yn wir neu beidio, yn fotiff braf ar gyfer y cysylltiad rhwng y ddau le.

Trwy ddwyn y ‘stori’ hon i gof gyda cherflun, sydd hefyd â defnydd ymarferol, mae’n bosibl gwneud i’r cysylltiadau hynafol hyn deimlo’n ddiriaethol a pherthnasol.

Bedwyr Williams

Mae Bedwyr Williams yn wreiddiol o Lanelwy a bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae’n cael ei gydnabod yn eang fel un o artistiaid cyfoes mwyaf arwyddocaol Cymru ac fe gynrychiolodd Gymru yn Biennale Fenis yn 2013 gyda’i osodiad ‘The Starry Messenger’. Mae’n gweithio ar draws ystod o gyfryngau mewn orielau a lleoliadau celf gyhoeddus, gan ddefnyddio hiwmor a swrrealaeth yn aml i archwilio diwylliant o berspectif gwahanol. Ar gyfer y prosiect hwn, mae wedi gweithio’n agos gyda’r Contemporary Art Society, ymgynghoriaeth sy’n arbenigo mewn cefnogi a chyflwyno prosiectau celf cyhoeddus. Meddai Bedwyr: ‘Fel artist rwy’n hoffi troi at straeon a chwedlau am fy ysbrydoliaeth a’r hyn rwyf wir yn ei fwynhau yw gweithio gyda’r chwedlau hyn mewn ffordd chwareus a pherthnasol’

“Mae gen i ddiddordeb mewn gwrthrychau sy’n gwahodd cymunedau i ddod yn gyfranogwyr gweithredol er mwyn gwneud y gwaith celf yn gyflawn. Rydw i am i bobl gymryd rhan lawn yn y gwaith celf, gan wneud y pethau bychain er mwyn dod â’r gwaith celf yn fyw, ac anghofio’u hunain a’u gofidiau beunyddiol am ychydig oriau. Geiriau olaf Dewi Sant oedd “Gwnewch y pethau bychain. ” Mae’r ethos hwn wedi arwain datblygiad fy nghynnig sy’n seiliedig ar stori Dewi Sant a Aeddan Sant ac sydd wedi’i drwytho yn hanes a hud a lledrith y ddau leoliad cyysylltiedig yma”.

Ariannwyd gan: Cysylltiadau Hynafol

Dyddiadau 2021-2022

Categories
Celfyddydau Cymuned

Geiriau Coll – St Davids Connection

Prosiect Cymunedol

Geiriau Coll –
St Davids Connection

Cam cyntaf llwybr celf a natur yw Lost Words, a fydd yn cael ei greu yn Nhyddewi a’i arwain gan St David’s Connection, sefydliad cymunedol newydd a sefydlwyd gan Becky Lloyd ac Amanda Stone. Mae’r llwybr wedi’i ysbrydoli gan The Lost Words, llyfr llwyddiannus ac arddangosfa deithiol gan yr artist ac awdur gwobrwyedig lleol, Jackie Morris a’r awdur Robert McFarlane. Mae Jackie’n byw a gweithio yn Nhyddewi ac yn cael ei hysbrydoli gan harddwch naturiol Penrhyn Dewi.

“Rydym yn falch o fod wedi derbyn y gefnogaeth yma i gael y prosiect oddi ar y ddaear. Byddem yn rhedeg gweithdai a gweithgareddau i ymgysylltu ag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol, er mwyn cyd-ddylunio a datblygu’r llwybr Geiriau Coll, sy’n dathlu cysylltiad yr ardal hon i fyd natur a’r rôl mae hynny’n chwarae yn ein lles.”

