Categories
Archeoleg

Datguddio’r Gorffennol

Prosiect Archeoleg

Datguddio'r Gorffennol

Bydd prosiect archeolegol ‘Datguddio’r Gorffennol’ yn archwilio safleoedd ym Mhenfro a Gogledd Wexford drwy dirfesur geoffisegol er mwyn datguddio gwybodaeth ynglŷn â’r Eglwys Geltaidd gynnar, Seintiau Celtaidd, eu dilynwyr a’u pererindodau a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddwy ardal, ac felly’n cyfrannu at y stori drawsffiniol. Techneg yw geoffiseg sy’n mesur arwyneb y ddaear a’r hyn sydd oddi tanodd drwy greu signal trydanol sy’n cofnodi ac yn mapio’r archeoleg danddaearol.

O fewn ei heglwysi, ei chapeli a’i mynwentydd, mae tirwedd eglwysig Sir Benfro a Wexford yn cofnodi’r straeon a’r cysylltiadau â Dewi Sant ac Aeddan Sant – atgof o bwysigrwydd lonydd môr yr Iwerydd a gysylltai eglwysi Cymru ac Iwerddon..

Y safleoedd a dargedwyd hyd yn hyn yw:-

Sir Benfro Chwefror 2021.

Fel canolfan esgobol roedd Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ganolbwynt cryn dipyn o weithgaredd eglwysig yn y mileniwm 1af OC, roedd y posibilrwydd o oroesiad nodweddion canoloesol cynharach wedi’i ystyried a chwblhawyd y geoffiseg ar Berllan y Cantor i’r de-orllewin o’r Gadeirlan yn Awst 2020. Mae’r canfyddiadau’n datgelu llawer o weithgaredd gyda nodweddion diddorol sydd o bosibl yn ymwneud â llociau cynharach, wal ffiniol bosib a nodweddion yn gysylltiedig â’r nawdd.

Eglwys Mathri– lloc cylchol mawr o’r canoloesoedd cynnar o amgylch safle sydd o bosib yn rhagflaenydd, o’r 5ed neu 6ed ganrif, y safle eglwysig yn Nhyddewi.

Amgylchoedd Eglwys Llanrhian – lloc eglwys ganoloesol gynnar potensial.

Mynwent Waun y Beddau/Carreg Nymllwyd – mae’r enwau’n awgrymu safle claddu canoloesol cynnar lle mae beddi o ddyddiau canoloesol cynnar eisoes wedi’u canfod.

Capel yr Hen Fynwent – mae’r enw’n awgrymu gweithgaredd canoloesol cynharach neu gynnar ar y safle.

Rosina Vallis/Hodnant – rhagflaenydd posib i’r safle eglwysig diweddarach yn Nhyddewi, wedi’i ddiffinio gan loc gyda darnau o deils llawr canoloesol.

Wexford Awst 2021

Abaty FearnaSefydlwyd ar ddechrau’r 7fedganrif gan Aeddan Sant (a fu farw yn 624), a gai hefyd ei adnabod fel Máedhóg Sant. Bu’n ddisgybl i Dewi Sant, yn ôl yr hanes. Mae tair croes wenithfaen blaen a charreg groes sy’n amlygu gwreiddiau cynharach Fearna. Yn ôl y son, bu farw Diarmait MacMurrough, Brenin Leinster yn Fearna yn 1171 ac fe ddywedir bod darn o groes uchel addurnedig yn y fynwent yn nodi man ei gladdu. Yn ddiweddarach daeth Fearna yn adnabyddus fel Abaty’r Santes Fair, ac mae’n debyg bod y cae yn cynnwys mynachlog gynnar a lloc mynachaidd sydd eisoes wedi ei dargedu fel safle cloddio gan yr Irish Archaeological Field School, a bydd geoffiseg yn helpu gyda’r cloddio.

Eglwys Toombe– mynachlog gynnar mae’n debyg, gyda lloc eglwysig hirgrwn sy’n cynnwys lloc mewnol ac allanol.

Ballyorley Upper– lloc eglwysig cynnar   gyda thraddodiad o fod yn safle eglwys gynnar.

