Categories
Straeon

Aeddan Sant yng Nghymru

Straeon

Aeddan Sant yng Nghymru

Fe ymddengys bod pŵer a dylanwad Aeddan ymhlith Brythoniaid Cymru wedi bod yn sylweddol. Mewn un chwedl, anogwyd Aeddan gan Dewi ac eraill i ddefnyddio ei bwerau gwyrthiol i wella mab Brenin y Brythoniaid, a oedd yn ddall, yn fyddar ac yn gloff. Anfonwyd y bachgen at Aeddan, ac fe weddïodd yn daer am ei adferiad a maes o law fe wellodd y bachgen yn wyrthiol. Yn dilyn y wyrth hon, dywedir fod enw Aeddan wedi dod yn hysbys ledled y deyrnas. Dengys straeon fel hyn bod y teulu mwyaf pwerus yn y deyrnas yn dibynnu ar ddynion sanctaidd fel Aeddan. Heb os, roedd olynwyr Aeddan, y clerigwyr a gofnododd y straeon hyn, yn awyddus iawn i bwysleisio hyn wrth y rhai a rheolai’r wlad.

St. Mogue's (St. Aidan's) holy well in Ferns, Co. Wexford

Dengys stori arall am gyfnod Aeddan yng Nghymru sut y cafodd digwyddiadau’r unfed ganrif ar ddeg a’r ddeuddegfed ganrif effaith ar y ffordd yr adroddwyd yr hanes amdano. Mae’n adrodd yr hanes am sut y gwnaeth y Brythoniaid yng Nghymru wynebu’r perygl o oresgyniad gan fyddinoedd mawr y Sacsonaidd. Anfonwyd Aeddan gan Dewi i faes y gad ac yno fe weddïodd dros y Brythoniaid, wrth iddynt wynebu eu gelynion Sacsonaidd lawer mwy niferus. Yn dilyn ymyrraeth Aeddan, trodd y Sacsoniaid a ffoi a chawsant eu herlid a’u lladd gan y Brythoniaid dros yr wythnos ganlynol. “Ni laddwyd yr un Brython drwy law y Sacsoniaid drwy gydol y cyfnod a hynny trwy ras Duw a gwyrthiau Maedoc. Ac ni wnaeth yr un Sacson oresgyn Prydain tra roedd Maedoc yno ac yn dilyn y gwyrthiau hyn”. Mae’n bosibl bod y stori hon wedi’i chreu ar adeg pan oedd Cymru dan fygythiad y Normaniaid a gellir ei dehongli fel ymgais gan y Cymry i ddychryn goresgynwyr posib.

Straeon eraill

Ceir sawl hanesyn arall am gyfnod Aeddan yng Nghymru. Fe iachaodd ddyn oedd ag anffurfiad ar ei wyneb, “oedd â wyneb mor wastad â bwrdd, heb lygaid na thrwyn”. Unwaith tra’n cludo cwrw yn ôl i’r fynachlog, difrodwyd y llestr a chollwyd y cwrw. Ond fe wnaeth Aeddan arwydd y groes, atgyweirio’r difrod a chludo’r cwrw i’w gyd-fynachod.

Ffynhonnell: “Bywyd Máedóc o Ferns” yn C. Plummer (gol). Bethada Náem nÉrenn: Lives of the Irish Saints, Golygwyd o’r llawysgrif gwreiddiol. gyda Rhagymadrodd, Cyfieithiadau, Nodiadau, Geirfa a Mynegeion, Cyf. 2, The Clarendon Press, Rhydychen, 1922. St. Mogue’s (St. Aidan’s) holy well in Ferns, Co. Wexford. St. Mogue’s (St. Aidan’s) holy well in Ferns, Co. Wexford. 32 – St David’s Cathedral 01

Categories
Straeon

Pysgotwyr Tinnaberna

Llên Gwerin

Pysgotwyr Tinnaberna

Digwyddodd trychineb Pysgotwyr Tinnaberna yn yr 1810au. Pentref pysgota bach ar arfordir gogledd Wexford ger Kilmuckridge oedd Tinnaberna. Aeth dau gwch pysgota allan i’r môr ar dydd gwledd Sant Martin, 11 Tachwedd. ac fe’u chwythwyd allan ymhell i Fôr Iwerddon gan storm. Collwyd un, ond cyrhaeddodd y llall dir arfordir Cymru. Cafodd y criw fwyd a lloches gan ffermwr, ond ni allent gyfathrebu ag ef gan mai dim ond Cymraeg siaradai. Yn y diwedd, cyrhaeddodd y dynion yn ôl yn Ballycotton, Swydd Corc a cherdded yn ôl i Wexford i gael eu cyfarch gan berthnasau a oedd yn credu eu bod wedi mynd am byth. Daeth hanes y drasiedi hon yn destun baled sy’n dal i gael ei chanu’n lleol.

Ffynonellau:
The Schools Collection, Cyfrol 0886, tt.24-5

Ar gael ar-lein ar:
www.duchas.ie
Cyrchwyd 21 Tachwedd 2019
Gaul, L. “Songs, Ships and High Seas” yn The Past, Rhif. 31, 2011-’12, tt.95-102

Categories
Straeon

Y Sgwner Elizabeth

Llên Gwerin

Y Sgwner Elizabeth

Fis Hydref 1827, suddodd y sgwner Elizabeth oddi ar Benrhyn Duffcarrick, i’r gogledd o Courtown ac fe foddwyd bob un o’r naw morwr ar hugain. Llong o Aberdaugleddau yn Sir Benfro oedd yr Elizabeth ac roedd ei chapten William Griffiths yn frodor o Abergwaun. Claddwyd ei gorff ym mhridd Wexford ym mynwent Prospect ger Ballymoney. Nid yw’n hysbys a gafodd cyrff y morwyr eraill eu darganfod.

Mae carreg fedd gain i’w gweld yno hyd heddiw gyda’r arysgrif isod.

“Yma gorwedd gweddillion William Griffiths o Abergwaun, Sir Benfro, De Cymru, diweddar gapten y sgwner Elizabeth o Aberdaugleddau, a ddaeth i ddiwedd ei fordaith ddaearol gyda’r holl griw ar Hydref 28ain, 1827 yn 35 mlwydd oed.

Yr Arglwydd a’m hachubodd rhag stormydd a pheryglon
Fe’m rhyddhaodd o donnau Neifion a gwyntoedd Boreas.
Ond gerllaw’r graig hon fe gollais fy anadl addfwyn
Ac mewn tonnau gwylltion a moroedd geirwon, dioddefais wewyr Marwolaeth.”

Ffynonellau
The Schools Collection, Cyfrol 0888, tt.120-1

Ar gael Arlein ar:
www.duchas.ie
Cyrchwyd 21 Tachwedd 2019

Cymdeithas Hanesyddol Gogledd Wexford:Recordiadau Cerrig Beddau

Ar gael ar-lein:
www.northwexfordhistoricalsociety.com
Cyrchwyd 21 Tachwedd 2019