Becky Lloyd – St Davids Connection

Dyddiad: Awst 2020 – Rhagfyr 2021

Allbwn y Prosiect: Llwybr Celf a Natur

Dysgwch fwy: www.facebook.com/stdavidsconnection.co

Categories
Celfyddydau Pererindod

Camino Creadigol

Prosiect Celf

Camino Creadigol

Mae Cysylltiadau Hynafol yn cynnal pererindod arbrofol a chreadigol o Ferns i Dyddewi ym mis Mai 2022 – y Camino Creadigol. Bydd pedwar artist, pedwar aelod o’r gymuned, awdur taith a gwneuthurwr ffilmiau yn gwneud y daith wyth diwrnod ar droed o Ferns i Dyddewi gan ddechrau ar 1 Mai a gorffen ar 8 Mai. Bydd ffilm ddogfen yn adrodd hanes eu taith ac yn annog eraill i ddilyn yn ôl eu troed.

Yr artistiaid yw: Bonnie Boux, Kate Powell, Suzi MacGregor ac Ailsa Richardson

Mae’r prosiect yn partneru â Journeying, cwmni tywyswyr cerdded a phererindod Celtaidd yn Sir Benfro sy’n gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Pererindod Prydeinig ar ddatblygu’r llwybr pererinion newydd o Ferns i Dyddewi, sef prif waddol y Prosiect Cysylltiadau Hynafol a gaiff ei lansio’n swyddogol yn 2023.

Mae 2023 yn nodi 900fed pen-blwydd rhoi braint i Dyddewi gan y Pab Callixtus II, a ddatganodd fod dwy bererindod i Gadeirlan Tyddewi gyfystyr ag un daith i Rufain. Mae’n teimlo felly fel blwyddyn addas i lansio’r llwybr newydd!

Bydd y llwybr yn annog cysylltiadau cryfach rhwng y ddau ranbarth Celtaidd hyn, yn ogystal â denu ymwelwyr tramor mewn ffurf gynaliadwy o dwristiaeth drawsffiniol.

Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain (BPT) wedi creu rhestr bostio ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r llwybr newydd hwn. Cliciwch ar y botwm isod i ymuno.

Y Daith

Bydd y bererindod yn cychwyn gyda dathliadau cymunedol a’r perfformiad cyntaf erioed o ddarn cerddoriaeth Geltaidd draddodiadol (sydd wedi’i gyfansoddi’n arbennig ar gyfer y digwyddiad). Dechrau Nadoligaidd teilwng i grŵp o bererinion ar eu taith. Yna bydd y pererinion yn gwneud eu ffordd i Rosslare trwy Oulart, Olygate ac Ynys Ein Harglwyddes lle byddan nhw’n mynd ar fferi i Abergwaun. Yn olaf, byddan nhw’n cerdded llwybr arfordir Sir Benfro a rhai llwybrau mewndirol. Byddan nhw’n cyrraedd pen eu taith, tref fechan Tyddewi, ddydd Sul 8 Mai lle byddan nhw’n cael croeso bendigedig. Bydd pyped anferth o Dewi Sant yn ymuno â’r pererinion ac yn arwain y teithwyr i dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi gyda gorymdaith gôr arbennig. Golygfa wirioneddol ryfeddol! Arweinir y digwyddiad gan Small World Theatre. Bydd yr artistiaid yn cyflwyno perfformiad byrfyfyr i rannu hanes eu taith a’u profiadau ar hyd y daith.

Cyfryngau a Ffilm Ddogfen

Trwy gydol y daith, bydd profiadau’r pererinion yn ogystal â’r golygfeydd hyfryd, safleoedd treftadaeth a bywyd gwyllt yn cael eu dogfennu gan Llif: Flow, cwmni cyfryngau digidol o Ynys Mon. Bydd y ffotograffau a’r clipiau fideo yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r prosiect a chysyniad y llwybr pererinion newydd ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac mae ffilm ddogfen fer wedi’i chomisiynu er fel dull o hyrwyddo ac fel gwaddol.

Dilynwch y stori!

Dilynwch daith y pererinion ar ein tudalen Instagram a fydd yn cael ei diweddaru’n ddyddiol

Dyddiad: Mai 2022

Ariennir gan: Cysylltiadau Hynafol

Mewn Partneriaeth â: Journeying

Allbynnau’r Prosiect:
Perfformiadau gan artistiaid
Ffilm ddogfen
Cynnwys byr ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a ffotograffau

Dysgwch fwy yn: www.journeying.co.uk