Categories
Cyfle Newyddion

Cyfleoedd gwaith – Swyddogion pererinion ar gyfer Sir Benfro a Wexford

Cyfle

Cyfleoedd gwaith - Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain yn chwilio am ddau Swyddog Pererindod

Mae’n bleser gan Gysylltiadau Hynafol gyhoeddi penodiad partneriaeth o sefydliadau a fydd yn cydweithio i reoli’r llwybr pererinion newydd rhwng Tyddewi, Sir Benfro a Ferns yn Sir Wexford. Arweinir y bartneriaeth gan Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain, ynghyd â Pilgrim Paths of Ireland, Journeying a Guided Pilgrimage.

Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain yn hysbysebu dwy swydd Swyddog Pererindod newydd, un ar gyfer Sir Benfro ac un ar gyfer Wexford.

Meddai Arweinydd Prosiect Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain, Dawn Champion:

“I gefnogi’r prosiect hwn, rydym yn falch iawn o allu cynnig swyddi llawn amser i ddau Swyddog Pererindod, un yn Wexford ac un yn Sir Benfro. Bydd y swyddogion pererindod hyn yn cael cyfle proffesiynol prin i ysbrydoli pobl, pererinion, cymunedau a busnesau i gael manteision pererindod. Bydd y llwybr pererindod yn creu gwaddol parhaus i’r ddwy gyrchfan pererinion hynod hon drwy adfywio cymunedau, denu pererinion a sicrhau traddodiad diwylliannol modern hir ei barhad.

Rydyn ni’n chwilio am ddau berson arbennig sy’n adnabod yr ardal a’i phobl yn dda, i gynllunio a chyflwyno rhaglen bererindod lawn ac ysbrydoledig trwy drafod â phobl o bob cymuned, a datblygu gweithredu cymunedol a dan arweiniad gwirfoddolwyr.”

Mae’r swydd ddisgrifiadau a’r drefn ymgeisio i’w gweld yma: www.britishpilgrimage.org/pilgrimage-officer-job-vacancies

cydnabyddiaeth am y ddelwedd: Ffotograff o Janet Ingram, Swyddog Addysg a Phererindod Eglwys Gadeiriol Tyddewi gan Journeying.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 3 Ionawr 2022

Allbynnau’r Prosiect: Dwy swydd gyfwerth ag amser llawn newydd

Categories
Newyddion Pererindod

Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro

Pererindod

Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro

Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain wedi creu partneriaeth gyda Pilgrim Paths of Ireland, Journeying a Guided Pilgrimage i reoli’r llwybr pererinion newydd rhwng Tyddewi, Sir Benfro a Ferns yn Sir Wexford. Llwybr y pererinion fydd prif waddol y prosiect Cysylltiadau Hynafol.

Dywedodd Guy Hayward, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain:

“Nod Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain yw hwyluso gweithgaredd ar lawr gwlad o gwmpas Prydain trwy gynnig ein harbenigedd yn rhad ac am ddim i bawb sydd ei angen, ac mae cymaint mwy o’r gweithgaredd cymunedol lleol hwn nawr eu bod yn gweld potensial deniadol pererindod i’w hardal leol y maen nhw’n ei hadnabod ac yn ei charu. Rydyn ni hefyd am i fwy o bobl gerdded y llwybrau go iawn, nid dim ond fel cysyniad hanesyddol, a dyna pam ein bod mor gyffrous ynglŷn â’r prosiect hwn, sy’n creu hen lwybr fel newydd gyda’r holl seilwaith sydd ei angen ar bererinion modern. Mae dod at ei gilydd a gweithio gyda’r holl bartneriaid gwahanol hyn – Pilgrim Paths Ireland, Journeying, Guided Pilgrimage, Cysylltiadau Hynafol – sydd i gyd yn frwd dros ffurfio cysylltiad pererindota rhwng Iwerddon a Chymru, yn mynd i arwain at y math o arloesi a ffresni sydd ond yn digwydd pan fydd diwylliannau gwahanol yn dod i gysylltiad â’i gilydd ac yn rhannu eu doethineb. Rydyn ni yng nghyfnod cynharaf y prosiect hwn, ond rwy’n gallu dweud yn barod ein bod yn mynd i greu rhywbeth hardd iawn gyda’n gilydd sy’n pontio dwy ochr y Môr Celtaidd, a rhywbeth y bydd cymaint yn ei fwynhau ac yn dod o hyd i ystyr drwyddo am genedlaethau i ddod.”