Kilmyshall – safle eglwys  gynnar, mynwent a ffynnon gysegredig mewn lloc hirgrwn.

Dyddiad: Hydref 2019 – Chwefror 2022

Mewn partneriaeth â: DigVentures/MetGeo i Gyngor Sir Penfro, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Wexford a Visit Wexford.

Allbynnau’r Prosiect:
Adroddiad Geoffisegol
Tudalen Brosiect ar wefan DigVentures
Blogiau
Trydariadau
Cymryd rhan mewn Digwyddiadau Geoffisegol
Gweithdai ar sut i wneud Geoffiseg

Dysgwch fwy:
www.archaeology.ie

Categories
Celfyddydau

Seán Vicary

Comisiwn Celf

Seán Vicary

“Rwy’n mynd i fynd ar daith drwy dirwedd sy’n frith o leoedd a threftadaeth fy hynafiaid ar drywydd gwreiddiau fy hen fam-gu ger Ferns.

Gan ddefnyddio iaith a phrosesau archaeoleg fel trosiad, byddaf yn mynd ati i grafu haenau’r dirwedd o’r neilltu er mwyn datgelu naratifau cudd, gan eu casglu i lunio cyfrol bersonol, ddiddorol a chreadigol sy’n symud o ogledd Sir Benfro i ogledd Swydd Wexford a ‘gartref’ eto. Bydd llais, testun, cerddoriaeth, ffilm ac animeiddio’n cyfuno i gynrychioli’r lleoedd hyn, gan greu ymdeimlad dyfnach o hunaniaeth drwy rannu profiadau o ailgysylltu.”

'Nodiadau Maes RAF Tyddewi'

“Darganfyddais yn ddiweddar fod fy hen fam-gu wedi’i geni ym 1874, dim ond 3.5 milltir o Ferns yn Camolin. Roedd hi’n un o ddeg o blant; wn i ddim byd arall amdani hi na’i theulu. Yn yr oes sydd ohoni, lle mae aflonyddwch a gwleidyddiaeth hunaniaeth ffyrnig yn corddi’r dyfroedd, mae’n teimlo’n briodol ystyried o ble y daethon ni er mwyn myfyrio ar ble rydyn ni am fynd. Mae fy ngwreiddiau Gwyddelig i’w gweld yn fy enw, ac eto dydw i erioed wir wedi cydnabod y rhan honno ohonof. Hoffwn i ddod i ddeall y grymoedd a arweiniodd ata’ i’n byw yma draw dros y dŵr o gartref fy hen fam-gu. Drwy fynd ati i gloddio drwy fy ngorffennol fy hun, fe fydda i’n cychwyn proses sy’n adlewyrchu’r gwaith ymchwil archaeolegol a hanesyddol sy’n mynd ymlaen yn y ddwy gymuned.

Fe fydda i’n edrych ar wahanol ymatebion personol i le a thirwedd, lle maen nhw’n gorgyffwrdd, a sut y gallai cynrychiolaeth artistig eu hagor nhw er mwyn i bobl eraill gael eu deall. Dwi’n arbennig o gyffrous am y defnydd o geoffiseg ar gyfer datgelu strwythurau/olion cudd yn y dirwedd ac fe fydda i’n archwilio sut y gellir trin y data a gynhyrchir gan y technegau geoffiseg (gradiometreg magnetig, dargludedd electromagnetig a radar sy’n treiddio’r ddaear) i lunio canlyniad artistig.

Mae rhywbeth deniadol am y broses archaeolegol a dwi’n gweld llawer yn debyg i fy ngwaith fy hun gyda’r ceflfyddydau. Mae pyllau profi a dilyniannau stratigraffig archaeoleg yn mapio cyfnodau yn hanes lleoedd dros amser, gan dorri ar draws ein tirweddau mewnol ac allanol a’n gorfodi i ddychmygu ein dyfodol fel rhan o’r cofnod hwn. Mae meddwl ar raddfeydd amser sy’n ymestyn y tu hwnt i’n hoes ein hunain yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau. Sut allai hyn hefyd effeithio ar ein dealltwriaeth o bryderon y byd modern, tybed?”

Dyddiad: Medi 2020 – Rhagfyr 2020