Yn gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain ac yn cynrychioli diddordeb Iwerddon yn y prosiect mae Pilgrim Paths Ireland. Dywedodd y Cadeirydd John G O’Dwyer ei fod yn: “falch iawn o fod yn rhan o’r tîm sydd â’r dasg o ddatblygu llwybr pererinion fel rhan o’r prosiect Cysylltiadau Hynafol a fydd yn coffáu taith Aeddan Sant yn y 6ed ganrif i astudio fel disgybl i Dewi Sant yng Nghymru.” Mae’n credu y bydd y prosiect yn adfywio’r hen gysylltiadau rhwng cymunedau yn Sir Benfro a Wexford drwy ddefnyddio treftadaeth gyffredin i rannu gwybodaeth, profiad a sgiliau lleol. “Dylai’r llwybr pererinion newydd olygu llawer o wariant ychwanegol i Wexford a Sir Benfro a thynnu sylw at y dreftadaeth gyfoethog sydd gan y ddwy ardal i’w chynnig i ymwelwyr,”

Hefyd yn ymuno â’r tîm bydd dau gwmni nid-er-elw o Orllewin Cymru. Mae Journeying wedi bod yn mynd â grwpiau bach o bererinion ar deithiau cerdded tywys i rannau mwy pellennig Prydain ac Iwerddon ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae Guided Pilgrimage yn cynnig pererindodau Celtaidd undydd neu sawl diwrnod sy’n creu gofod i bobl ailgysylltu’r corff a’r enaid drwy’r tirweddau Celtaidd gwyllt a hardd.

Yn dilyn ymgynghoriad cymunedol ac ymchwil marchnad, enw’r llwybr fydd Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro Mae’r arbenigwyr marchnata cyrchfan o Gaerdydd, Heavenly, ynghyd â chwmni dylunio graffeg Orchard wedi creu brand unigryw ar gyfer y llwybr a fydd yn ysbrydoli ymwelwyr o’r DU, Iwerddon a thramor i fod yn bererinion a chael profiad a allai newid eu bywydau. Bydd y brandio’n cynnwys arwyddion ar y llwybr, mapiau a thaflenni yn ogystal â phasbortau pererinion ac ap pererinion.

Bydd y llwybr ar agor i’r cyhoedd yn 2023 ar gyfer teithiau tywys a hunan-dywys. Mae yna nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn pererindodau undydd ar y llwybr newydd.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

Mae hwn yn llwybr sy’n cael ei ddatblygu ac ar hyn o bryd mae’n mynd drwy broses achredu Sport Ireland. Er bod rhai rhannau o’r llwybr ar Lwybrau Cerdded achrededig Wexford (Ferns Village, Oulart Hill, Three Rocks Trail a Carne i Rosslare), mae pob rhan arall o lwybr Llwybr Pererindod Wexford-Sir Benfro eto i’w hachredu. Felly, nid yw Cyngor Sir Wexford a’i bartneriaid datblygu llwybr yn derbyn cyfrifoldeb ac nid ydynt yn atebol am unrhyw golled, difrod neu anaf a all ddigwydd a dylai pob defnyddiwr a chyfranogwr gymryd pob gofal angenrheidiol i fodloni eu hunain ynglŷn ag addasrwydd a diogelwch y llwybr.

Allbynnau Prosiect: Dwy swydd cyfateb i amser llawn newydd. Llwybr pererindod newydd rhwng Ferns, Wexford a Thyddewi, Sir Benfro

 

Categories
Cyfle Newyddion

Ceisiadau yn eisiau ar gyfer cyflwyno prosiect celfyddydau cyfranogol FINALE

cyfle

Ceisiadau yn eisiau ar gyfer cyflwyno prosiect celfyddydau cyfranogol FINALE

Mae Cyngor Swydd Wexford yn gwahodd cyflwyniadau ar gyfer prosiect celfyddydau cyfranogol trawsffiniol uchelgeisiol sy’n ymwneud â’r thema gyffredinol ‘Pwy sy’n Bererin?’ sy’n cysylltu cymunedau Wexford a Sir Benfro, yn ogystal â diasporas rhyngwladol y rhanbarthau yma. Disgwylir i’r prosiect gael ei gyflawni drwy gymysgedd o weithgaredd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Disgwylir i’r comisiwn hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd Gwanwyn 2023 a hwn fydd diweddglo rhaglen gelfyddydol Cysylltiadau Hynafol.

Mae cyfanswm gwerth €50,000 ar gael ar gyfer y comisiwn hwn. Rhaid i un unigolyn neu sefydliad arweiniol wneud cais, ond rhaid i gynigion fod â phartner(iaid) trawsffiniol cydweithredol fel bod posibl i’r prosiect gael ei gyflawni’n gyfartal rhwng y ddau ranbarth a rhaid i’r gyllideb gyflawni adlewyrchu hyn.

Nodau allweddol y prosiect yw annog ymwelwyr rhyngwladol i’r ddau ranbarth a chyflwyno prosiect terfynol uchelgeisiol, atyniadol, trawiadol ar gyfer cymunedau lleol Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro sy’n gwella ac yn cadarnhau ymhellach eu hanes a’r cysylltiadau rhyngddynt.

Croesewir ceisiadau gan sefydliadau ac unigolion sy’n byw yn Sir Benfro neu Wexford yn ogystal â’r rhai y tu allan i ardal y prosiect, fodd bynnag mae’n rhaid i’r ymgeisydd allu dangos model cyflawni llwyddiannus sy’n ystyried eu lleoliad daearyddol, yn ogystal â’r gofyniad i sicrhau effaith gyfartal a hygyrchedd i gyfranogwyr yn Sir Benfro a Wexford.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28 Chwefror 2022
Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy borthol etenderie. Bydd angen i chi gofrestru fel cyflenwr ar y porthol er mwyn gweld yr holl ddogfennau tendro.

Allbynnau’r Prosiect:

Prosiect celfyddydau FINALE Gwanwyn 2023

Categories
Cyfle Newyddion

Yn galw artistiaid – Ffynhonnau Sanctaidd Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro

Cyfle

Yn galw artistiaid - Ffynhonnau Sanctaidd Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro

Mae Cysylltiadau Hynafol yn gwahodd Mynegiannau o Ddiddordeb gan artistiaid, cerddorion a phobl greadigol ar gyfer:

  1. Comisiynau cerddoriaeth a sain (cyfanswm y gyllideb sydd ar gael €15,000)
  2. Comisiynau llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol (cyfanswm y gyllideb sydd ar gael €15,000)

Bydd pob comisiwn yn archwilio thema Ffynhonnau Sanctaidd yng Ngogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford. Bydd y cyllidebau’n cael eu rhannu’n gyfartal rhwng Sir Benfro a Wexford. Mae’n debygol y bydd rhwng 4-6 comisiwn yn cael eu dyfarnu, o werthoedd amrywiol rhwng €2000 a €10,000, yn dibynnu ar natur y prosiect ac i ba raddau y mae’n cynnwys pobl greadigol trawsffiniol Gwahoddir cynigion ar gyfer prosiectau ar raddfa fach yn ogystal â chynigion ar raddfa fwy, mwy uchelgeisiol.

Hoffai tîm Cysylltiadau Hynafol glywed am unrhyw brosiectau rydych chi’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd, neu eisiau eu datblygu sy’n ymwneud â thema Ffynhonnau Sanctaidd trwy gyfrwng sain a/neu gerddoriaeth. NEU lenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol. Nid oes angen cynigion manwl ar hyn o bryd, dim ond amlinelliad o’r weledigaeth ar gyfer prosiect a chyllideb fras. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni ystyried pwy sydd â diddordeb, o ble maen nhw’n dod, beth maen nhw’n ei wneud, a sut y gallen nhw weithio’n greadigol gyda, neu ategu, prosiectau tebyg neu gysylltiedig dros y ffin. Cymaint â phosibl rydym eisiau annog cydweithredu trawsffiniol rhwng artistiaid sy’n gweithio gyda dulliau a/neu gyfryngau tebyg. O ganfyddiadau’r alwad agored, gwahoddir nifer fechan o ymgeiswyr i wireddu eu syniad gyda’r gyllideb a ddyrannwyd iddynt.

Mae dau friff, un ar gyfer cerddoriaeth a sain a’r llall ar gyfer llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol – gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho’r briff a’r ffurflen gais gywir os gwelwch yn dda.

Lawrlwytho’r Briff Cerddoriaeth a Sain

Lawrlwytho’r ffurflen gais Cerddoriaeth a Sain

Lawrlwytho’r briff Llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol

Lawrlwytho’r ffurflen gais Llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol

Ymholiadau: e-bostiwch ruth.jones@pembrokeshire.gov.uk

Dyddiad cau: Dydd Mercher 20fed Hydref 5 pm 2021

Allbynnau’r Prosiect: gweithiau celf – celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, cerddoriaeth a sain

Categories
Newyddion

Y murlun newydd yn Theatr Gwaun wedi’i gwblhau!

Newyddion

Y murlun newydd yn Theatr Gwaun wedi'i gwblhau!

Mae Cysylltiadau Hynafol wrth eu bodd gyda’r murlun newydd yn Theatr Gwaun, Abergwaun! Yn dilyn proses gystadleuol, rhoddwyd y contract i Accent London, dan arweiniad Grant Radford, sy’n wreiddiol o Bort Talbot ond sydd bellach yn byw yn Llundain. Dros yr haf, bu ymgynghoriadau cymunedol o gymorth i fireinio’r syniadau cychwynnol a dewiswyd y dyluniad terfynol. Gweithiodd Grant a Zoe yn galed iawn yr wythnos ddiwethaf i orffen y murlun, cyn lansiad ‘Ar Ymyl y Tir’, sef gŵyl newydd yn y theatr. Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu ynghlwm â’r gwaith. Rydym yn meddwl bod y murlun yn edrych yn gain ac yn chwaethus, ac yn cyfeirio’r un pryd at symud a mudo dros Fôr Iwerddon, sy’n themâu allweddol i Gysylltiadau Hynafol. Bydd taflen newydd sydd ar fin ymddangos yn darparu mwy o wybodaeth am hanesion lleol, llên gwerin a threftadaeth Abergwaun ac Wdig i ymwelwyr chwilfrydig.

Categories
Newyddion

Gorymdaith Aberjazz – haul, dreigiau a band pres

Prosiect Cymunedol

Gorymdaith Aberjazz - haul, dreigiau a band pres

Roedd Gorymdaith Aberjazz yn llwyddiant ysgubol ddydd Sul 29 Awst! Cynhaliwyd yr Orymdaith yng nghanol rhaglen ardderchog o jazz cyfoes yn Theatr Gwaun, Fwrn a lleoliadau eraill yn y dref. Roedd yr haul yn disgleirio yn Abergwaun wrth i Fand Pres Llarregug chwarae eu cymysgedd eclectig o jazz arddull New Orleans wedi’i ysbrydoli gan hip hop, gan ddilyn pyped draig Gymreig enfawr a grëwyd gan Invisible Octopus Yn gynharach yn y dydd, cynhaliwyd gweithdai lle gallai pobl ifanc wneud offerynnau cerdd allan o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu. Dechreuodd y ddraig a’r band o’r cylch cerrig ar Marine Walk, gan wneud eu ffordd i ganol y dref, i fyny’r Filltir Aur a rownd i gefn Neuadd y Dref, lle buont yn chwarae ychydig mwy ganeuon. Roedd y strydoedd yn llawn o bobl leol ac ymwelwyr ac roedd yr awyrgylch bwiog yn heintus.

Dyddiad: Awst 2021

Allbynnau’r Prosiect:Gorymdaith Aberjazz

Categories
Newyddion

Capel Sant Padrig – modelau 3D yn datgelu allor o fewn lloc cerrig

Prosiect Archeoleg

Capel Sant Padrig - modelau 3D yn datgelu allor o fewn lloc cerrig

Achosodd y gwaith cloddio yng Nghapel St Patricks, a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf, gyffro a diddordeb enfawr ymhlith bobl leol sy’n byw yn ardal Gorllewin Cymru, yn ogystal ag ymwelwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt.

Datgelodd y cloddiad dros gant o sgerbydau gan gynnwys dynion, menywod a babanod. Bydd dadansoddiad o’r esgyrn, sy’n digwydd ym Mhrifysgol Sheffield, yn datgelu mwy am bwy oedd y bobl hyn ac o ble y daethant.

Mae’r tîm yn Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed wedi creu dau fodel 3D, un yn dangos yr hyn sy’n ymddangos i fod yn allor a’r llall yn dangos y lloc carreg crwn gyda’r allor yn ei chanol. Mae rhagor o ymchwiliadau yn parhau er mwyn deall y nodweddion hyn yn well a sut maen nhw’n ymwneud â’i gilydd.

Bydd y dolenni hyn yn mynd â chi i’r modelau 3D:

Lloc Carreg

Allor

Disgwylir y bydd adroddiad llawn o’r cloddiad wedi’i gwblhau ddiwedd 2021.

(delwedd: argraff arlunydd o sut y byddai Capel Sant Padrig wedi edrych pan fyddai’n cael ei ddefnyddio)

Dyddiad: Awst 2021

Allbynnau’r Prosiect: Adroddiad erbyn diwedd 2021

Categories
Cyfle Newyddion

Cysylltiadau Hynafol yn chwilio am gontractwr i gyflenwi Cynnyrch Pererindod

Prosiect Cymunedol

Cysylltiadau Hynafol yn chwilio am gwmni i gyflenwi Cynnyrch Pererindod

Mae Cysylltiadau Hynafol yn dymuno contractio endid dielw neu gwmni masnachol i oruchwylio, datblygu a hyrwyddo llwybr pererinion newydd arfaethedig rhwng Ferns yn Wexford, Iwerddon a Thyddewi yn Sir Benfro, Cymru. Bydd ffocws cryf ar ddatblygu’r cynnyrch pererindod gan ddefnyddio’r seilwaith presennol (llwybr arfordir Sir Benfro ac atyniadau cysylltiedig yn Wexford) yn ogystal ag ar gydlynu a marchnata cynhyrchion twristiaeth cysylltiedig. Mae’r gyllideb a ddyrennir ar gyfer y contract hwn ar gyfer cyflawni allbynnau tymor byr penodol a nodwyd yn ogystal â gweithredu fel arian sbarduno ar gyfer y weledigaeth mwy hirdymor ar gyfer y fenter. Bydd angen i’r contractwr llwyddiannus, p’un ai ei bod yn endid nid er elw neu’n fasnachol, ddangos brwdfrydedd am weledigaeth hirdymor y prosiect y tu hwnt i gwmpas cyflawni’r contract a dangos pa fesurau y byddent yn eu rhoi ar waith yn ystod cyfnod y contract i sicrhau cynaliadwyedd ac annibyniaeth ariannol unwaith y bydd y prosiect Cysylltiadau Hynafol yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2023.

Bydd y contractwr llwyddiannus yn gallu dangos gwybodaeth gefndir drylwyr a dealltwriaeth o gyd-destun hanesyddol a chyfoes pererindod yng Nghymru, y DU, Iwerddon ac Ewrop. Bydd ganddynt brofiad sylweddol o weithio o fewn cyd-destun pererindod NEU brofiad trosglwyddadwy mewn diwydiannau twristiaeth cysylltiedig (ee cerdded llwybrau, twristiaeth cyrchfan).

Rhaid derbyn pob ymholiad a chais trwy Etender Bravo Solutions

https://etenderwales.bravosolution.co.uk/web/login.shtml

Bydd angen i ymgeiswyr gofrestru er mwyn gweld yr holl gyfleoedd tendro. Ar ôl mewngofnodi byddwch yn gallu gweld y briff llawb a manylion y tendr llawn trwy edrych yn yr adran Gwahoddiad i Dendro (ITT). Chwiliwch o fewn yr adran ‘ITT open to all suppliers’ a chwiliwch am ‘Development and Management of new cross-border pilgrimage route between Ferns and St Davids and associated tourism products’ neu nodwch y cod 87231

Dyddiad: Dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau 15 Medi 2021

Allbynnau’r Prosiect: Cynhyrchion Pererindod a datblygu llwybr

Categories
Cyfle Cymuned Newyddion

Horatio Clare yn creu taith gerdded sain ar gyfer ardal Santes Non – galwad am gyfraniadau cyhoeddus

Prosiect Cymunedol

Horatio Clare yn creu taith sain newydd ar gyfer ardal St Non's

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i gyfrannu at brosiect newydd cyffrous, gyda’r nod o ddathlu hanes, tirwedd a phobl ardal eiconig Santes Non, Sir Benfro trwy gyfrwng sain.

Yn eistedd uwchben y clogwyni lai na milltir y tu allan i Dyddewi, gyda golygfeydd ar draws Bae San Ffraid a thuag at ynysoedd Sgomer a Gwales, Capel a Ffynnon Sanctaidd Santes Non yw’r man, yn ôl y traddodiad, y ganed Dewi i’w fam, Non. Dylanwadodd y Santes Non a Dewi Sant, Nawddsant Cymru, ar ledaeniad Cristnogaeth ar draws y byd Celtaidd yn y 6ed ganrif, gan gynnwys yng Nghymru, Iwerddon, Cernyw a Llydaw.

Y lleoliad ysblennydd, hanesyddol a gwyllt hwn fydd man cychwyn yr awduron/darlledwyr gwobredig Laura Barton a Horatio Clare, a gomisiynwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i greu podlediad taith gerdded sain ar hanes, pobl a thirwedd yr ardal. Bydd Horatio a Laura’n gweithio ochr yn ochr â’r cynhyrchydd ymgynghorol Graham Da Gama Howells, sy’n byw yn sir Benfro a’r peiriannydd Sain gyda’r BBC, Andy Fells.

Bydd taith gerdded Santes Non yn brofiad clywedol gyda lleisiau a cherddoriaeth y lle a’r gymuned arbennig hon. Bydd gwrandawyr yn dysgu am ffynhonnau, seintiau, capeli, pererinion, hanes naturiol, iaith, archeoleg, ffermio a defnydd tir, moderniaeth, cadwraeth ac arwyddocâd ehangach y lle hwn i hunaniaeth Gymraeg a diwylliant Ewropeaidd. Bydd y darn gorffenedig ar gael fel podlediad i’w lawrlwytho o unrhyw le yn y byd, gyda’r nod o ddod â’r lle, ei hanes a’i bobl i gynulleidfa ryngwladol.

Yn galw am gyfranwyr a chyfle i ddysgu sgiliau newydd!

Gwahoddir awduron, artistiaid, cerddorion, archeolegwyr, amgylcheddwyr, syrffwyr, storïwyr, cerddwyr, dringwyr, cychwyr a physgotwyr lleol i adrodd eu straeon. Mae’r tîm cynhyrchu hefyd yn cynnig cyfleoedd i drigolion ifanc yr ardal gael hyfforddiant, datblygiad a phrofiad gwaith mewn darlledu, recordio sain ac ymchwil. Cysylltwch â Horatio Clare ar horatioclare@hotmail.com

Mae Horatio Clare wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru ddwywaith, ac mae ei waith yn cynnwys Running for the Hills (Gwobr Somerset Maugham), A Single Swallow, Down to the Sea in Ships (Llyfr Taith y Flwyddyn Stanford Dolman), Aubrey and the Terrible Yoot (Gwobr Branford Boase), The Light in the Dark, Orison for a Curlew a Something of his Art: Walking to Lubeck with J S Bach. Ei lyfr diweddaraf yw Heavy Light: a story of madness, mania and healing. Mae Horatio’n cyflwyno cyfres flynyddol enwog Sound Walks ar Radio 3, sydd wedi mynd â gwrandawyr ar hyd Clawdd Offa, ar draws yr Almaen yn ôl troed JS Bach, i’r Goedwig Ddu ar gyfer Winter Wanderer, ar hyd Llwybr Cylch yr Arctig yr Ynys Las ac yn fwyaf diweddar i arfordir dwyreiniol Lloegr ar gyfer taith sain Sunrise Sound Walk.

Mae Laura Barton yn ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddiadau gan gynnwys The Guardian, The Observer, a The Independent. Mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar gerddoriaeth, rhywedd a thirwedd. Mae hi’n cyfrannu’n rheolaidd at BBC Radio 4 ac mae wedi gwneud rhaglenni dogfen ar bynciau sy’n amrywio o tomboys i hyder, i gerddoriaeth ac afonydd. Bu tair cyfres o Notes From a Musical Island, yn archwilio’r berthynas rhwng cerddoriaeth a thirwedd Prydain.

Categories
Cymuned Newyddion

Ar Ymyl y Tir – gŵyl newydd i Sir Benfro

Prosiect Cymunedol

Ar Ymyl y Tir - gŵyl newydd i Sir Benfro

Gyda chymorth Cysylltiadau Hynafol bydd yr ŵyl newydd bwysig hon yn cael ei lansio fis Medi 2021 gan ddefnyddio lleoliadau yn ac o amgylch Abergwaun ac Wdig gan ei wneud yn brofiad atmosfferig a chofiadwy.

Bydd yr ŵyl dridiau yn rhoi cyfleoedd newydd i bawb ar draws cymunedau Gogledd Sir Benfro ddathlu’r straeon sydd wedi’u hymgorffori yn eu hanes, y dirwedd, a’u profiad personol. Bydd perfformwyr proffesiynol ac amatur yn y cymunedau yn cymryd rhan, gyda’r awdur a’r darlledwr Jon Gower a’r cyfansoddwr David Pepper yn darparu cyfeiriad a chynnwys i’r artistiaid.

Bydd Theatr Gwaun, theatr gymunedol Abergwaun yn cynnal yr ŵyl, gan gydlynu digwyddiadau mewn sawl lleoliad gan gynnwys rhai sy’n gallu cynnig lletygarwch sy’n cynnwys cynhyrchwyr bwyd a diod arbennig Sir Benfro.

Bydd rhaglen yr ŵyl yn arddangos deunydd newydd gwreiddiol ar gyfer ei gyflwyno ar lafar, cerddoriaeth, a ffilm ac yn cynnwys ymddangosiadau gwadd gan artistiaid creadigol sefydledig sydd wedi’u hysbrydoli gan y rhan unigryw hon o Orllewin Cymru.

Dyddiad: Mawrth 2020 – Mawrth 2021

Allbynnau’r Prosiect:  Digwyddiad cymunedol a gwisgoedd etifeddiaeth